Dyfodol dan ddŵr i Aberystwyth? Atal y llif o Newid Hinsawdd

Dolen i’n rhestr ddarllen: ‘Dyfodol dan ddŵr i Aberystwyth? Atal y llif o Newid Hinsawdd

Mae Newid Hinsawdd yn bwnc brawychus i fynd i’r afael ag ef, a gall dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy i helpu i ddeall y pwnc hollbwysig hwn deimlo’n llethol. Mae mynd i’r afael â Newid Hinsawdd yn gyfrifoldeb ar bawb, a pha un ai eich bod yn dod o gefndir yn y celfyddydau, neu mewn gwleidyddiaeth, neu yn y gwyddorau cymdeithasol, amgylcheddol neu ffisegol, mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall effaith Newid Hinsawdd ar ein byd.

Cafodd rhestr ddarllen ‘Dyfodol dan ddŵr i Aberystwyth? Atal y llif o Newid Hinsawdd’ ei chreu gan Catherine Fletcher ac Annabel Cook yn ystod eu cyfnod ar leoliad AberYmlaen gyda Thîm Cysylltiadau Academaidd y Llyfrgell. Lluniwyd y casgliad hwn o adnoddau i gefnogi canlyniadau Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth (18 – 25 Hydref 2021) ond roeddem o’r farn y gallai fod yn ddefnyddiol i gynulleidfa ehangach hefyd. Mae’r rhestr yn ceisio darparu ystod o wybodaeth am Newid Hinsawdd yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’n cynnwys dolen i fap rhyngweithiol sy’n eich galluogi i archwilio codiad yn lefel y môr a bygythiadau llifogydd arfordirol a allai effeithio ar ble rydych chi’n byw. (Rhybudd: mae’n ddychrynllyd iawn!)


Map rhyngweithiol Climate Central sy’n dangos y tir y rhagwelir y bydd yn is na’r lefel llifogydd flynyddol yn Aberystwyth a’r cyffiniau yn 2040

Rydyn ni’n gwybod faint mae myfyrwyr a thrigolion yn trysori Aberystwyth felly gobeithio trwy daflu goleuni ar yr effaith negyddol y gall Newid Hinsawdd ei chael ar y dref, y bydd yn ein helpu ni, fel cymuned, i ymdrechu i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy.

Nid ar ardal Aberystwyth yn unig y mae’r adnoddau ar y rhestr hon yn canolbwyntio. Mae’r detholiad o erthyglau gwyddonol yr ydym wedi’u dewis yn amlinellu effeithiau’r newidiadau hinsoddol a allai gael effaith ledled y byd. Roeddem hefyd eisiau dangos bod yr ymchwil yn rhyngddisgyblaethol, gan dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae pob adran wyddonol ledled y brifysgol yn ei chwarae wrth ymchwilio i Newid Hinsawdd. Y gobaith yw, wrth ddeall Newid Hinsawdd yn llawn, y gallwn ragweld ac addasu’n fwy effeithlon i’r heriau yr ydym, yn anochel, yn mynd i’w hwynebu.

Mae’n bwysig cofio nad yr adrannau gwyddonol yn unig sy’n gallu ysbrydoli newid. Mae gan y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol rôl i’w chwarae wrth ddarparu ongl fwy creadigol i feddwl am, a deall, Newid Hinsawdd. Diben y rhestr ddarllen hon yw dangos sut mae’r disgyblaethau hynny eisoes yn ymateb i’r bygythiad y mae’r argyfwng hinsawdd yn ei beri.

Mae angen i ni i gyd wneud ein rhan. Felly os ydych chi’n astudio celf neu’n astudio sŵoleg (neu unrhyw bwnc yn y canol) mae angen i ni ddod â’n harbenigedd, a’n hysbrydoliaeth, i ymdrin ag argyfwng mawr ein hoes. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn chi am y rhestr, mae’n ddogfen fyw ac os oes adnoddau y credwch ddylai fod yno, rhowch wybod i ni a gallwn eu hychwanegu.

LibGuide Hawlfraint Newydd

Fel myfyriwr, ydych chi eisiau gwybod sut y gall hawlfraint effeithio ar y modd yr ydych yn paratoi ar gyfer eich aseiniadau a’u hysgrifennu? Efallai eich bod yn ddarlithydd, a’ch bod eisiau gwybod a yw dangos ffilm neu raglen deledu yn ystod darlith neu seminar yn torri deddfwriaeth hawlfraint? Neu a ydych chi’n ymchwilydd sydd eisiau diogelu eich gwaith eich hun rhag cael ei ddefnyddio gan eraill heb eich caniatâd?
Mae atebion i’r cwestiynau hyn, a nifer o gwestiynau eraill am hawlfraint ar gael yn ein Canllaw Hawlfraint newydd. Mae’r canllaw’n cynnig trosolwg cynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth hawlfraint gyfredol, ond mae hefyd yn cynnig cyngor ymarferol ar sefyllfaoedd hawlfraint cyffredin y gallech eu hwynebu yn rhan o’ch gwaith yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r canllaw ar gael yn Gymraeg a Saesneg

Engrafiad gan William Hogarth. Yn y Parth Cyhoeddus

Newydd! Canllaw Cyflogadwyedd

Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn parhau i’ch helpu hyd yn oed ar ôl ichi ennill eich gradd!  

