[:en]Library Refurbishment project and the Environment[:cy]Prosiect Adnewyddu’r Llyfrgell a’r Amgylchedd[:]

[:en]Information Services has a history of supporting ‘Green’ activities and considering the environmental impact of all our activities. Last summer, we were awarded the Gold Standard Award under the Green Impact Programme.

To continue our sustainable practice during service relocation and the emptying of Level D we have:

  • Retained glass from Level D to be reused in the new layout.
  • Repurposed some unwanted furniture and given it a new lease of life (photos below are of old drawers which have been given a makeover)
  • Donated any unwanted crockery from the staff lounge to Craft to be reused.
  • Installed a Hydrachill machine – this allows us to refill our water bottles and thus reduce the need to purchase bottled water.
  • Retained Wireless Access Points and our CCTV equipment to be reused.
  • Relocated furniture / shelving across our libraries.
  • Recycled all redundant electrical/IT equipment.
  • Retained door motors to reuse in the new build.

Wherever possible we have endeavored to ensure all our actions have a minimal impact on the environment.

[:cy]Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth hanes o gefnogi gweithgareddau ‘Gwyrdd’ ac ystyried effaith amgylcheddol ein holl weithgareddau. Yr haf diwethaf dyfarnwyd Gwobr Safon Aur i ni yn unol â’r Rhaglen Effaith Gwyrdd.

I barhau â’n harferion cynaliadwy yn ystod y broses o symud y gwasanaeth a gwagio Llawr D rydym wedi:

  • Cadw’r gwydr o Lawr D er mwyn ei ailddefnyddio yn y cynllun newydd.
  • Addasu dodrefn diangen at ddibenion gwahanol a rhoi bywyd newydd iddynt (mae’r ffotograffau isod o hen ddroriau sydd wedi cael gweddnewidiad)
  • Rhoi unrhyw lestri nad oedd eu hangen o lolfa’r staff i Craft er mwyn iddynt eu hailddefnyddio.
  • Gosod peiriant Hydrachill – bydd hwn yn ein galluogi i ail-lenwi ein poteli dŵr gan leihau’r angen i brynu dŵr potel.
  • Cadw ein Pwyntiau Mynediad Diwifr a’n hoffer CCTV er mwyn eu hailddefnyddio.
  • Adleoli’r dodrefn / silffoedd ar draws ein llyfrgelloedd.
  • Ailgylchu’r holl offer trydanol/TG diangen.
  • Cadw’r moduron drws er mwyn eu hailddefnyddio yn yr ystafell newydd.

Pan fo’n bosibl, rydym wedi ceisio sicrhau bod y cyfan yn cael cyn lleied o effaith ar yr amgylchedd â phosibl.
[:]

[:en]Information Services have the best colleagues :)[:cy]Cydweithwyr yr adran Gwasanaethau Gwybodaeth yw’r cydweithwyr gorau erioed :)[:]

[:en]The refurbishment has brought a lot of disruption to Information Services colleagues and they’ve all been so supportive and cooperative in accommodating the refurbishment works. Whether its storing bits of furniture in their offices, cwtching up to make space for colleagues temporarily displaced from Level D or losing the staff tea room for the duration of the works, they have been fantastic. Thank you all.
Here are some of them making do in our temporary, makeshift tea room.

[:cy]Mae’r gwaith adnewyddu wedi amharu llawer ar gydweithwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth ac mae pob un ohonynt wedi bod mor gefnogol a chydweithredol wrth i’r gwaith adnewyddu fynd rhagddo. Boed yn storio darnau o ddodrefn yn eu swyddfeydd, neu’n cwtsio lan i wneud lle i gydweithwyr sydd wedi gorfod symud o Lawr D dros dro, neu golli ystafell baned y staff dros gyfnod y gwaith, maent wedi bod yn wych. Diolch i chi gyd.
Dyma rai ohonynt yn defnyddio ein hystafell baned dros dro.

