
Mae f.lux yn rhaglen rhad ac am ddim ar gyfer eich cyfrifiadur a all helpu gyda’ch patrwm cwsg a’ch iechyd, iechyd eich llygaid, a rheoli amser / ymwybyddiaeth, oll heb unrhyw ymdrech bron.
Mae’n gweithio trwy newid yn raddol faint o olau lliw sy’n dod o’ch monitor arddangos. Yn ystod y dydd bydd eich sgrin yn llachar ac yn fywiog, fel golau’r haul, yna bydd yn cynhesu a phylu i gyd-fynd â machlud yr haul. Mae profion gwyddonol yn dangos bod y gostyngiad hwn mewn golau glas yn effeithio ar iechyd cwsg a rhythm circadaidd. Ar ben hynny, mae hefyd yn edrych yn wych.
Mae f.lux yn gweithio’n hollol awtomatig. Y tro cyntaf i chi ei ddefnyddio, rhaid i chi egluro sut le yw eich lleoliad cyffredinol a’r math o oleuo sydd gennych, ac o hynny ymlaen bydd yn gweithio’n dawel cyhyd ag y mae ei angen arnoch. Dim mwy o addasu disgleirdeb y sgrin, na chael eich dallu wrth agor eich gliniadur yn y nos. Gall hefyd gysylltu â systemau goleuadau clyfar i’w cydamseru â’ch dyfeisiau a’ch parth amser, a phylu’r goleuadau yn awtomatig ochr yn ochr â’r haul.

I ddilyn ein TipDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu fel arall, gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon, lle ychwanegir TipDigidol newydd bob wythnos!




