[:en]Benefits of the Refurbishment[:cy]Manteision y Gwaith Ailwampio[:]

[:en]Hello again!

You may have noticed a flurry of activity out the back of the Hugh Owen building this week. We have taken delivery of the furniture and the newly refurbished space is really beginning to take shape.

As we come closer to our launch date (Wednesday the 3rd of January) a reminder of the benefits of the refurbishment:
We will be increasing user space from:

  • 21 Computer Study Spaces
  • 24 Group Study Spaces
  • 21 Flexible/relaxed seating spaces
  • To:

  • 22 Computer Study Spaces (including height adjustable desk for wheelchair users)
  • 76 Group Study Spaces
  • 26 Flexible / relaxed seating
  • This is an 88% increase in study spaces for you on Level D.

    We have re-purposed back office spaces and stores to create:

  • A vending area for you to enjoy hot and cold drinks and cold snacks. This space will also be complimented with a vending machine for supplies of stationery.
  • Brand new gender neutral facilities on Level D.
  • Brand new disabled facilities, which in addition to the work the University has undertaken on the Piazza now makes Level D far more accessible.
  • Two new Group Study Rooms for up to six users and includes high spec PCs and large screen monitors.
  • We have improved ventilation, heating and lighting replacing dated systems with more energy-efficient modern systems, which saves both money and the environment as well as creating a more pleasant working environment for both students and the staff who work on Level D.

    A reminder that we re-open Level D again on Wednesday January 3rd at 8:30am.. We hope to see you then and look forward to hearing your feedback on this space.
    [:cy]Helo eto!

    Efallai eich bod wedi sylwi ar brysurdeb mawr y tu ôl i adeilad Hugh Owen yr wythnos hon. Mae’r dodrefn wedi cyrraedd ac mae’r ardal newydd yn dechrau dod i drefn.

    Wrth i ni nesáu at ein dyddiad lansio (dydd Mercher 3 Ionawr) dyma nodyn i’ch atgoffa am fanteision y gwaith ailwampio:
    Bydd yn cynyddu’r lle i ddefnyddwyr o:

  • 21 Ardal Astudio gyda Chyfrifiadur
  • 24 Ardal Astudio i Grwpiau
  • 21 lle eistedd hyblyg/hamddenol
  • i:

  • 22 Ardal Astudio gyda Chyfrifiadur (gan gynnwys desgiau sy’n gallu newid uchder ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn)
  • 76 Ardal Astudio i Grwpiau
  • 26 lle eistedd hyblyg/hamddenol
  • Dyma gynnydd o 88% mewn ardaloedd astudio i chi ar Lawr D.

    Rydym wedi defnyddio ardal y staff i greu:

  • Ardal i chi fwynhau diodydd poeth ac oer a byrbrydau oer.
  • Cyfleusterau niwtral o ran y rhywiau newydd sbon ar Lawr D.
  • Dwy Ystafell Astudio i Grwpiau ar gyfer gweithio ac astudio mewn grwpiau.
  • Rydym wedi gwella’r awyriad, y gwres a’r golau i greu amgylchedd gwaith mwy pleserus i’r myfyrwyr a’r staff sy’n gweithio ar Lawr D.

    Dyma nodyn i’ch atgoffa ein bod yn ailagor Llawr D eto ddydd Mercher 3 Ionawr am 8:30yb. Gobeithio y gwelwn ni chi bryd hynny.

    [:]

    [:en]Ceiling tiles and Information Services User Survey 2017[:cy]Teils ar y nenfwd ac Arolwg i Ddefnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth 2017[:]

    [:en]Dear library users!

    Great news – the lighting and air conditioning is now installed and our crew is putting ceiling tiles in the ceiling frame.

    On a different note, we would like to encourage all students and staff to feedback to us all your suggestions, likes and dislikes in this year’s Information Services User Survey: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/isusersurvey17

    We want to know what you think about your library, the Level D refurbishment and also the services we provide.

    We wish you a good week,
    Ania and Arfon
    [:cy]Annwyl ddefnyddwyr y llyfrgell!

    Newyddion da – mae’r golau a’r system dymheru nawr wedi’u gosod ac mae’r criw wrthi’n rhoi teils yn ffrâm y nenfwd.