[:]

[:en]Why is Hugh Owen Library Level D being refurbished?[:cy]Pam mae Llawr D, Llyfrgell Hugh Owen yn cael ei adnewyddu?[:]

[:en]Recent feedback to the library from students and staff at AU:

  • “I strongly believe the Hugh Owen Library should be completely redone. Ideally from the inside and outside.”
  • “[would like to see more] Group (non-silent) study areas, with computers. Definition between silent and non-silent study areas. More rooms like the joy welch room that can be booked. Also [more] bathrooms […]”
  • “[would like to see more] Improvement in creating a lighter and brighter library.”

As a result of feedback from library users and the obvious need to update an outdated building, Information Services (I.S.) proposed a £2M refurbishment of the Hugh Owen Library over a 4 financial year period, 4 tranches of £500k. The first phase of the work being Level D over 2 financial years (2016-17 – 2017-18), with Level E & F taking the remaining 2 years of the project.

As a key service in the University throughout the year, it is paramount that the library remains operational throughout the refurbishments and it was agreed that we would start first with the main reception area of the Library on Level D.

Drivers for the project include:

  • From regular student feedback, there is a clear requirement to maximise, update and improve appropriate student study spaces on Level D. The space currently feels significantly dated and is no longer meeting user and staff needs. 
  • The space for staff working on Level D is cramped and the current layout means those not timetabled to work on the enquiry desk remain on view to users. This results in frequent interruptions to staff and a poor experience for users who may perceive they are being ignored by these staff. 
  • While I.S. scored very well in the ‘We Are Aber’ survey, our poorest score was the “The department has visually appealing facilities and/or materials” question for which we scored a 56.7% satisfaction rate; all other I.S. scores were in the 70% – 86% range. 
  • Evidence from the sector indicates the high importance of library and information resources to both student satisfaction and student recruitment. See https://www.timeshighereducation.com/student/news/student-experience-survey-2017-expectations-are-high-for-learning-resources and https://www.timeshighereducation.com/news/student-experience-survey-2017-build-facilities-and-students-will-come
  • Improving the space and services on Level D, as the Library entrance area and location of the Library and IT Enquiry Desk, would have the greatest impact on current students and is additionally our shop window for prospective students.

Our plans for Level D include:

  • Reconfigure the layout to improve the flow through the building and user access to facilities and services. This will include moving the main library entrance to face onto the Piazza. 
  • Open up and repurpose some of the existing ‘back of house’ areas to provide additional user space. This will include a vending area, additional bookable group study rooms, student toilet facilities and seating for computers and individual and group study.
  • Improve the lighting, heating and ventilation to make a more comfortable environment for our users. 
  • Update the decoration and furnishing to provide a modern and well-designed space that meets our users’ needs.

While Level D will be closed during the refurbishment, the Library will remain operational throughout the building works with staff and services relocated to Level E of the Library and normal opening times unchanged. Please keep up with our plans on the Library refurbishment webpage and send us your feedback: https://www.aber.ac.uk/en/is/news/librefurb/[:cy]Mewn adborth diweddar gan fyfyrwyr a staff PA i’r llyfrgell, dywedwyd:

  • “Credaf yn gryf y dylai Llyfrgell Hugh Owen gael ei adnewyddu’n llwyr. Y tu mewn a’r tu allan yn ddelfrydol.”
  • “[hoffwn weld rhagor o] ardaloedd astudio i grwpiau (nad ydynt yn rhai tawel), gyda chyfrifiaduron. Mae angen diffiniad rhwng ardaloedd astudio tawel a’r ardaloedd nad ydynt yn rhai tawel. Mwy o ystafelloedd fel Ystafell Joy Welch y gellir eu llogi. Hefyd [mwy] o doiledau […]
  • “[hoffwn weld rhagor o] welliannau i greu llyfrgell oleuach a disgleiriach.”

