Gallai microbau sy’n cronni ar yr Ynys Las arwain at golli rhagor o iâ medd ymchwil

Greenland ice sheet
Ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth ar yr Ynys Las

Fe allai Llen Iâ’r Ynys Las fod dan fygythiad oherwydd bod microbau sydd ar ei arwyneb yn lluosogi’n gynt nag y cant eu golchi i ffwrdd mewn hinsawdd sy’n cynhesu, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Aberystwyth.

Llen Iâ’r Ynys Las yw’r darn mwyaf o iâ yn hemisffer y gogledd.

Mae’n ymestyn dros ardal o oddeutu saith gwaith maint y Deyrnas Gyfunol a dyfnder o hyd at 3 km (2 filltir). 

Mae ei arwyneb yn cynnal cyfoeth o fywyd microbaidd, gan gynnwys algae, sy’n medru newid lliw’r iâ drwy ffotosynthesis a storio carbon yn ystod misoedd yr haf.

Caiff y dyddodion carbon eu symud drwy gael eu golchi i ffwrdd gan ddŵr tawdd naturiol.

Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Nature Communications gan wyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn dod i’r casgliad bod cyfanswm y dyddodion hyn yn lluosogi’n gynt nag y cant eu golchi ymaith.

Manylion pellach…