Rydyn ni mor ffodus yma yn Aberystwyth ein bod yng nghanol cen gwlad odidog sy’n berffaith ar gyfer mynd am dro. Roedd yn arbennig o addas bod cyfarfod olaf y tîm wedi rhoi cyfle i ddianc oddi wrth ein sgriniau a dod at ein gilydd cyn gwyliau’r Nadolig i gerdded a chael paned a sgwrs yn Nant yr Arian.
Bu’r tymor yn un prysur ac aeth heibio’n gyflym iawn! Cafwyd cyfuniad da o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein a darparu cymorth. Roeddem wrth ein bodd i fod nôl wrth y ddesg ymholiadau ar Lawr F yn Hugh Owen, yn cynorthwyo gyda chwestiynau ac ymholiadau o bob math.
Fe fyddwn ni yma tan ddydd Iau 23 Rhagfyr, ac os byddwch chi angen cymorth cysylltwch â ni trwy e-bostio llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Ar ôl yr egwyl byddwn yn ailddechrau ddydd Mawrth 4 Ionawr.
P’un a ydych yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer eich traethawd hir neu’n hanner ffordd drwy’r broses ac yn difaru pob penderfyniad hyd yn hyn, gall y canllaw hwn eich helpu!
Yn y canllaw, mi ddewch o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ddeall a rheoli’r broses o ysgrifennu traethawd hir – o ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth a datblygu eich technegau chwilio i werthuso a chyfeirnodi’r ffynonellau hynny.
Mae ein canllaw Newyddion a Chyfryngau yn adnodd cynhwysfawr a chlir i’ch helpu llywio’r newyddion a chyfryngau drwy gydol eich amser yn y Brifysgol a thu hwnt.
Diogelu eich delwedd ar-lein
Diffinio cysyniadau allweddol megis rhyddid mynegiant, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, a sensoriaeth
Dysgwch sut mae algorithmau’n cael eu defnyddio i dargedu pobl ar y cyfryngau cymdeithasol
Deall cysyniadau dethol a thuedd
Eglurwch beth yw newyddion ffug a dysgu sut i’w adnabod
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol sy’n adlewyrchu ar hanesion a diwylliannau pobl dduon ledled y byd. Mae’r digwyddiad, a gychwynnodd yn America, wedi cael ei nodi bob mis Hydref yn y DU ers 1987.
Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, mae Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi rhestr ddarllen newydd sy’n cynnig cyfle i archwilio agweddau o Hanes Pobl Dduon sydd efallai yn llai adnabyddus:
Profwch Hanes Pobl Dduon mewn barddoniaeth drwy weithiau diweddar gan enillydd Gwobr Dylan Thomas Kayombo Chingonyi (Kumukanda) a chasgliad cyntaf Raymond Antrobus The Perseverance. Ymgollwch yng nghasgliad ar-lein syfrdanol Proquest One Literature African American Poetry sydd yn cynnwys bron i 3,000 o gerddi gan feirdd Americanaidd Affricanaidd o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae llawer o e-adnoddau gwych ar y rhestr, ond peidiwch â cholli Proquest One Literature Black Writing and World Literature Collection sy’n dwyn ynghyd y casgliad llenyddiaeth mwyaf a’r un mwyaf cynhwysol a guradwyd erioed. Rydym yn tynnu sylw at y prosiectau arbennig canlynol:
Mae Black Women Writers yn cyflwyno 100,000 o dudalennau o lenyddiaeth a thraethodau ar faterion ffeministaidd – o ddarluniadau o gaethwasiaeth yn yr 18fed ganrif i waith awduron yn niwedd y 1950au a’r 1960au wedi i don o annibyniaeth ysgubo ar draws Affrica.
Daeth dros filiwn a hanner o Affricaniaid, ynghyd â phobl o India a De Asia, i’r Caribî rhwng y 15fed a’r 19eg ganrif. Heddiw, mae eu disgynyddion wrthi’n creu llenyddiaeth sydd â chysylltiadau cryf ac uniongyrchol â mynegiant Affricanaidd traddodiadol.
82,000 o dudalennau a mwy na 11,000 o weithiau o ffuglen fer mewn amrywiaeth o draddodiadau sydd yn Black Short Fiction and Folklore – o draddodiadau llafar Affricanaidd cynnar i hip-hop – mae’n cwmpasu chwedlau, damhegion, baledi, straeon gwerin, a straeon a nofelau byrion.
