[:en]Dear students and staff,
We hope that you all settled well in the new academic year. You might have wondered why recently the library was noisier than usual. The reason for all the disruptive drilling noise in the library is that our crew has now started working on the ceiling. They will be carrying these works over the coming two weeks. We apologise for the disruption, the noise will lessen as soon as work moves to more decorative finishing touches.
We are working towards making our Library a modern and comfortable place to study, with the very best facilities and learning resources. Let’s now take a look at what is currently happening on Level D:
- This will be your refreshment area, where you can socialize and have a cup of tea!
- Currently, we are installing the drop ceiling in there.
- Looking from the refreshment area we can see the cleaning up ready for ceiling grid and the new doorway on the left.
- Apart from the ceiling we are also working on preparing the floor for our new carpets.
- Completing interior walls for staffing area.
- And font door new lobby frame.
We are grateful for your patience and hope you look forward Level D to be re-open in January 2018.
We will update you soon, keep checking our blog for the latest refurbishment news!
Anna and Arfon[:cy]Annwyl fyfyrwyr a staff,
Gobeithio eich bod wedi setlo’n dda i’r flwyddyn academaidd newydd. Efallai eich bod wedi bod yn pendroni pam mae’r llyfrgell wedi bod yn fwy swnllyd nag arfer yn ddiweddar. Y rheswm dros yr holl sŵn drilio aflonyddgar yn y llyfrgell yw bod y criw bellach wedi dechrau gweithio ar y nenfwd. Byddant yn parhau â’r gwaith hwn dros y pythefnos nesaf. Rydym yn ymddiheuro am yr aflonyddu, bydd y sŵn yn lleihau wrth i’r gwaith symud ymlaen i bethau mwy addurnol.
Rydym yn gweithio i wneud ein Llyfrgell yn lle mwy modern a chyfforddus i astudio ynddi, gyda’r cyfleusterau a’r adnoddau dysgu gorau posibl. Beth am gael cipolwg ar yr hyn sy’n digwydd ar Lawr D ar hyn o bryd:
- Hon fydd yr ardal luniaeth, lle gallwch gymdeithasu a chael paned o de!
- Ar hyn o bryd, rydym yn gosod y nenfwd cwymp yno.
- Gan edrych o’r ardal luniaeth gallwn weld y gwaith glanhau er mwyn paratoi ar gyfer y grid nenfwd a’r drysau newydd ar y chwith.
- Yn ogystal â’r nenfwd rydym hefyd yn gweithio ar baratoi’r llawr ar gyfer ein carpedi newydd, lliwgar.
- Cwblhau’r waliau mewnol ar gyfer yr ardal staff.
- A ffrâm drws ffrynt y cyntedd newydd.
Rydym yn ddiolchgar am eich amynedd ac yn gobeithio eich bod yn edrych ymlaen at weld Llawr D yn cael ei ail-agor ym mis Ionawr 2018.
Byddwn yn rhoi’r manylion diweddaraf i chi’n fuan, cofiwch edrych ar ein blog i gael y newyddion diweddaraf am y gwaith ailwampio!
Ania ac Arfon[:]