
Un byr, ond defnyddiol heddiw!
Gan barhau o DipDigidol yr wythnos diwethaf ar brawfddarllen, mae’r awgrym hwn yn ymwneud â’r nodwedd testun-i-lais (neu ‘darllen yn uchel’) yn Microsoft Word!
Cyn i ni drafod pam mae’r nodwedd hon mor ddefnyddiol, dyma sut mae’n gweithio. Er mwyn cael mynediad ato, gallwch naill ai:
Llywio i Adolygu ac yna i Darllen yn Uchel

Amlygu eich testun dewisol, clicio botwm de’r llygoden, a dewis Darllen yn Uchel

Neu, yn olaf, defnyddiwch unrhyw un o’r llwybrau byr bysellfwrdd canlynol (ffynhonnell:Tudalen gymorth Microsoft)

Felly, pam fyddech chi eisiau i’ch cyfrifiadur siarad yn uchel â chi?
Dyma rai rhesymau:
- Prawf-ddarllen
- Gall clywed yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu yn cael ei ailadrodd yn ôl i chi fod yn rhyw fath o ‘wiriad synnwyr’ i sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr ac yn dod drosodd yn y modd yr hoffech
- Amldasgio
- Gall defnyddio Darllen yn Uchel ganiatáu i chi weithio trwy ddogfennau ysgrifenedig tra byddwch chi’n gwneud pethau eraill.
- Cynorthwyo i ddeall
- Gall gweithio trwy destun ochr yn ochr â chanllaw clywadwy eich cadw ar y trywydd iawn a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n cael ei ddweud. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i unrhyw un sy’n gweld waliau mawr o destun yn frawychus!
Yn olaf, nid dyma’r unig nodwedd testun i lais yn Word!
Os ydych chi’n gweld yr awgrym hwn yn ddefnyddiol, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y nodweddion Darllenwr Ymdrwytho neu Adroddwr, sy’n canolbwyntio fwy ar gynorthwyo dealltwriaeth a mynediad i’r rhai ag anabledd yn y drefn honno.
I ddilyn ein TipDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu fel arall, gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon, lle ychwanegir TipDigidol newydd bob wythnos!
