Cwestiynau Cyffredin


Beth yw’r Ŵyl Ymchwil?

Mae’r ŵyl yn ddigwyddiad blynyddol sy’n tynnu sylw at yr ymchwil o safon fyd-eang yn Brifysgol Aberystwyth. Eleni mae’n cael ei chynnal fel rhan o’n dathliadau 150 mlwyddiant.   

Un o brif amcanion yr Ŵyl yw ymgysylltu â chymunedau lleol ynghyd â rhannu syniadau a mewnwelediadau.  

Ble a phryd mae’n digwydd?

Cynhelir digwyddiadau rhwng dydd Llun 21 Tachwedd a dydd Llun 5 Rhagfyr. Lleolir rhan fwyaf o’r digwyddiadau ar Gampws Penglais. Isod mae rhestr o holl leoliadau’r Ŵyl, gyda dolenni i fap. 

Sut alla i gael tocynnau?

Mae tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ar gael drwy Eventbrite: https://bit.ly/3DDgJSu  

Mae archebu lle yn hanfodol gan fod tocynnau yn gyfyngedig. 

Sut gallaf ddychwelyd tocynnau os na allaf fynychu mwyach?

Pan fyddwch yn archebu tocyn drwy Eventbrite byddwch yn derbyn e-bost gyda manylion y digwyddiad y gwnaethoch archebu tocyn ar ei gyfer. Ar waelod yr e-bost hwn bydd dolen i weld a rheoli eich archeb ar-lein. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan Eventbrite lle byddwch yn gallu canslo eich archeb. Os cewch unrhyw anawsterau gyda’ch tocyn, cysylltwch â gwylymchwil@aber.ac.uk .   

Oes rhaid i mi dalu i fynychu?

Mae’r mwyafrif o ddigwyddiadau’r ŵyl yn rhad ac am ddim. Ar gyfer rhai digwyddiadau rydym yn partneru â threfnwyr eraill yn ein cylch ac efallai y bydd tal.

At bwy mae’r Ŵyl wedi ei hanelu?

Mae’r ŵyl yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau ac mae digwyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer ysgolion, aelodau’r gymuned leol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil. 

Pwy yw’r siaradwyr?  

Gellir dod o hyd i siaradwyr yr ŵyl yn y rhaglen.

Sut gallaf gysylltu â chi? 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch gwylymchwil@aber.ac.uk