Prosiect ceirch iach yn denu grant mawr

Un o gaeau IBERS lle mae ceirch yn cael eu tyfu at ddibenion ymchwil.

Mae prosiect ymchwil i hyrwyddo datblygiad ceirch fel cynnyrch bwyd iach a chnwd sy’n gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru ac Iwerddon wedi derbyn grant Ewropeaidd sylweddol.

Bydd y prosiect ‘Ceirch Iach’ yn elwa o €2.18 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraethau Cymru ac Iwerddon fel rhan o Raglen Cydweithredu Iwerddon-Cymru.

Dan arweiniad Coleg Prifysgol Dulyn, mae’r prosiect yn dwyn ynghyd wyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, ac Awdurdod Amaethyddiaeth a Datblygu Bwyd Iwerddon, Teagasc. 

Manylion pellach…