Ceir adnoddau o bob math ar y rhestr, rhai ffisegol a rhai ar-lein, felly p’un a ydych ar y campws neu oddi arno, mae rhywbeth i bawb. Galwch heibio ein harddangosfa ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen a fydd yno drwy gydol mis Hydref.
Mae Newid Hinsawdd yn bwnc brawychus i fynd i’r afael ag ef, a gall dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy i helpu i ddeall y pwnc hollbwysig hwn deimlo’n llethol. Mae mynd i’r afael â Newid Hinsawdd yn gyfrifoldeb ar bawb, a pha un ai eich bod yn dod o gefndir yn y celfyddydau, neu mewn gwleidyddiaeth, neu yn y gwyddorau cymdeithasol, amgylcheddol neu ffisegol, mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall effaith Newid Hinsawdd ar ein byd.
Cafodd rhestr ddarllen ‘Dyfodol dan ddŵr i Aberystwyth? Atal y llif o Newid Hinsawdd’ ei chreu gan Catherine Fletcher ac Annabel Cook yn ystod eu cyfnod ar leoliad AberYmlaen gyda Thîm Cysylltiadau Academaidd y Llyfrgell. Lluniwyd y casgliad hwn o adnoddau i gefnogi canlyniadau Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth (18 – 25 Hydref 2021) ond roeddem o’r farn y gallai fod yn ddefnyddiol i gynulleidfa ehangach hefyd. Mae’r rhestr yn ceisio darparu ystod o wybodaeth am Newid Hinsawdd yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’n cynnwys dolen i fap rhyngweithiol sy’n eich galluogi i archwilio codiad yn lefel y môr a bygythiadau llifogydd arfordirol a allai effeithio ar ble rydych chi’n byw. (Rhybudd: mae’n ddychrynllyd iawn!)
Rydyn ni’n gwybod faint mae myfyrwyr a thrigolion yn trysori Aberystwyth felly gobeithio trwy daflu goleuni ar yr effaith negyddol y gall Newid Hinsawdd ei chael ar y dref, y bydd yn ein helpu ni, fel cymuned, i ymdrechu i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy.
Nid ar ardal Aberystwyth yn unig y mae’r adnoddau ar y rhestr hon yn canolbwyntio. Mae’r detholiad o erthyglau gwyddonol yr ydym wedi’u dewis yn amlinellu effeithiau’r newidiadau hinsoddol a allai gael effaith ledled y byd. Roeddem hefyd eisiau dangos bod yr ymchwil yn rhyngddisgyblaethol, gan dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae pob adran wyddonol ledled y brifysgol yn ei chwarae wrth ymchwilio i Newid Hinsawdd. Y gobaith yw, wrth ddeall Newid Hinsawdd yn llawn, y gallwn ragweld ac addasu’n fwy effeithlon i’r heriau yr ydym, yn anochel, yn mynd i’w hwynebu.
Mae’n bwysig cofio nad yr adrannau gwyddonol yn unig sy’n gallu ysbrydoli newid. Mae gan y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol rôl i’w chwarae wrth ddarparu ongl fwy creadigol i feddwl am, a deall, Newid Hinsawdd. Diben y rhestr ddarllen hon yw dangos sut mae’r disgyblaethau hynny eisoes yn ymateb i’r bygythiad y mae’r argyfwng hinsawdd yn ei beri.
Mae angen i ni i gyd wneud ein rhan. Felly os ydych chi’n astudio celf neu’n astudio sŵoleg (neu unrhyw bwnc yn y canol) mae angen i ni ddod â’n harbenigedd, a’n hysbrydoliaeth, i ymdrin ag argyfwng mawr ein hoes. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn chi am y rhestr, mae’n ddogfen fyw ac os oes adnoddau y credwch ddylai fod yno, rhowch wybod i ni a gallwn eu hychwanegu.
Fel myfyriwr, ydych chi eisiau gwybod sut y gall hawlfraint effeithio ar y modd yr ydych yn paratoi ar gyfer eich aseiniadau a’u hysgrifennu? Efallai eich bod yn ddarlithydd, a’ch bod eisiau gwybod a yw dangos ffilm neu raglen deledu yn ystod darlith neu seminar yn torri deddfwriaeth hawlfraint? Neu a ydych chi’n ymchwilydd sydd eisiau diogelu eich gwaith eich hun rhag cael ei ddefnyddio gan eraill heb eich caniatâd?