    Ar nodyn gwahanol, hoffem annog yr holl fyfyrwyr a staff i roi adborth i ni am eich awgrymiadau, eich hoff bethau a’ch cas bethau, yn yr Arolwg i Ddefnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth eleni: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/isusersurvey17

    Rydym eisiau gwybod beth yr ydych yn ei hoffi am eich llyfrgell, y gwaith ailwampio ar Lawr D a’r gwasanaethau a ddarparwn.

    Gobeithio y cewch chi wythnos dda,
    Ania ac Arfon

    [:]

    [:en]Updates! Group study room and gender neutral toilets.[:cy]Newyddion diweddaraf! Ystafell astudio i grwpiau a thoiledau niwtral o ran y rhywiau.[:]

    [:en]Hello all!

    Level D refurbishment progress is stepping up fast. Every week we see things changing and beginning to take shape. Most recently our crew started working on:

    • Your new group study room…

    • and the gender neutral toilets at the bottom of the stairs.

    We would like to apologise once again for any noise disruption. As we mentioned in our previous blog posts, this will soon become less of an issue.

    Please check our previous posts:
    We are now undertaking work on the ceiling
    Come to celebrate Level D reopening on 3 January 2018!

    You will hear from us soon,
    Ania and Arfon
    [:cy]Helo bawb!

    Mae’r gwaith o ailwampio Llawr D yn symud ymlaen yn gyflym. Bob wythnos rydym yn gweld pethau’n newid a dechrau cymryd siâp. Y gwaith diweddaraf oedd dechrau gweithio ar:

    • Eich ystafell astudio newydd i grwpiau…

    • … a’r toiledau niwtral o ran y rhywiau ar waelod y grisiau.

    Hoffem ymddiheuro unwaith eto am unrhyw aflonyddwch sŵn. Fel y soniwyd yn ein blogiau blaenorol, bydd hyn yn dod yn llai o broblem o hyn allan.

    Edrychwch ar ein negeseuon blaenorol:
    Rydym nawr yn gweithio ar y nenfwd
    Dewch i ddathlu ail-agor Llawr D ar 3 Ionawr 2018

    Byddwn mewn cysylltiad eto’n fuan,
    Ania ac Arfon[:]

    [:en]Come to celebrate Level D reopening on 3 January 2018![:cy]Dewch i ddathlu ail-agor Llawr D ar 3 Ionawr 2018! [:]

    [:en]Hello again,

    Just two weeks ago we updated you on the ceiling work undertaken on Level D (see our last post here). We are pleased to say that the noisiest work is nearly over. Spaces are really starting to take shape with fixtures and fittings now being added – take a look at some new photos below:

    • The first lamps are being installed here.


    • The refreshment area is looking good!


    We know that during the past few weeks the library was not as quiet as it usually is. Your patience and understanding will be rewarded with cake for all who come to celebrate Level D reopening on Wednesday 3 January 2018. A small formal opening by the Vice-Chancellor will take place around a week later.

    We will come back soon with new updates and photos.

    Take care!

    Ania and Arfon

    [:cy]Helo eto,

    Bythefnos yn ôl gwnaethom roi’r newyddion diweddaraf i chi am y gwaith i’r nenfwd ar Lawr D (gweler ein neges ddiwethaf). Mae’n bleser gennym ddweud bod y gwaith mwyaf swnllyd bron drosodd. Mae’r ardaloedd yn dechrau cymryd siâp gyda’r darnau gosod a’r gosodiadau nawr yn cael eu hychwanegu – edrychwch ar rai o’r ffotograffau newydd isod:

    • Mae’r lampau cyntaf yn cael eu gosod yma.


    • Mae’r ardal luniaeth yn edrych yn dda!
    #

    Rydym yn gwybod nad oedd y llyfrgell mor dawel ag arfer dros yr wythnosau diwethaf. Byddwn yn gwobrwyo eich amynedd a’ch dealltwriaeth gyda chacen i bawb sy’n dod i ddathlu ail-agoriad Llawr D ddydd Mercher 3 Ionawr 2018. Bydd agoriad ffurfiol bach gan yr Is-Ganghellor yn digwydd tua wythnos wedyn.

    Byddwn yn ôl yn fuan gyda rhagor o newyddion a ffotograffau.

    Hwyl am y tro!

    Ania ac Arfon
    [:]

    [:en]We are now undertaking work on the ceiling[:cy]Rydym nawr yn gweithio ar y nenfwd[:]

    [:en]Dear students and staff,

    We hope that you all settled well in the new academic year. You might have wondered why recently the library was noisier than usual. The reason for all the disruptive drilling noise in the library is that our crew has now started working on the ceiling. They will be carrying these works over the coming two weeks. We apologise for the disruption, the noise will lessen as soon as work moves to more decorative finishing touches.

