Gwasanaeth cyfrinachol am ddim i’ch helpu i wella eich sgiliau ysgrifennu

Cyfle i wella’ch ysgrifennu academaidd eleni gyda Chymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol, Samantha Wynne-Rhydderch. I wneud apwyntiad, anfonwch e-bost i gael dolen archebu: samantha.wynne-rhydderch@rlfeducation.org.uk

Gwasanaeth cyfrinachol am ddim i’ch helpu i wella eich sgiliau ysgrifennu

Mae croeso i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar unrhyw lefel astudio (o fyfyrwyr y flwyddyn 1af i fyfyrwyr ôl-raddedig) – a staff – drefnu sesiwn.

Mae Cymrodorion Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn awduron proffesiynol, cyhoeddedig a’u swyddogaeth yw eich cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu. Mewn sesiynau un-i-un, gall Samantha eich helpu i:

  • Strwythuro eich dadl
  • Ysgrifennu rhyddiaith sy’n fwy clir a thrawiadol
  • Ailysgrifennu a golygu
  • Cynllunio a rheoli amser
  • Ymdrin â chyfrif geiriau
  • Meddwl yn feirniadol
  • Aralleirio

Mae Samantha’n gweithio ar ddydd Mercher a dydd Iau yn ystod y tymor. Mae’r sesiynau’n para 50 munud ac yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Hugh Owen ar ddydd Mercher ac yn Adeilad Llandinam ar ddydd Iau.

Samantha Wynne-Rhydderch

Noder nad yw Cymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn prawfddarllen nac yn rhoi hyfforddiant EAP (Saesneg at Ddibenion Academaidd) na TEFL (Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor).

Noder: Mae sesiynau Samantha yn Saesneg. I siarad â thiwtor sgiliau ysgrifennu academaidd cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig cefnogaeth academaidd 1:1, cysylltwch â Dr Tamsin Davies, ted@aber.ac.uk

Ydw i’n cael defnyddio DA? (A chwestiynau bach, dirfodol eraill)

Ydw i’n cael defnyddio DA?
A yw’n twyllo?
A fydd fy narlithydd yn gwybod?
Ydw i’n ddamweiniol yn helpu i ferwi’r cefnforoedd neu ariannu roced nesaf biliwnydd technoleg?

Dyma rai o’r cwestiynau amrywiol ynghylch DA, ac os ydych chi wedi gofyn unrhyw un ohonynt i chi’ch hun yn ddiweddar, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae DA wedi symud yn gyflym iawn o “Beth yw DA hyd yn oed?” i “Mae ym mhobman ac nid wyf yn siŵr sut rwy’n teimlo am y peth.” Gall beri cryn ddryswch.

Dyna’n union pam rydyn ni wedi creu ein cwrs Llythrennedd DA newydd.

Yn hytrach na dweud wrthych beth i’w wneud, mae’r cwrs yn canolbwyntio ar eich helpu i benderfynu beth sy’n iawn i chi. Oherwydd nid cwestiwn technegol yn unig yw defnyddio DA, mae’n un moesegol hefyd.

Wrth i chi symud trwy’r cwrs, byddwch yn ystyried cwestiynau fel:

  • Beth yw DA mewn gwirionedd?
  • Ydw i’n dal i feddwl drosof fy hun?
  • A allaf fi ymddiried yn yr allbwn hwn?
  • Beth ydw i’n ei rannu, a ble mae’n mynd?

Rydym yn edrych ar DA fel partner Astudio, nid llwybr byr. Efallai ei fod yn adnodd a all eich helpu i gynllunio, esbonio, neu ddatrys problem, ond nid yw yno i ddisodli’ch dysgu. Ar hyd y ffordd, rydym yn cysylltu DA â phethau y byddwch chi’n eu datblygu yn y brifysgol, ac yr ydym yn gobeithio y byddant yn eich gwasanaethu’n dda yn y dyfodol: meddwl beirniadol, llythrennedd gwybodaeth, ac ymwybyddiaeth foesegol.

Byddwch hefyd yn ystyried beth sy’n digwydd mewn gwirionedd pan fyddwch chi’n defnyddio’r offer hyn, gan gynnwys preifatrwydd data, trafferthion cyfeirnodi, hygyrchedd, effaith amgylcheddol, a pha mor dda (neu wael) y maen nhw’n trin yr iaith Gymraeg.

Yn bwysig, mae’r cwrs hefyd yn croesawu safbwynt cwbl ddilys: Beth os nad ydw i eisiau defnyddio DA o gwbl?

Rydym yn gobeithio y bydd y cwrs yn rhoi’r hyder i chi wneud dewis gwybodus, ac nid dilyn y dorf yn unig.

Mae DA yma i aros. Mae eisoes wedi’i adeiladu yn yr offer rydych chi’n eu defnyddio bob dydd, o chwilio ac e-bost i adnoddau llyfrgell a llwyfannau dysgu. Nid yw’r cwrs hwn yn ymwneud â mynd ar drywydd y duedd ddiweddaraf. Mae’n ymwneud â’ch helpu chi i lywio byd lle mae DA eisoes yn rhan o’r dirwedd, a chynnig ffyrdd ymarferol o feddwl yn glir, gweithredu’n gyfrifol, a chadw mewn rheolaeth.

