Dymunwn wyliau Nadolig pleserus i chi!

Mae’r tymor hwn wedi bod yn brysur ac wedi mynd heibio’n gyflym iawn! Mae wedi bod yn gymysgedd gwych gyda sesiynau addysgu ar-lein yn ogystal ag wyneb yn wyneb a darparu cefnogaeth. Rydym wedi mwynhau bod yn ôl ar ddesg ymholiadau Llawr F Hugh Owen, gan helpu gyda llawer o gwestiynau ac ymholiadau amrywiol.

Rydym yma tan ddydd Iau 22 Rhagfyr, os bydd arnoch angen unrhyw gymorth cysylltwch â ni ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Ar ôl y gwyliau byddwn ni nôl ddydd Mawrth 3 Ionawr.

Mae Ystafell Iris de Freitas ar agor 24/7 o 22 Rhagfyr – 3 Ionawr 2023.

Ydych chi’n aros ar y Campws neu yn Aberystwyth yn ystod gwyliau’r Nadolig?

Hoffem ddymuno gwyliau hyfryd i bawb ac edrychwn ymlaen at eich helpu a’ch cefnogi yn 2023!

Porfeydd newydd i Connie

Rydym yn drist iawn ein bod wedi ffarwelio ag aelod gwerthfawr o’r Tîm Ymgysylltu Academaidd, Connie Davage. Ymunodd Connie â’n tîm nôl yn 2018 gan ddod â’i chyfoeth o brofiad o Dîm Desg Gwasanaeth y Llyfrgell i gyfuno’r rôl hon â chefnogi’r tîm lle bynnag y bo angen. Roedd Connie hefyd yn cefnogi’r Adran Dysgu Gydol Oes a bydd holl staff yr Adran yn gweld ei heisiau’n fawr.

Mae nifer o gydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi cael cymorth Connie dros y blynyddoedd, o gefnogaeth ar gyfer Rhestr Ddarllen Aspire, i geisiadau digideiddio a chymorth llyfrgell gwerthfawr.

Hoffem ddymuno’r gorau i Connie yn ei rôl newydd fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a diolch iddi am fod yn gydweithiwr gwych, yn bobydd o fri ac yn ffrind i bawb yn y tîm.

Connie Davage hod
Connie Davage

Dyma gyflwyno BrowZine

Mae BrowZine yn ffordd newydd o bori a chwilio miloedd o gyfnodolion electronig sydd ar gael i chi fel aelod o Brifysgol Aberystwyth.

Tudalen hafan BrowZine

Gan ddefnyddio BrowZine gallwch:

  • Pori neu chwilio yn ôl maes pwnc i ddod o hyd i e-gyfnodolion o ddiddordeb
  • Chwilio am deitl penodol
  • Creu eich silff lyfrau eich hun o’ch hoff e-gyfnodolion a’u trefnu sut y dymunwch
  • Dilyn eich hoff deitlau a derbyn hysbysiadau pan fydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi
  • Cadw erthyglau yn eich llyfrgell bersonol a fydd yn cysoni ar draws eich dyfeisiau

Gallwch ddefnyddio BrowZine ar eich cyfrifiadur, neu lawrlwythwch yr ap i’w ddefnyddio ar ddyfais Android neu Apple. Bydd BrowZine yn cysoni ar draws sawl dyfais fel y gallwch chi ddarllen eich e-gyfnodolion lle bynnag y byddwch.

Dewch o hyd iddo ar Primo, catalog y llyfrgell, drwy glicio ar y botwm Chwiliad e-gyfnodolion ar frig y dudalen neu lawrlwythwch yr ap o’ch siop apiau.

Sut i gyrraedd BrowZine o Primo, catalog y llyfrgell

Diwrnod Shwmae Su’mae – 15 Hydref

I ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae eleni, rydym yn rhannu blog gan ein blogiwr gwadd, Pencampwr Digidol Myfyrwyr, Laurie Stevenson, ac yn cael cip sydyn ar rai adnoddau llyfrgell i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad Cymraeg.