O ganlyniad i adborth gan ddefnyddwyr y llyfrgell a’r angen amlwg i ddiweddaru adeilad sydd wedi dyddio, cyflwynodd y Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) gynnig am adnewyddiad gwerth £2M i Lyfrgell Hugh Owen dros gyfnod o 4 blwyddyn ariannol, 4 cyfran o £500k. Cam cyntaf y gwaith fydd adnewyddu Llawr D dros 2 flwyddyn ariannol (2016-17 – 2017-18), gyda Llawr E ac F yn cael eu hadnewyddu yn ystod 2 flwyddyn olaf y prosiect.

Fel gwasanaeth allweddol yn y Brifysgol drwy gydol y flwyddyn, mae’n hanfodol bod y llyfrgell yn aros ar agor trwy gydol y gwaith adnewyddu a chytunwyd y byddem yn dechrau gyda phrif fynedfa’r Llyfrgell ar Lawr D.

Dyma rai o’r ffactorau a gyfrannodd tuag at wneud cais am y prosiect:

  • Yn ôl adborth rheolaidd gan fyfyrwyr, mae’n amlwg bod angen mwyhau, diweddaru a gwella’r ardaloedd astudio i fyfyrwyr ar Lawr D. Mae’r gofod sydd yno ar hyn o bryd wedi dyddio’n sylweddol ac nid yw bellach yn bodloni anghenion y defnyddwyr a’r staff.
  • Mae’r gofod i staff sy’n gweithio ar Lawr D yn gyfyng ac mae’r cynllun presennol yn golygu bod y rhai hynny nad ydynt ar yr amserlen i weithio ar y ddesg ymholiadau yn dal i fod yng ngolwg y defnyddwyr. Golyga hyn fod defnyddwyr yn torri ar draws gwaith y staff yn aml ac mae’n rhoi profiad gwael i ddefnyddwyr a allai feddwl bod y staff hyn yn eu hanwybyddu.
  • Er bod y GG wedi sgorio’n dda iawn yn yr arolwg ‘Aber Ydym Ni’, ein sgôr salaf oedd “Mae gan yr adran adnoddau a/neu ddeunyddiau sy’n ddeniadol yr olwg” cwestiwn y cawsom gyfradd bodlonrwydd o 56.7% ar ei gyfer; roedd pob sgôr arall i’r GG rhwng 70% ac 86%.
  • Mae tystiolaeth o’r sector yn dangos pwysigrwydd mawr y llyfrgell a’r adnoddau gwybodaeth o ran bodlonrwydd y myfyrwyr a recriwtio myfyrwyr. Gweler https://www.timeshighereducation.com/student/news/student-experience-survey-2017-expectations-are-high-for-learning-resources a https://www.timeshighereducation.com/news/student-experience-survey-2017-build-facilities-and-students-will-come
  • Gwella’r gofod a’r gwasanaethau ar Lawr D, ble ceir mynedfa’r Llyfrgell a lleoliad y Ddesg Ymholiadau Llyfrgell a TG, fyddai’n cael y mwyaf o effaith ar fyfyrwyr presennol, a’r llawr hwn hefyd yw ein ffenestr siop ar gyfer darpar fyfyrwyr.

Mae ein cynlluniau ar gyfer Llawr D yn cynnwys:

  • Aildrefnu’r cynllun i wella’r llif drwy’r adeilad a mynediad y defnyddwyr i’r adnoddau a’r gwasanaethau. Bydd hyn yn cynnwys symud prif fynedfa’r llyfrgell i wynebu’r Piazza.
  • Agor a newid diben rhai o’r ardaloedd yn y cefn i roi lle ychwanegol i ddefnyddwyr. Bydd hyn yn cynnwys ardal i beiriannau bwyd a diod, ystafelloedd astudio grŵp ychwanegol y gellir eu llogi, toiledau i fyfyrwyr a lle i eistedd ar gyfer defnyddio cyfrifiaduron ac ar gyfer astudio’n unigol ac mewn grwpiau.
  • Gwella’r golau, y gwres a’r awyriad i sicrhau amgylchedd mwy cyfforddus i’n defnyddwyr.
  • Diweddaru’r addurniadau a’r dodrefn i ddarparu lle modern, sy’n bodloni anghenion ein defnyddwyr.