    We are working towards making our Library a modern and comfortable place to study, with the very best facilities and learning resources. Let’s now take a look at what is currently happening on Level D:

     

    • This will be your refreshment area, where you can socialize and have a cup of tea!
    •  

    • Currently, we are installing the drop ceiling in there.
    •  

    • Looking from the refreshment area we can see the cleaning up ready for ceiling grid and the new doorway on the left.
    •  

    • Apart from the ceiling we are also working on preparing the floor for our new carpets.
    •  

    • Completing interior walls for staffing area.
    •  

    • And font door new lobby frame.

     

    We are grateful for your patience and hope you look forward Level D to be re-open in January 2018.

    We will update you soon, keep checking our blog for the latest refurbishment news!

    Anna and Arfon[:cy]Annwyl fyfyrwyr a staff,

    Gobeithio eich bod wedi setlo’n dda i’r flwyddyn academaidd newydd. Efallai eich bod wedi bod yn pendroni pam mae’r llyfrgell wedi bod yn fwy swnllyd nag arfer yn ddiweddar. Y rheswm dros yr holl sŵn drilio aflonyddgar yn y llyfrgell yw bod y criw bellach wedi dechrau gweithio ar y nenfwd. Byddant yn parhau â’r gwaith hwn dros y pythefnos nesaf. Rydym yn ymddiheuro am yr aflonyddu, bydd y sŵn yn lleihau wrth i’r gwaith symud ymlaen i bethau mwy addurnol.

    Rydym yn gweithio i wneud ein Llyfrgell yn lle mwy modern a chyfforddus i astudio ynddi, gyda’r cyfleusterau a’r adnoddau dysgu gorau posibl. Beth am gael cipolwg ar yr hyn sy’n digwydd ar Lawr D ar hyn o bryd:

     

    • Hon fydd yr ardal luniaeth, lle gallwch gymdeithasu a chael paned o de!
    •  

    • Ar hyn o bryd, rydym yn gosod y nenfwd cwymp yno.
    •  

    • Gan edrych o’r ardal luniaeth gallwn weld y gwaith glanhau er mwyn paratoi ar gyfer y grid nenfwd a’r drysau newydd ar y chwith.
    •  

    • Yn ogystal â’r nenfwd rydym hefyd yn gweithio ar baratoi’r llawr ar gyfer ein carpedi newydd, lliwgar.
    •  

    • Cwblhau’r waliau mewnol ar gyfer yr ardal staff.
    •  

    • A ffrâm drws ffrynt y cyntedd newydd.

     

    Rydym yn ddiolchgar am eich amynedd ac yn gobeithio eich bod yn edrych ymlaen at weld Llawr D yn cael ei ail-agor ym mis Ionawr 2018.

    Byddwn yn rhoi’r manylion diweddaraf i chi’n fuan, cofiwch edrych ar ein blog i gael y newyddion diweddaraf am y gwaith ailwampio!

    Ania ac Arfon[:]

    [:en]How to access the Hugh Owen Library during Level D refurbishment and photos of progress[:]

    [:en]Welcome to new students and welcome back to returning students who may be suprised to find that the original library entrance on Level D is not open and that there is a temporary entrance to the Hugh Owen Library via Level E. This is due to building work taking place over summer and continuing through this first term to refurbish Level D. A reminder of why the Hugh Owen Library Level D is being refurbished.

    To help you all find your way into the Library until Level D reopens in January 2018 please see:
    How to find the Hugh Owen Library entrance from the direction of Rosser/Parry-Williams (TFTV Dept.) direction: https://youtu.be/5_Emw7sYVxQ
    How to find the Hugh Owen Library entrance from the Piazza: https://youtu.be/ZeMt3MtchGY

    Refurbished Level D is really starting to take shape with old office walls having been removed and new walls up and plastered, making new areas. The photos below have been taken just before the start of term, and show the new group study spaces, new Enquiry Desk area and the space leading down towards the stairs up to Level E of the library. We are very excited to see so much progress and look forward to new furniture arriving in November and seeing the space in full use in January 2018.


    [:]

    [:en]Progress Report 2 [:cy]Adroddiad Cynnydd 2 [:]

    [:en]Hello,

    We are currently in week 10 of building works.

