Thema Wythnos Llyfrgelloedd eleni ydy’r rhan ganolog sydd gan lyfrgelloedd yn cefnogi dysgu gydol oes.
Heddiw byddwn yn canolbwyntio ar holl staff Prifysgol Aberystwyth a rhai o adnoddau’r llyfrgell sy’n cynorthwyo unigolion i ddatgloi a chyflawni eu potensial ar bob cam o’u bywydau a’u gyrfaoedd.
Gale OneFile News Gallwch weld y newyddion ar-lein, gan gynnwys gweisg masnachol proffesiynol. Mae Newyddion Gale OneFile yn caniatáu ichi chwilota drwy 2,300 o bapurau newydd mawr, gan gynnwys miloedd o ddelweddau, darllediadau radio a theledu a thrawsgrifiadau.
Digimap Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu data mapiau Arolwg Ordnans llawn a chynhwysfawr a mapiau hanesyddol yn ogystal â data daearegol. Adnodd hynod ddefnyddiol a difyr yw Digimap, a fydd yn diddanu ymchwilwyr hanes lleol a phobl sy’n ymwneud â’r Gwyddorau Daear fel ei gilydd. Yr unig beth sydd angen arnoch yw cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth i gofrestru i ddefnyddio’r adnodd.
Box of Broadcasts Ydych chi’n gwneud rhywfaint o ymchwil? Mae Box of Broadcasts (BoB) yn wasanaeth teledu a radio ar alw i staff a myfyrwyr at ddefnydd academiadd, sy’n cynnig mynediad at ddwy filiwn o ddarllediadau o dros 65 o sianeli teledu am ddim. Erbyn hyn mae BoB hefyd yn cynnwys archif y BBC, sef rhaglenni radio a theledu hanesyddol.
Y Weithfan Ystafell astudio 24 awr yw’r Weithfan, sydd yn darparu cyfrifiaduron, peiriannau argraffu, WiFi, ac ystafell astudio i grwpiau / ystafell gyfarfod i fyfyrwyr a staff PA. Dewch o hyd i’r Weithfan wrth ymyl y Wetherspoons ger gorsaf drenau Aberystwyth a dewch â’ch Cerdyn Aber i gael mynediad.
Gwasanaethau Gyrfaoedd i holl staff PA A wyddoch y gall aelodau staff Prifysgol Aberystwyth hefyd fanteisio ar wasanaethau gyrfaoedd arbenigol y Brifysgol? Ewch draw i’n Canllaw Cyflogadwyedd i ddechrau arni.
Darllen er pleser Mae gan y llyfrgell gasgliadau sylweddol o ffuglen, llyfrau ffeithiol a barddoniaeth ar gyfer darllen er pleser. Porwch ein casgliad Ffuglen Gyfoes wrth ymyl y Ddesg Ymholiadau ar Lefel F neu ewch at y silffoedd o’r nod dosbarth PN (neu catalog y llyfrgell, Primo).
Y Casgliad Celtaidd Os ydych yn chwilio am nofel, barddoniaeth, llyfr hanes neu lyfrau i’ch helpu ddysgu neu loywi’ch Cymraeg, cofiwch fod miloedd o lyfrau Cymraeg ar bob pwnc dan haul yn y Casgliad Celtaidd. Mae’r casgliad yn cynnwys cannoedd o lyfrau i’ch helpu i ddatblygu eich Cymraeg, o gyrsiau iaith cyflawn a llyfrau gramadeg i ffuglen gyda geirfa ddefnyddiol. Dewch o hyd i’r casgliad ar Lefel F.
Casgliad Astudio Effeithiol Efallai y bydd ambell deitl yn ein Casgliad Astudio Effeithiol o ddefnydd ichi wrth ddatblygu’ch sgiliau astudio neu’ch sgiliau proffesiynol, megis sgiliau cyflwyno neu ymchwil.
Linkedin Learning Gall pob myfyriwr ac aelod o staff PA ddefnyddio’r cyfoeth o gyrsiau sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim ac sydd wedi’u harwain gan arbenigwyr trwy Linkedin Learning.
Dyma ddetholiad bach o gyrsiau a allai fod yn ddefnyddiol i staff PA a grëwyd gan Jeffrey Clark, Pencampwr Digidol Myfyrwyr:
Casgliad Datblygiad Personol a Phroffesiynol – Mae’r casgliad hwn yn cynnwys cyfres o gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo aelodau o staff i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a phersonol.
Jeffrey Clark