Mae’r cwrs ar gael i’r holl fyfyrwyr a staff drwy Fudiadau Blackboard ac mae dolen yma hefyd.

Beth i’w Ddisgwyl ar Daith o Amgylch y Llyfrgell

I lawer o fyfyrwyr, mae teithiau o amgylch y llyfrgell yn ffordd ddefnyddiol o ddod i adnabod y lle yn ystod yr Wythnos Groeso. Rydym hefyd yn gwybod y gall dechrau prifysgol, ymweld ag adeilad newydd, a chwrdd â phobl newydd deimlo ychydig yn llethol pan nad ydych chi’n siŵr beth i’w ddisgwyl.

Er mwyn helpu gyda hynny, rydym wedi creu canllaw ar-lein newydd: Beth i’w Ddisgwyl ar Daith o Amgylch y Llyfrgell

Mae’r canllaw yn mynd â chi trwy’r profiad o fynd ar daith o amgylch y llyfrgell cyn i chi gyrraedd, gan gynnwys ble i fynd, pwy y byddwch chi’n cwrdd â nhw, beth yw cynnwys y daith, a beth i’w wneud os ydych chi’n rhedeg yn hwyr. Mae yna hefyd luniau o leoliadau allweddol, gwybodaeth hygyrchedd, a manylion am y cymorth sydd ar gael os oes ei angen arnoch.

Nid bwriad y canllaw yw disodli’r daith ei hun. Yn hytrach, mae yno i’ch helpu i wybod beth i’w ddisgwyl, teimlo’n fwy parod, a phenderfynu ymlaen llaw a oes unrhyw gwestiwn efallai yr hoffech ei ofyn.

P’un a ydych chi’n edrych ymlaen at fynd ar daith o amgylch y llyfrgell, bod yn well gennych gynllunio ymlaen llaw, neu’n syml yn hoffi gwybod beth i’w ddisgwyl cyn rhoi cynnig ar rywbeth newydd, gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Dyma’r ddolen i’r canllaw newydd.

Diweddariadau o Lyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Wedi’i guddio ar y pedwerydd llawr, y tu ôl i ffasâd coch trawiadol Adeilad y Gwyddorau Ffisegol, y mae ail lyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Er mai myfyrwyr Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg sy’n gweithio gerllaw sy’n ymweld â hi’n bennaf fel man astudio cyfleus (a thrawiadol), gobeithio y bydd rhai o’r newidiadau a welwch yma yn ysbrydoli ymweliad â’r llyfrgell swynol hon.

Yn ddiweddar mae’r Llyfrgellwyr Pwnc Anita Saycell a Sarah Gwenlan wedi ymdrechu i wella’r llyfrgell gydag arddangosfeydd a chasgliadau newydd.

Er bod y Llyfrgell yn gartref i gasgliadau a deunyddiau ymchwil Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg, peidiwch â gadael i hynny eich darbwyllo na ddylech chi alw heibio gyda llyfr ffuglen da. Mae’r casgliad ffuglen newydd sydd wedi’i leoli yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar y dde wrth fynd i mewn i’r ystafell, ac mae’n cynnwys llyfrau sy’n amrywio o Dune gan Frank Herbert i Project Hail Mary gan Andy Weir.

Wrth ymyl hwn ceir arddangosfa newydd arall – un sy’n cynrychioli’r casgliad gwasgarog o gyfnodolion Gwasanaethau’r Llyfrgell. Mae’r cyfnodolion hyn eisoes ar gael ar-lein trwy Primo ac ar silffoedd Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol, ac ar loriau E ac F Llyfrgell Hugh Owen. Mae’r arddangosfa hon yn eu dangos ochr yn ochr â’u cloriau a chod QR hawdd ei ddefnyddio ar gyfer mynediad hawdd.

Mae’r Llyfrgell yn lle gwych i weithio ac i fod, diolch i waith ei Llyfrgellwyr Pwnc! Gobeithiwn y gallwch ddod i ymweld â hi, ac efallai godi llyfr ar hyd y ffordd.

Os ydych chi’n bwriadu ymweld, dyma’r wybodaeth hygyrchedd ar gyfer y llyfrgell, a fideo byr yn dangos y llwybr o fynedfa Adeilad y Gwyddorau Ffisegol a golygfa o’r ystafell ei hun.

Eich Llyfrgellwyr Pwnc yw:

Anita Saycell aiv@aber.ac.uk    Archebu amser gydag Anita Saycell [aiv] (Staff)   

Sarah Gwenlan ssg@aber.ac.uk   Archebu amser gyda Sarah Gwenlan [ssg] (Staff)

Cewch wybodaeth am adnoddau pwnc yn ein Canllawiau Llyfrgell: https://libguides.aber.ac.uk/en

Cysylltwch â llyfrgellygwyddorauffisegol@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.