    In our meeting last week with the contractors, RL Davies it was confirmed that:
    • Mechanical and Electrical isolation/strip out is 100% complete.
    • Plumbing and Mechanical 1st fix is in progress.
    • Internal partitions are all boarded on one side.
    • Entrance lobby substructure has been completed. Components have been removed to create space for our new entrance. (A reminder that the entrance will be relocated to face onto the concourse)
    • Our suspended ceiling grid is due to be installed next week.
    • Work continues on the ventilation system. This new ventilation system will result in a more pleasant working environment for staff and students on Level D.


    View from old entrance facing new Refreshment Area – Before

    View from old entrance facing new Refreshment Area – Currently

    The main thing we are working on this week with our electricians and mechanical engineers, is the position of our new furniture. Following on from regular student feedback, we are endeavoring to ensure we have as many plug and USB points as is reasonable in our new space to enable you to charge your devices.


    View from old entrance – Before
    View from old entrance. Door on left of photo leads to stairs. Current view.


    Location of new entrance – before


    New entrance being build on left side of photo. Current view

    We have also had very successful meetings with our colleagues in the Design Studio. Again, following on from student feedback, we are hoping to have some very beautiful murals and wallpaper in our new look Level D.

    (Welsh translation to follow)[:cy]Helo,
    Rydym wedi cyrraedd wythnos 10 o’r gwaith adeiladu.
    Yn ein cyfarfod yr wythnos ddiwethaf gyda’r contractwyr, RL Davies, cadarnhawyd y cynnydd canlynol:
    • Mae’r gwaith o ynysu/tynnu’r deunyddiau mecanyddol a thrydanol wedi’i gwblhau 100%
    • Mae cam cyntaf y gwaith plymio a mecanyddol wedi dechrau.
    • Gosodwyd byrddau ar un ochr o’r paredau mewnol i gyd.
    • Cwblhawyd is-strwythur cyntedd y fynedfa. Tynnwyd cydrannau i greu lle ar gyfer ein mynedfa newydd. (Cofiwch y bydd y fynedfa yn cael ei symud i wynebu’r ymgynullfan)
    • Bydd grid ein nenfwd crog yn cael ei osod yr wythnos nesaf.
    • Mae’r gwaith ar y system awyru yn parhau. Bydd y system awyru newydd hon yn creu amgylchedd gweithio gwell i’r staff a’r myfyrwyr ar Lawr D.


    Y prif beth rydym yn gweithio arno’r wythnos hon gyda’n trydanwyr a’n peirianwyr mecanyddol yw safle ein dodrefn newydd. Yn dilyn adborth cyson gan y myfyrwyr, rydym yn ceisio sicrhau bod gennym gymaint o socedi trydan ac USB ag sy’n rhesymol bosibl yn ein gofod newydd fel bod modd i chi wefrio eich gliniaduron a’ch cyfarpar symudol.


    Rydym hefyd wedi cael cyfarfodydd hynod lwyddiannus gyda’n cydweithwyr yn y Stiwdio Ddylunio. . Eto, yn sgil adborth oddi wrth y myfyrwyr, rydym yn gobeithio y bydd gennym furluniau a phapur wal prydferth iawn ar Lawr D ar ei newydd wedd.
    [:]

    [:en]Progress Update[:cy]Y Newyddion Diweddaraf [:]

    [:en]We are in week 6 of building works:

    Last week, at our regular catch up with our contractors RL Davies the following progress was reported:
    • Set up and enabling works are completed.
    • The contractors are at the end of the soft strip out and demolition phase.
    • The electrical strip out has begun and the first fix is underway.
    • The mechanical strip out is due to begin imminently.
    • A new mains board has been installed.
    We also discussed things like door locks, ceiling tiles and carpet tiles.

    This week there will be work happening on the air handling unit and the plumbing system.

    We are hoping to have more photos of the progress up soon.
    [:cy]Rydym wedi cyrraedd wythnos 6 o’r gwaith adeiladu:

    Yr wythnos ddiwethaf, ar ôl siarad â’r contractwyr, RL Davies, rhoddwyd gwybod am y cynnydd canlynol:
    • Mae’r gwaith gosod a galluogi wedi’i gwblhau.
    • Mae’r contractwyr bron â gorffen y gwaith o dynnu deunyddiau meddal allan a dymchwel.
    • Maent wedi dechrau ar y gwaith o dynnu’r deunydd trydanol ac mae’r gwaith gosod cychwynnol wedi dechrau.
    • Bydd y gwaith o dynnu’r deunyddiau mecanyddol yn dechrau’n fuan iawn.
    • Maent wedi gosod bwrdd cyflenwad newydd.