Mae atebion i’r cwestiynau hyn, a nifer o gwestiynau eraill am hawlfraint ar gael yn ein Canllaw Hawlfraint newydd. Mae’r canllaw’n cynnig trosolwg cynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth hawlfraint gyfredol, ond mae hefyd yn cynnig cyngor ymarferol ar sefyllfaoedd hawlfraint cyffredin y gallech eu hwynebu yn rhan o’ch gwaith yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r canllaw ar gael yn Gymraeg a Saesneg
Engrafiad gan William Hogarth. Yn y Parth Cyhoeddus
Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn parhau i’ch helpu hyd yn oed ar ôl ichi ennill eich gradd!
Mae Llyfrgellwyr Pwnc Prifysgol Aberystwyth wedi paratoiLibGuide Cyflogadwyedd newydd. Dyma eich canllaw i’r llyfrau ac adnoddau i’ch helpu i ysgrifennu CV heb ei ail, ac i’r cyngor a’r offer arbenigol i’ch helpu i ymchwilio i’r cwmni neu’r sefydliad rydych am weithio iddo.
Cewch ddefnyddio’r canllaw i :
Ddod o hyd i adnoddau am wahanol gwmnïau, diwydiannau a chyngor cyffredinol am yrfaoedd
Darganfod adnoddau i feithrin sgiliau digidol a gwybodaeth hanfodol i wella’ch rhagolygon ar ôl graddio
Ymchwilio i’ch llwybr gyrfa dewisol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau a llunio ceisiadau am swyddi
Gall adnoddau’r llyfrgell eich helpu i sicrhau’ch swydd ddelfrydol wrth ichi ddatblygu’ch cyflogadwyedd.
Yr haf yma byddwn yn creu ac yn llenwi eich rhestrau darllen Aspire newydd os gofynnwch inni wneud hynny.
Os ebostiwch y cynnwys at llyfrgellwyr@aber.ac.ukcyn 19 Gorffennaf bydd eich rhestr ddarllen yn cael ei chreu a’i chyhoeddi cyn y dyddiad cau ar gyfer rhestrau darllen.
Bydd angen ichi gynnwys
Cod a theitl y modiwl
Pa lyfrau sy’n Hanfodol – bydd y Llyfrgell yn archebu e-lyfr neu sawl copi print os nad oes e-lyfr ar gael
Pa lyfrau sy’n Ddarllen Pellach – bydd y Llyfrgell yn archebu un copi print
Unrhyw benodau neu erthyglau y mae arnoch angen iddynt gael eu digideiddio
Unrhyw enwau adrannau yr hoffech iddynt gael eu grwpio oddi tanynt
Bydd llyfrau’n cael eu prynu, ceisiadau i ddigideiddio yn cael eu prosesu a chysylltir â chi os oes unrhyw broblem.
Mae ein holl gyngor ar baratoi eich rhestrau darllen Aspire ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ar gael yma: https://faqs.aber.ac.uk/cy/2978
Dros y 18 mis diwethaf rydym i gyd wedi bod yn gweithio ar-lein gyda myfyrwyr a chydweithwyr eraill drwy Teams. Roedd yn wych i ni fel tîm gwrdd wyneb yn wyneb o’r diwedd, mwynhau mynd am dro ar hyd y prom a chael cyfarfod awyr agored i helpu i gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer 2021/22 (cafwyd cwmni’r dolffiniaid hyd yn oed!).
Rydym i gyd yn edrych ymlaen i gwrdd â chi yn y Flwyddyn Academaidd nesaf, ond yn y cyfamser mae croeso i chi gysylltu os ydych chi angen unrhyw gymorth.
Yn syth o Lyfrgell Hugh Owen, dyma helô fawr gan eich tîm cyfeillgar o lyfrgellwyr.
Hoffem eich croesawu i’r blog Llyfrgellwyr adnewyddedig ble cewch ragor o wybodaeth am sut y mae’ch llyfrgell yn cefnogi dysgu, addysgu, ac ymchwil yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Caiff y blog ei ddiweddaru’n rheolaidd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio, a chofiwch: rydym wrth ein boddau yn siarad â chi, felly os oes unrhyw faterion llyfrgell yr hoffech gymorth â nhw, cysylltwch â ni: