Partneriaeth newydd i helpu ffermwyr gyrraedd sero-net

Heddiw (8 Chwefror 2021) cyhoeddodd Germinal a Phrifysgol Aberystwyth bartneriaeth ymchwil tymor hir newydd a fydd yn hyrwyddo ffermio cynaliadwy.

Yn sgil y bartneriaeth newydd, sy’n adeiladu ar bron i 35 mlynedd o gydweithio rhwng y ddau sefydliad, bydd Germinal yn cyflogi ac yn cyfarwyddo tîm o ymchwilwyr craidd yn y sefydliad i edrych ar borthiant a glaswelltir, yn ogystal ag ariannu swydd Athro mewn Ymchwil Glaswelltir Arloesol.

Bydd y tîm yn adeiladu ar gyflawniadau Gweiriau Uchel eu Siwgr Aber, sy’n lleihau allyriadau o ffermydd da byw ac wedi ennill sawl gwobr.  Byddant hefyd yn ceisio gwneud datblygiadau newydd o ran cynnwys lipid gweiriau, effeithlonrwydd y defnydd o faetholion a chnydau protein newydd cyffrous er mwyn cyrraedd sefyllfa lle mae’r broses o gynhyrchu da byw cnoi cil cynhyrchiol yn un garbon niwtral.

Manylion pellach…