    Gwnaethom hefyd drafod pethau megis cloeon y drysau, teils i’r nenfwd a theils carped.

    Yr wythnos hon byddant yn gweithio ar yr uned awyru a’r system blymio.

    Rydym yn gobeithio llwytho rhagor o luniau o’r gwaith i fyny yn fuan.
    [:]

    [:en]Work Begins! [:cy]Dechrau ar y gwaith! [:]

    [:en]Work on the project has begun and our contractors RL Davies are in the middle of the demolition phase of the building work. It’s really exciting to see progress being made. Hoarding has gone up around the site and we have got some information posters up to ensure everyone knows what’s going on behind the barrier.

    We have also set up a display outside the temporary entrance to the library. This details the full layout of the refurbished space and also illustrates some of the furniture, colours and patterns that we will see when the work is complete.

    The demolition is the noisiest stage of the project and our contractors expect it to only last another three days or so; they are also working into the evenings to minimize noise during office hours.
    We appreciate that there has been noise disturbance during this phase and we thank everyone for their understanding and patience while we carry out these essential works.

    Here are some images of the ongoing strip out.

    Myself and Julie Hart, our Head Librarian and Project Executive, sporting very fashionable safety gear, on our way down to visit our contractors.

    [:cy]
    Mae gwaith ar y prosiect wedi dechrau ac mae ein contractwyr RL Davies yng nghanol y gwaith dymchwel. Mae’n hynod gyffrous gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud. Mae’r palisiau wedi’u codi o amgylch y safle ac rydym wedi rhoi posteri gwybodaeth i fyny i sicrhau bod pawb yn gwybod beth sy’n digwydd y tu ôl i’r rhwystr.

    Rydym hefyd wedi gosod arddangosfa fach y tu allan i’r fynedfa dros dro i’r Llyfrgell. Mae hwn yn dangos union gynllun y gofod sy’n cael ei ailwampio, yn ogystal â rhai o’r dodrefn, lliwiau a phatrymau y byddwn yn eu gweld pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.

    Y gwaith dymchwel yw cam mwyaf swnllyd y prosiect ac mae ein contractwyr yn disgwyl i’r gwaith bara am tua tri diwrnod arall yn unig; maent hefyd yn gweithio gyda’r hwyr i leihau’r sŵn yn ystod oriau swyddfa. Rydym yn gwerthfawrogi bod y cam hwn o’r gwaith wedi bod yn swnllyd ac fe hoffem ddiolch i bawb am eu dealltwriaeth a’u hamynedd wrth i ni gyflawni’r gwaith hanfodol hwn.

    Dyma ambell lun o’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd.

    Julie Hart, ein Prif Lyfrgellydd a Swyddog Gweithredol y Prosiect, a minnau yn gwisgo offer diogelwch hynod ffasiynol, ar ein ffordd i ymweld â’r contractwyr.
    [:]

    [:en]Finding the entrance to the Hugh Owen Library[:cy]Dod o hyd i’r fynedfa i Lyfrgell Hugh Owen[:]

    [:en]Hello everyone,

    To help our users find the entrance to the Hugh Owen library during the refurbishment Ellie Downes, our wonderful library assistant, has made some videos which show exactly how to find us.

    How to find the Hugh Owen Library entrance from the direction of Rosser/Parry-Williams (TFTV Dept.) direction:

    How to find the Hugh Owen Library entrance from the Piazza

    [:cy]Helo bawb,

    I helpu ein defnyddwyr i ddod o hyd i’r fynedfa i Lyfrgell Hugh Owen yn ystod y gwaith adnewyddu, mae Ellie Downes, ein cynorthwyydd llyfrgell hyfryd, wedi gwneud fideos sy’n dangos yn union sut i ddod o hyd i ni.

    Sut i ddod o hyd i’r fynedfa i Lyfrgell Hugh Owen o gyfeiriad Rosser/Parry-Williams (Adran ThFfaTh):

    Sut i ddod o hyd i’r fynedfa i Lyfrgell Hugh Owen o gyfeiriad y Piazza

    [:]