Dydd Iau 10 Tachwedd 2022
Scribblers Cymraeg: Cerdd-Iaith
Fel rhan o Daith Gŵyl y Gelli Gandryll, cynhelir y gweithdy hwn gan rai o staff Prifysgol Aberystwyth – Mererid Hopwood a Siân Lloyd-Davies, gyda cherddoriaeth gan Gareth Glyn, a fydd yn cynorthwyo â dysgu ieithoedd newydd a sut i ddysgu gwrando’n astud ar rythm ac odl.
Hoffech chi wybod sut mae cŵn yn siarad yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Almaeneg, neu sut mae dweud eich bod chi’n llwglyd mewn Sbaeneg a Chymraeg? Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar rythm geiriau a brawddegau er mwyn cyflwyno tair neu bedair iaith i’r Sgriblwyr ar yr un pryd.
Mae’r gweithdai Cymraeg rhad ac am ddim hyn i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7, 8, 9) yn cael eu cyflwyno i chi fel rhan o Daith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli.
Dydd Llun 21 Tachwedd 2022
11:00 – 15:00
Lleoliad: Campws Penglais

Cynhadledd i ddisgyblion blwyddyn 12: Unigolion ac ardaloedd uchelgeisiol
Gwahoddir disgyblion blwyddyn 12 eich ysgol i gyfrannu i gynhadledd a drefnir fel rhan o Ŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth. Y gobaith yw annog sgyrsiau amrywiol ynghylch y math o ddyfodol yr hoffem ei greu i’r byd, i Gymru, i Geredigion ac i unigolion amrywiol.
Bydd cyfres o weithgareddau grŵp yn y bore i annog disgyblion i drafod:
1) eu syniadau a’u gweledigaeth am eu dyfodol hwy fel unigolion a dinasyddion;
2) eu syniadau a’u gweledigaeth am ddyfodol Ceredigion a Chymru;
3) eu syniadau am y berthynas rhwng eu dyfodol hwy a dyfodol Ceredigion a Chymru.
Rhwng 2yh a 3yh, cynhelir sesiwn adborth wedi ei chadeirio gan Aled Haydn Jones, un o Gymrodyr y Brifysgol, a Phennaeth BBC Radio 1.
Ein gobaith yw y bydd y gynhadledd yn gyfrwng i’r disgyblion i drin a thrafod syniadau pwysig ynghylch dinasyddiaeth, gyrfaoedd a dyfodol Ceredigion a Chymru. Yn hyn o beth, bydd y Gynhadledd yn berthnasol iawn i themâu a drafodir yn y Fagloriaeth Gymreig.
Noddir y Gynhadledd gan Cynnal y Cardi a Phrifysgol Aberystwyth, gan gynnwys talu am logi bws o’ch ysgol i Aberystwyth, ynghyd â chinio ysgafn.
Mawr obeithiwn y bydd modd i’ch disgyblion i fynychu’r Gynhadledd. Hoffem pe bai modd i chi gadarnhau a fydd eich disgyblion yn mynychu’r Gynhadledd, niferoedd fydd yn mynychu, yn ogystal ag unrhyw anghenion dietegol erbyn 7 Tachwedd 2022. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â researchfest@aber.ac.uk.