Myfyrwyr yn ymarfer cyflwyniadau

Mae Llyfrgellwyr Pwnc Prifysgol Aberystwyth wedi paratoi LibGuide Cyflogadwyedd newydd. Dyma eich canllaw i’r llyfrau ac adnoddau i’ch helpu i ysgrifennu CV heb ei ail, ac i’r cyngor a’r offer arbenigol i’ch helpu i ymchwilio i’r cwmni neu’r sefydliad rydych am weithio iddo. 

Cewch ddefnyddio’r canllaw i :  

  • Ddod o hyd i adnoddau am wahanol gwmnïau, diwydiannau a chyngor cyffredinol am yrfaoedd 
  • Darganfod adnoddau i feithrin sgiliau digidol a gwybodaeth hanfodol i wella’ch rhagolygon ar ôl graddio 
  • Ymchwilio i’ch llwybr gyrfa dewisol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau a llunio ceisiadau am swyddi  

Gall adnoddau’r llyfrgell eich helpu i sicrhau’ch swydd ddelfrydol wrth ichi ddatblygu’ch cyflogadwyedd.  

Ymwelwch â’r canllaw yma: https://libguides.aber.ac.uk/cyflogadwyedd 

Gydlynwyr modiwlau, ydych chi eisoes yn gwybod beth y mae arnoch eisiau ei gynnwys ar eich rhestr ddarllen newydd?

Yr haf yma byddwn yn creu ac yn llenwi eich rhestrau darllen Aspire newydd os gofynnwch inni wneud hynny.

Os ebostiwch y cynnwys at llyfrgellwyr@aber.ac.uk cyn 19 Gorffennaf bydd eich rhestr ddarllen yn cael ei chreu a’i chyhoeddi cyn y dyddiad cau ar gyfer rhestrau darllen.

Bydd angen ichi gynnwys

  • Cod a theitl y modiwl
  • Pa lyfrau sy’n Hanfodol – bydd y Llyfrgell yn archebu e-lyfr neu sawl copi print os nad oes e-lyfr ar gael
  • Pa lyfrau sy’n Ddarllen Pellach – bydd y Llyfrgell yn archebu un copi print
  • Unrhyw benodau neu erthyglau y mae arnoch angen iddynt gael eu digideiddio
  • Unrhyw enwau adrannau yr hoffech iddynt gael eu grwpio oddi tanynt

Bydd llyfrau’n cael eu prynu, ceisiadau i ddigideiddio yn cael eu prosesu a chysylltir â chi os oes unrhyw broblem.
Mae ein holl gyngor ar baratoi eich rhestrau darllen Aspire ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ar gael yma: https://faqs.aber.ac.uk/cy/2978

llyfrau ar silff

Cwrdd â’r Tîm!

Dros y 18 mis diwethaf rydym i gyd wedi bod yn gweithio ar-lein gyda myfyrwyr a chydweithwyr eraill drwy Teams. Roedd yn wych i ni fel tîm gwrdd wyneb yn wyneb o’r diwedd, mwynhau mynd am dro ar hyd y prom a chael cyfarfod awyr agored i helpu i gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer 2021/22 (cafwyd cwmni’r dolffiniaid hyd yn oed!).

Rydym i gyd yn edrych ymlaen i gwrdd â chi yn y Flwyddyn Academaidd nesaf, ond yn y cyfamser mae croeso i chi gysylltu os ydych chi angen unrhyw gymorth.

llyfrgellwyr@aber.ac.uk
01970 621896

Llyfrgellwyr Pwnc
O’r chwith i’r dde: Anita Saycell, Lloyd Roderick, Simon French, Abi Crook, Sarah Gwenlan, Connie Davage, Non Jones, Joy Cadwallader. Dim yn y llun: Alex Warburton

Blog y Llyfrgellwyr: Croeso!

Casgliadau Collections Sign In the Hugh Owen Library

Yn syth o Lyfrgell Hugh Owen, dyma helô fawr gan eich tîm cyfeillgar o lyfrgellwyr.

Hoffem eich croesawu i’r blog Llyfrgellwyr adnewyddedig ble cewch ragor o wybodaeth am sut y mae’ch llyfrgell yn cefnogi dysgu, addysgu, ac ymchwil yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Caiff y blog ei ddiweddaru’n rheolaidd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio, a chofiwch: rydym wrth ein boddau yn siarad â chi, felly os oes unrhyw faterion llyfrgell yr hoffech gymorth â nhw, cysylltwch â ni:

Os hoffech gipolwg ar rai o’r pethau y gallwn eich helpu â nhw, edrychwch ar ein Canllawiau Llyfrgell pwrpasol: www.libguides.aber.ac.uk