Er y bydd Llawr D ar gau yn ystod y gwaith adnewyddu, bydd y Llyfrgell yn parhau i fod ar agor trwy gydol y gwaith. Bydd y staff a’r gwasanaethau’n cael eu symud i Lawr E y Llyfrgell a’r oriau agor yn aros yr un fath. Gallwch weld ein cynlluniau ar weddalen adnewyddu’r llyfrgell a chroeso i chi anfon eich adborth atom: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/
[:]

[:en]Hugh Owen Library Enquiry Desk now temporarily relocated from Level D to E[:cy]Mae Desg Ymholiadau Llyfrgell Hugh Owen bellach wedi’i symud dros dro o Lawr D i Lawr E[:]

[:en]This week our Library & IT Enquiry Desk service opened on Level E of the Hugh Owen Library. This Enquiry Desk is located in front of the main entrance doors on Level E. Staff at the Enquiry Desk welcome your enquiries.

We have been busy relocating some book collections and services in preparation for building work to start on Level D of the library. While we have signs up and around redirecting library users to the new entrance of the library and to relocated book and services inside, if you have any problems at all finding books or need any help, please do not hesitate to ask a member of our staff.
Remember also that you are welcome to contact us via email, phone or online chat for any support or questions about use of library / IT services and resources: https://www.aber.ac.uk/en/is/help/contactus/

Level D of the library has now been emptied of all furniture, ready for the building contractors to start work by the last week in June. This is what Level D looked like on the last day of term (last Saturday)

and this is Level D today, ready for refurbishment to start

A reminder that the Hugh Owen Library Level D refurbishment web page is at: https://www.aber.ac.uk/en/is/news/librefurb/

Thank you to all involved in relocating this service up to Level E. We’re looking forward to building work starting.
Elizabeth[:cy]Yr wythnos hon agorodd ein Desg Ymholiadau Llyfrgell a TG ar Lawr E yn Llyfrgell Hugh Owen. Mae’r Ddesg Ymholiadau hon wedi’i lleoli o flaen drysau’r brif fynedfa ar Lawr E. Mae’r staff wrth y Ddesg Ymholiadau’n croesawu eich ymholiadau.

Rydym wedi bod yn brysur yn adleoli rhai casgliadau o lyfrau a gwasanaethau er mwyn paratoi ar gyfer dechrau’r gwaith adeiladu ar Lawr D y llyfrgell. Er bod gennym arwyddion i fyny o amgylch y llyfrgell yn cyfeirio defnyddwyr y llyfrgell at y fynedfa newydd i’r llyfrgell ac i’r llyfrau a’r gwasanaethau sydd wedi’u symud, os ydych chi’n cael unrhyw broblem dod o hyd i’r llyfrau neu os oes arnoch angen cymorth, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’n staff.
Cofiwch hefyd fod croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost, ffôn neu sgwrs ar-lein i gael unrhyw gymorth neu i ofyn unrhyw gwestiwn am ddefnyddio gwasanaethau ac adnoddau’r llyfrgell/TG: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/

Mae Llawr D y llyfrgell bellach wedi cael ei wagio o’r holl ddodrefn yn barod ar gyfer y contractwyr adeiladu, sy’n dod i ddechrau gweithio yn ystod wythnos olaf mis Mehefin. Dyma sut olwg oedd ar Lawr D ar ddiwrnod ola’r tymor (ddydd Sadwrn diwethaf)

A dyma Lawr D heddiw, yn barod ar gyfer y gwaith adnewyddu.

Nodyn i’ch atgoffa bod gweddalen o’r gwaith adnewyddu i Lawr D Llyfrgell Hugh Owen ar gael ar: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o adleoli’r gwasanaeth hwn i Lawr E. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith adeiladu yn dechrau.

Elizabeth
[:]

[:en]Relocation of Service[:cy]Ail-leoli Gwasanaethau [:]

[:en]Hello,

Work to move our Library and IT services to E floor began in earnest yesterday.

  • Self Issue with Fines Payment Kiosk has been relocated from Level D to the Iris De Freitas Room
  • Computers outside the lift on E floor have been removed and will be re-distributed throughout the library. Do check the Computer Availability page to find an available PC.
  • Tables outside the lift on E floor have been relocated to the area outside the lift on F floor.
  • The IT Service Desk Team are currently relocating up to Level E along with the Library Service Desk Team

A reminder that Level D will close to all at 5:30pm on Monday the 5th of June.

From 8:30am on Tuesday the 6th of June our front line services will be delivered from Level E.

Please enter and exit the library via the Accessibility entrance on E floor (the entrance faces the upper foyer at the south end of the Hugh Owen building – above entrance to the Welsh and Celtic Studies department).

A huge thank you to our Portering staff who have worked very hard moving furniture around the library. Thanks also to our Workshop colleagues who have been busy moving PC’s around.

More moving and shaking next Monday and Tuesday and I’ll aim to update you all again soon.


Temporary desk layout on E floor.

Relocated Self-Issue with Fine Payment machine.

[:cy]Helo,

Dechreuodd y gwaith o symud ein gwasanaethau Llyfrgell, TG, Cyfryngau a Gwerthiannau i Lawr E o ddifrif ddoe.

  • Mae’r Peiriant Hunan Fenthyca sydd ag Adnodd Talu Dirwyon wedi’i symud o Lawr D i Ystafell Iris De Freitas
  • Mae’r cyfrifiaduron y tu allan i’r lifft ar Lawr E wedi cael eu symud a chânt eu hailddosbarthu drwy’r llyfrgell. Edrychwch ar y dudalen Argaeledd Cyfrifiaduron Computer Availability page i ddod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael.
  • Mae’r byrddau y tu allan i’r lifft ar Lawr E wedi cael eu symud i’r ardal y tu allan i’r lifft ar Lawr F.
  • Mae Tîm y Ddesg Gwasanaethau TG wrthi’n ail-leoli i Ystafell Hyfforddiant Hugh Owen.
  • Mae cydweithwyr yn y gwasanaeth Cyfryngau a Gwerthiannau wedi symud i ardal yr Academi ar Lawr E.
  • Bydd Tîm y Ddesg Gwasanaethau Llyfrgell yn symud ddydd Llun i’r swyddfa cynllun agored i staff ar Lawr E.

Nodyn i’ch atgoffa y bydd Llawr D yn cau i bawb am 5:30yp ddydd Llun 5 Mehefin.

O 8:30yb ddydd Mawrth 6 Mehefin bydd ein gwasanaethau rheng flaen yn cael eu cyflwyno o Lawr E.

Ewch i mewn ac allan o’r llyfrgell drwy’r fynedfa Hygyrchedd ar Lawr E (mae’r fynedfa’n wynebu’r cyntedd uchaf ar ochr ddeheuol adeilad Hugh Owen – uwchlaw’r fynedfa i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd).

Diolch yn fawr iawn i’r Porthorion sydd wedi gweithio’n galed iawn i symud dodrefn o amgylch y llyfrgell. Diolch hefyd i staff y Gweithdy sydd wedi bod yn brysur yn symud cyfrifiaduron o un lle i’r llall.

Bydd rhagor o symud ddydd Llun a dydd Mawrth nesaf ac fe geisiaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi gyd eto’n fuan.

Cynllun dros dro y desgiau ar Lawr E.


