Iris de Freitas – diweddariad Hydref 2019

Mae’r gwaith adeiladu bron wedi’i gwblhàu, a ddoe fe gyrhaeddod y lori i ddanfon yr holl ddodrefn newydd ar gyfer ystafell Iris de Freitas. Nid ydym yn gallu dangos dim o’r dodrefn i chi eto – mae hwnnw’n syrpreis ar gyfer yr agoriad swyddogol y mis nesaf, ond mae gennym lun o’r lori!
Mae manylion o’r ystafell ar ei newydd wedd, gan gynnwys dodrefn, i’w weld ar y post diwethaf ar y blog hwn. Fe fhyddwn yn eich hysbysebu o’r dyddiad agor yn fuan fel y byddwch yn gallu dod i weld y gwelliannau eich hun.

furniture lorry

Manylion ailwampiad Iris de Freitas

Rydym newydd gael crynodeb o’r holl welliannau sy’n cael eu gwneud yn ystafell Iris de Freitas yn Llyfrgell Hugh Owen – gobeithio eich bod yn edrych ymlaen gymaint â ni i weld yr ystafell!

Bydd yno:
• 44 desg astudio, pob un gyda’i chyfrifiadur ei hun. Gellir addasu uchder dwy o’r desgiau hyn
• 140 o ardaloedd desg, a bydd modd addasu uchder dwy o’r rhain hefyd
• 21 o seddi i ymlacio, nifer gyda byrddau gliniadur gerllaw

• 3 o ystafelloedd astudio i grwpiau y gellir eu llogi, sy’n dal cyfanswm o 30 unigolyn, pob un gyda chyfrifiadur sgrin fawr, bwrdd mawr a bwrdd gwyn (GSR 6 yn eistedd 8, GSR 7 yn eistedd 8, a GSR 8 yn eistedd 12)
• 2 o guddyglau astudio y gellir eu llogi, gyda dau ofod yr un (pedwar i gyd), un cyfrifiadur a bwrdd gwyn ym mhob un, a desgiau y gellir addasu eu huchder
• Bydd gan yr ystafell Hermann Ethé bodiwm addysgu, seddi hyblyg, hysbysfwrdd a bwrdd gwyn mawr. Bydd yr ystafell yn dal 20 o seddi ar gyfer dysgu strwythuredig, ac ar sail y cyntaf i’r felin ar adegau eraill

• Byrddau gwyn gwydr symudol ar gyfer eu defnyddio ledled y gofod
• 2 argraffydd/copïwr
• Peiriannau bwyd a diod, gan gynnwys gorsaf ail-lenwi dŵr, peiriant byrbrydau a pheiriant diodydd poeth
• Mynediad i doiledau niwtral o ran y rhywiau

• Mwy o bwyntiau pŵer a signal Wi-Fi
• System wresogi newydd, ar gyfer nosweithiau cynhesach!
• Mae ffenestri newydd wedi cael eu gosod i gadw gwres a lleihau golau tanbaid. Mae’r ffenestri hyn hefyd yn ymgorffori system awyru osodedig, ble bydd yr awyrellau yn agor a chau’n awtomatig yn ôl yr amodau.
• Mae nenfwd newydd wedi cael ei adeiladu i helpu i atal colli gwres. Mae’r nenfwd hefyd yn cynnwys system oleuo LED sy’n addasu yn y prif ardaloedd i arbed ynni. Gellir addasu hwn â llaw yn yr ystafelloedd astudio.
• Llawr newydd ac wedi’i ailaddurno’n llawn
• Mae’r ardal bellach yn hygyrch, o ganlyniad i osod lifft newydd i’r llawr hwn.

Dyma rai lluniau o sut y bydd yr ardal yn edrych ar ôl cwblhau’r gwaith, a llun o’r ffenestri a osodwyd yn ddiweddar. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau!

y ffenestri newydd, ,Y ffenestri newydd disglair! Arlliwedig ac yn adlewyrchu gwres i arbed ynni a lleihau golau tanbaid
Y ffenestri newydd disglair! Arlliwedig ac yn adlewyrchu gwres i arbed ynni a lleihau golau tanbaid
Yr ardal ymlacio
Braslun o’r ardal ymlacio
Nodweddion dylunio
Rhai o’r nodweddion dylunio
Y seddi ymlacio
Y seddi ymlacio
Yr olygfa o’r gornel
Yr olygfa o’r gornel
Yr olygfa oddi uchod
Yr olygfa oddi uchod
Golygfa trem aderyn
Golygfa trem aderyn

Ailwampio Iris de Freitas, y diweddaraf ym mis Awst 2019

Mae ystafell Iris de Freitas yn dod yn ei blaen yn dda, gyda’r ffenestri newydd wedi’u gosod yn ddiweddar. Mae’r ffenestri sy’n wynebu’r Gorllewin (ar flaen yr adeilad) yn rhai arlliwiedig ac yn adlewyrchu gwres, a fydd yn gwneud yr ystafell yn un fwy cyfforddus i bawb. Y bwriad yw ailagor ym mis Tachwedd, ac rydym ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr i weld y newidiadau!

new windows delivered, ready to unpack
Y ffenestri newydd yn aros i gael eu dadbacio
empty space where the new windows will go
Barod ar gyfer gosod y ffenestri newydd
From outside, the East-facing windows are to go in next
Gallwch weld rhai o’r ffenestri newydd trwy’r adeilad (dylai fod gennym fwy o luniau ar gyfer y neges nesaf)

Diweddariad ar y gwaith adeiladu yn ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen, mis Mehefin 2019

Mae’r gwaith o adnewyddu ystafell Iris de Freitas ar Lefel E Llyfrgell Hugh Owen dros yr haf yn mynd rhagddo’n dda:

