Defnyddio ffeibr optig i fesur tymheredd Llen Iâ’r Ynys Las

Fel rhan o’r prosiect, bu gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn defnyddio’r offer yma i ddrilio drwy’r rhewlif a chael mesuriadau manwl o dymheredd Llen Ia’r Ynys Las.

Mae gwyddonwyr wedi defnyddio offer synhwyro ffeibr optig i gofnodi’r mesuriadau mwyaf manwl erioed o nodweddion rhew ar Len Iâ’r Ynys Las.

Caiff eu canfyddiadau eu defnyddio i wneud modelau mwy cywir o sut mae ail len iâ fwyaf y byd yn symud yn y dyfodol, wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd barhau i gyflymu.

Rhoddwyd techneg newydd sbon ar waith gan y tîm ymchwil, dan arweiniad Prifysgol Caergrawnt, oedd yn golygu trosglwyddo pylsiadau laser mewn cebl ffibr optig er mwyn cael mesuriadau tymheredd manwl iawn o wyneb y llen iâ hyd at y gwaelod, dros 1000 metr islaw.

I osod y cebl, bu’n rhaid i’r gwyddonwyr ddrilio drwy’r rhewlif am y tro cyntaf ac fe arweiniwyd y broses hon gan yr Athro Bryn Hubbard a Dr Samuel Doyle o Brifysgol Aberystwyth.

Manylion pellach…