Laurie Stevenson

Dw i’n dysgu Cymraeg!

Ar y 15fed o Hydref bydd hi’n Ddiwrnod Shwmae Su’mae, sy’n ddiwrnod o ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg. Felly roedd arna i eisiau manteisio ar y cyfle hwn fel un o Bencampwyr Digidol y Myfyrwyr i ddefnyddio’r blog i rannu fy mhrofiadau fy hun fel dysgwr Cymraeg.

Pam y gwnes i benderfynu cael gwersi Cymraeg?

Fe wnes i syrthio mewn cariad â Chymru o fewn dim imi symud yma ac roeddwn i’n gwybod ers cychwyn cyntaf fy nghwrs gradd bod arna i eisiau dysgu mwy am ddiwylliant Cymru a dysgu’r iaith fel ffordd o barchu’r diwylliant a theimlo fy mod i’n perthyn yma. Rwy’n mwynhau heriau deallusol ond wnes i erioed weld diben dysgu ieithoedd fel Ffrangeg neu Sbaeneg os nad oeddwn i am allu eu defnyddio mewn bywyd go iawn. Trwy gydol fy nyddiau ysgol, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd teimlo unrhyw fath o frwdfrydedd tuag at ddysgu ieithoedd fel yna. Ond pan gefais gyfle i ddysgu Cymraeg roeddwn i’n hynod o awyddus. Rydw i wrth fy modd yn gallu cynnal sgyrsiau syml ar y bws neu mewn siop neu gaffi ac rydw i wir yn mwynhau’r wên sy’n dod i wynebau pobl pan maen nhw’n sylweddoli fy mod i’n dysgu’r iaith.

Sut y gwnes i fynd ati i ddysgu Cymraeg?

Fe wnes i ofyn am wersi Cymraeg yn fy mlwyddyn gyntaf ond oherwydd Covid doedden nhw ddim yn cael eu cynnal. Ond pan es i i Ffair y Glas yn fy ail flwyddyn siaradais gyda rhywun ar stondin UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – a rhoi fy enw i lawr. Mae’r gwersi’n cael eu darparu gan dysgucymraeg.cymru ac fe ddechreuais i gyda’u cwrs blasu, gyda sesiynau awr o hyd bob wythnos. Eleni rydw i wedi symud ymlaen i’r cwrs lefel mynediad, sydd yn cael ei achredu, ac mae hwnnw’n ddwyawr yr wythnos. Rydw i hefyd yn defnyddio Duolingo i gyd-fynd â’r gwersi ac mae hynny’n help er mwyn cofio gwybodaeth rhwng y gwersi.

Pa adnoddau defnyddiol ydw i wedi dod o hyd iddynt ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Drwy UMCA y gwnes i ddod o hyd i’r cyrsiau, ac maen nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau Cymraeg eu hiaith a digwyddiadau diwylliannol, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd ac ymarfer eu Cymraeg gyda siaradwyr Cymraeg. Mae dolenni i’r cyrsiau ar gael ar wefan y Brifysgol hefyd, a dolenni i adnoddau ar-lein i’ch helpu wrth ichi ddysgu. Mae gan y llyfrgell adnoddau gwych hefyd, gan gynnwys llyfrau, geiriaduron a llyfrau o ymadroddion er mwyn dysgu’r iaith.

Laurie Stevenson

Dysgwch ragor am Laurie a gwaith y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr ar y Blog Galluoedd Digidol

Adnoddau Llyfrgell

Os ydych wedi cychwyn ar eich taith i ddysgu Cymraeg, yn meddwl am fentro, neu os ydych yn siaradwr Cymraeg ac am roi sglein ar eich sgiliau, mae gan y llyfrgell ystod eang o adnoddau defnyddiol.

Ewch i’r Casgliad Celtaidd ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen ac mi ddewch o hyd i filoedd o lyfrau i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad – o nofelau gyda geirfa, i lyfrau gramadeg, i gyrsiau iaith cyflawn.

A chofiwch ddweud su’mae wrth staff y Llyfrgell!