• mae’r ystafell wedi cael ei chlirio yn barod ar gyfer tair ystafell astudio newydd i grwpiau, y bydd modd eu harchebu
• mae byrddau distewi acwstig yn cael eu gosod ar y nenfwd er mwyn lleihau sŵn yn yr ardal yma
• bwriedir gosod goleuadau newydd LED sy’n effeithlon o ran ynni
• bydd yr adeiladwyr yn tynnu’r holl ffenestri allan yn yr wythnosau nesaf ac yna’n gosod rhai newydd

Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019

Llyfrgell Hugh Owen, ailwampio ystafell Iris de Freitas: cynlluniau 3D y pensaer

Mae’n gyffrous gweld sut mae’r cynlluniau ar gyfer ailwampio ystafell Iris de Freitas ar Lawr E, Llyfrgell Hugh Owen, yn datblygu. Mae’r pensaer wedi rhoi cynllun 3-D o’r gwaith ailwampio hyd yma: https://youtu.be/-Uosb6VwfJA (drwy ganiatâd caredig George a Tomos, penseiri). Dewch i’r llyfrgell i weld arddangosfa o’r cynlluniau yn fanylach.

Adnewyddu ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen: ardal ar gau o 29 Mai 2019

Er mwyn paratoi am waith adnewyddu ar ystafelloedd Iris de Freitas a Hermann Ethe ar Lawr E Llyfrgell Hugh Owen yn ystod yr haf/hydref 2019, bydd yr ardal hon yn cael ei chau i ddefnyddwyr o 13:00 ddydd Mercher 29 Mai ar ôl i’r arholiad olaf orffen. Disgwylir y byddwn yn ailagor y rhan hon ar 4 Tachwedd 2019. Mae rhagor o fanylion i’w cael: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/

Grŵp Ffocws ailwampio Iris De Freitas 12/02/2019

Cynhaliwyd grŵp ffocws i drafod y cynlluniau i ailwampio ystafell Iris De Freitas. Ymunodd chwech o gyfranogwyr â’r staff a’r penseiri sy’n gweithio ar y gwaith ailwampio i drafod y cynlluniau presennol. Roedd y sesiwn grŵp ffocws yn gymorth i gasglu adborth y myfyrwyr ynghyd ag arolygon a’r bwrdd nodiadau post-it yn ystafell Iris De Freitas sydd eisoes wedi’u casglu. Ceir rhagor o wybodaeth ar: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/

Diben y grŵp ffocws oedd casglu barn y myfyrwyr, gan ofyn iddynt am eu barn am y cam presennol yn y broses gynllunio.
Gwnaeth y penseiri egluro eu cynllun drwy ddangos cyflwyniad ar droed o’r cynlluniau presennol ar gyfer ailwampio. Gofynnodd yr aelodau o staff i’r cyfranogwyr wedyn am eu barn. Dyma rai o’r pynciau allweddol a drafodwyd
– Ystafelloedd astudio i grwpiau
– Ardaloedd Tawel
– Peiriannau bwyd a diod
– Byrddau gwyn
– Dodrefn
– Ardal astudio
Mae rhai o’r cynlluniau presennol yn cynnwys 3 ystafell astudio newydd i grwpiau, digon o ofod desg i weithio gyda gliniaduron. Bydd gan y desgiau hyn socedi plwg yn ogystal â phyrth USB. Bydd rhagor o fanylion am y cynlluniau ailwampio yn cael eu rhyddhau ganol mis Mawrth, ar ôl y tendr.

Os oes gennych chi unrhyw adborth am yr ailwampio, cysylltwch â ni drwy e-bostio – is-survey@aber.ac.uk

Ailwampio Ystafell Iris De Freitas

Llun o Ystafell Iris De Freitas

Bydd ystafell Iris De Freitas yn Llyfrgell Hugh Owen yn cau i gael ei hailwampio o 3 Mehefin. Rydym yn bwriadu ailagor y gofod ar 4 Tachwedd 2019.
Yn ystod y broses gynllunio gwnaethom ofyn i ddefnyddwyr yr ystafell roi awgrymiadau ar sut i wella’r gofod. Rydym wedi dilyn yr adborth hwn, a oedd yn cynnwys:
– Ystafelloedd astudio
– Mwy o socedi pŵer
– Peiriannau bwyd a diod
– Dodrefn cyfforddus
– Gwell golau
– Planhigion

Awgrymiadau’r Myfyrwyr ar gyfer y gwaith ailwampio

Rydym ar agor!

Helo bawb,

Yn sgil ein lansiad llwyddiannus, braf gweld bod yr adnewyddu newydd ar Lawr D yn Llyfrgell Hugh Owen wedi’u cwblhau yn llawn ac ar waith. Mae’r ystafelloedd astudio grŵp yn brysur ac mae’r llyfrgell yn llawn o fyfyrwyr yn adolygu’n ddiwyd ar gyfer eu harholiadau.

Agorwyd y llawr yn swyddogol gan ein his-ganghellor , yr Athro Elisabeth Treasure ar ddydd Llun 8fed o Ionawr. Gallwch ddarllen am y lansiad yma.

Mae gennym albwm o luniau o’r llawr ar ei newydd wedd ar Flickr.

Diolch i bawb a gyfrannodd eu syniadau tuag at ddyluniad yr ardal newydd. Credwn y gallwch weld bod eich adborth a’ch syniadau wedi dylanwadu ar yr adnewyddu.

Ar ran staff y Gwasanaethau Gwybodaeth, hoffwn ddymuno pob lwc i’n holl fyfyrwyr a’u harholiadau.