Lleoliad newydd y Peiriant Hunan Fenthyca gydag adnodd Talu Dirwyon.

[:]

[:en]Final layout, colour and fabric choices[:cy]Cynllun terfynol, lliwiau a ffabrigau [:]

[:en]Hello everyone,
I’m delighted to share the (almost!) final version of the new Level D layout.


Level D Floor Plan 2017

We are still tweaking the floor guide a little more but this gives you a good idea of the changes that will take place.

A reminder that the building work will

  • Relocate the entrance to face the concourse.
  • Relocate the enquiry desk.
  • Create two new Group Study Rooms.
  • Create a Vending Area.
  • Create more study and computing space.
  • Create gender neutral toilets.

We have been busy selecting colours and fabrics for the furniture. The project team attended a really productive ‘Colour Workshop’ with BOF Furniture in Bridgend.

Below you will find images of the finishes, colours and patterns that our beautiful new Level D will be furnished with.



We are also excited to share some mock up images of what we imagine the space to look like. These images are courtesy of BOF Furniture – Bridgend Office.

The contract for the building work will be awarded imminently and with less than three weeks to go before staff vacate Level D its getting very exciting.

On behalf of the project team, we wish all our students who are sitting summer exams and submitting their assignments and dissertations the very best of luck! [:cy]Helo bawb,
Mae’n bleser gennyf rannu’r fersiwn terfynol (bron iawn) o gynllun newydd Llawr D.



Cynllun Llawr D 2017

Rydym yn parhau i addasu fymryn ar y cynllun llawr ond mae hwn yn rhoi syniad da i chi o’r newidiadau sydd ar droed.
Bydd y gwaith adeiladu yn:

  • Symud y fynedfa i wynebu’r gynteddfa.
  • Symud y ddesg ymholiadau.
  • Creu Dwy Ystafell Astudio i Grwpiau.
  • Creu Ardal i Beiriannau Gwerthu Bwyd a Diod.
  • Creu mwy o ofod i astudio ac i gyfrifiaduron.
  • Creu toiledau niwtral o ran y rhywiau.

Rydym wedi bod yn brysur yn dewis lliwiau a ffabrigau ar gyfer y dodrefn. Cafodd tîm y prosiect ‘Weithdy Lliw’ cynhyrchiol iawn gyda BOF Furniture ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Isod ceir lluniau o’r gorffeniadau, y lliwiau a’r patrymau y byddwn yn eu defnyddio i ddodrefnu’r Llawr D newydd.



Yr ydym hefyd yn falch iawn o allu rhannu delweddau sy’n rhoi syniad o sut yr yr ydym yn dychmygu’r gofod wedi’r gwaith ailwampio. Mae’r delweddau yma ar gael trwy garedigrwydd Dodrefn BOF – Swyddfa Penybont.

Bydd y contract ar gyfer y gwaith adeiladu yn cael ei ddyfarnu’n fuan, a gyda llai na thair wythnos cyn y bydd y staff yn gadael Llawr D, mae cyffro mawr yma.

Ar ran tîm y prosiect, hoffwn ddymuno’n dda iawn i’r holl fyfyrwyr sy’n sefyll arholiadau ac yn cyflwyno aseiniadau a thraethodau estynedig! [:]

[:en]Project Timeline Extended[:cy]Estyn Amserlen Prosiect[:]

[:en]

To ensure that we complete this refurbishment project to a high standard, we need to allow a longer time for the works than originally anticipated. It is estimated that the works will take until December 2017. We are hopeful that work will begin as planned in June but until the contractors are appointed we will not be able to confirm exact timescales.

We are working on plans to ensure the impact to our customers and staff is minimal during this period, including ensuring availability of all current services, study and computer spaces, but inevitably there will be some disruption, for which we apologise in advance. For the duration of the building works, Library and IT Enquiry Desks and services will be located on Level E of the Hugh Owen library.

