Bydd gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i fabwysiadu techneg i gyflymu bridio Miscanthus mewn ymdrech i gwrdd â thargedau newid hinsawdd fel rhan o becyn gwerth £4 miliwn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i hybu cynhyrchu biomas.
Diolch i fuddsoddiad gan Raglen Arloesi Porthiant Biomas Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, bydd ymchwilwyr yn paratoi’r achos dros integreiddio techneg o’r enw dethol genomig i raglen fridio Miscanthus.
Glaswellt lluosflwydd cynhyrchiol iawn yw Miscanthus sy’n gofyn am fewnbynnau isel iawn ac mae’n cael ei fridio gan wyddonwyr yn Aberystwyth fel cnwd biomas.