In the coming days I will be sharing the final architects drawing of the new layout and will also be giving you an idea of the kind of furniture we are hoping to put in on Level D.

In the meantime I hope you all have an enjoyable vacation.

[:cy]

I sicrhau ein bod yn cwblhau’r prosiect ailwampio hwn i safon uchel, mae’n rhaid i ni ganiatáu rhagor o amser ar gyfer y gwaith nag y rhagwelwyd yn wreiddiol. Amcangyfrifir y bydd y gwaith yn cymryd tan fis Rhagfyr 2017. Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Mehefin, ond ni fydd modd i ni gadarnhau amserlen benodol nes ein bod wedi penodi contractwyr.

Rydym yn gweithio ar gynlluniau i sicrhau nad ydym yn cael gormod o effaith ar ein cwsmeriaid a’n staff yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys sicrhau bod yr holl wasanaethau presennol, a’r ardaloedd astudio a’r ystafelloedd cyfrifiaduron ar gael, ond mae’n anochel y bydd rhywfaint o aflonyddwch, ac ymddiheurwn am hyn o flaen llaw. Bydd y gwasanaethau a’r Ddesg Ymholiadau Llyfrgell a TG ar Lawr E llyfrgell Hugh Owen trwy gydol cyfnod y gwaith ailwampio.

Dros y diwrnodau nesaf byddaf yn rhannu dyluniadau terfynol y penseiri o’r cynllun newydd a hefyd yn rhoi syniad i chi o’r math o ddodrefn yr ydym yn gobeithio eu rhoi ar Lawr D.
Yn y cyfamser gobeithio eich bod wedi cael gwyliau braf.
[:]

[:en]Meeting for Students with Learning Differences or Mobility Issues[:cy]Cyfarfod adborth â’r myfyrwyr sydd â phroblemau symudedd neu wahaniaethau dysgu.[:]

[:en]

Hello again,

This Friday we are having a feedback meeting with students who may have mobility issues or who may have learning differences. The project team is really keen to hear what you have to say about the proposed new layout; you may be able to highlight an issue that we haven’t yet thought of. We will be looking at the layout, the proposed colour scheme and some furniture picks. Building regulations do cover the basic mobility issues that will arise but we also want to consider things like sensory and hearing issues. We can only do this with your help.

The meeting will take place at 10am in the Hugh Owen Training room (the little room off the big PC suite on E floor) this Friday morning (the 24th). Users with mobility issues, who have previously arranged access via Student Support, are welcome to use the accessibility entrance on Level E.

If you are a student with a mobility issue or a learning difference please do come along and let us know what you think.

Lucy[:cy]

Helo eto,

Ddydd Gwener byddwn yn cynnal cyfarfod adborth â’r myfyrwyr sydd â phroblemau symudedd neu wahaniaethau dysgu. Mae tîm y prosiect yn awyddus iawn i glywed beth sydd gennych chi i’w ddweud am y cynllun newydd arfaethedig; efallai y bydd modd i chi amlygu problem nad oeddem wedi ei hystyried eto. Byddwn yn edrych ar y cynllun, y cynllun lliw arfaethedig a rhai o’r dodrefn. Mae’r rheoliadau adeiladu’n ymdrin â’r problemau symudedd sylfaenol a fydd yn codi ond rydym hefyd eisiau ystyried materion yn ymwneud â’r synhwyrau a’r clyw. Dim ond gyda’ch cymorth chi y gallwn ni wneud hyn.

Cynhelir y cyfarfod am 10yb yn ystafell hyfforddi Hugh Owen (yr ystafell fach ger yr ystafell gyfrifiaduron fawr ar lawr E) fore dydd Gwener (24ain). Mae croeso i ddefnyddwyr sydd â phroblemau symudedd, sydd eisoes wedi trefnu mynediad drwy’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, ddefnyddio’r fynedfa hygyrchedd ar Lawr E.

Os ydych chi’n fyfyriwr gyda phroblemau symudedd neu wahaniaeth dysgu dewch i roi gwybod beth ydych chi’n ei feddwl.
[:]

[:en]User Feedback[:cy]Adborth gan Ddefnyddwyr[:]

[:en]

One thing I forgot to mention in my previous post is that the plans to date are very much based on feedback we have already received (the above image is the Feedback board we used in the library to gather your thoughts via Post-Its). Where ever possible your suggestions have been incorporated and we greatly appreciate the engagement and enthusiasm shown for the project so far.

Although the finer detail is still under discussion some of the high level architectural changes are more firmed up and we are about to approach a major milestone in the project as we will be going out to tender for the building contract at the end of this month. Watch this space! [:cy]

Un peth yr anghofiais sôn amdano yn fy neges ddiwethaf oedd bod y cynlluniau wedi’u seilio’n fawr iawn ar yr adborth yr ydym eisoes wedi’i gael (mae’r llun uchod yn dangos y bwrdd adborth a ddefnyddiwyd yn y llyfrgell i gasglu eich sylwadau drwy gyfrwng nodiadau Post-It). Pan fo’n bosibl, rydym wedi ymgorffori’ch awgrymiadau ac rydym yn gwerthfawrogi’ch ymrwymiad a’ch brwdfrydedd tuag at y prosiect hyd yma.

Er bod y manylion bach yn dal i gael eu trafod mae rhai o’r newidiadau pensaernïol mawr yn fwy cadarn ac rydym ar fin dod at garreg filltir fawr yn y prosiect gan ein bod yn mynd i dendr am y contract adeiladu ddiwedd y mis. Rhagor cyn hir![:]

[:en]Welcome to Level D Refurbishment Blog[:cy]Croeso i Blog Ailwampio Lefel D [:]

[:en]

Hello, I’m Lucy O’Donnell the Project Manager for the Hugh Owen Library Level D Refurbishment and I am blogging on behalf of the Library Refurbishment Team. I have been a librarian in Information Services since 2012 and am an Aberystwyth University graduate.

The aim of this blog is to keep all users of the Hugh Owen library informed of the refurbishment plans and to seek your involvement and opinions on the project.

Here you will find the latest architect’s plan for the refurbishment (image is courtesy of Pensaernïaeth DarntonB3 Architecture) Hugh Owen Level D Option G – Architect Design

Please be aware that these plans are currently in draft form. If you have any feedback on the project you are welcome to leave a comment or contact us via is-feedback@aber.ac.uk.

The web page with further information can be found here:
https://www.aber.ac.uk/en/is/news/librefurb/
We aim to blog each week to keep you informed of how the work is progressing.

Thank you!
Lucy
[:cy]

Helo, Lucy O’Donnell ydw i, Rheolwr Prosiect Adnewyddu Llawr D Llyfrgell Hugh Owen, ac rwy’n blogio ar ran Tîm Adnewyddu’r Llyfrgell. Rwyf wedi bod yn llyfrgellydd yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ers 2012 ac rwy’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth.

Nod y blog hwn yw darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau adnewyddu i holl ddefnyddwyr Llyfrgell Hugh Owen, ac i ofyn am eich cyfranogiad a’ch barn ar y prosiect.

Yma fe welwch gynllun diweddaraf y penseiri ar gyfer y gwaith adnewyddu (llun trwy garedigrwydd Pensaernïaeth DarntonB3 Architecture)
Hugh Owen Level D Option G – Architect Design

Sylwch bod y cynlluniau hyn ar ffurf drafft ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw adborth am y prosiect mae croeso i chi gynnig sylwadau neu gysylltu â ni trwy: is-feedback@aber.ac.uk.
Am ragor o wybodaeth gweler y dudalen ganlynol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/
Anelwn at flogio bob wythnos i roi gwybod i chi sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.
Diolch!
Lucy
[:]