Sting yn cyflwyno gwobr we Ewropeaidd i brosiect amgylcheddol sy’n cael ei arwain gan Aberystwyth

Yn ystod haf 2019 gosodwyd teils concrit ar yr amddiffynfeydd morol ger y Borth yng Ngheredigion fe rhan o brosiect eco-beirianneg Ecostructure.

Mae prosiect eco-beirianneg arloesol sy’n anelu at droi amddiffynfeydd môr a strwythurau artiffisial eraill yn gynefinoedd morol ffyniannus wedi ennill gwobr fawr gan yr Undeb Ewropeaidd.

Cyflwynwyd gwobr Better World (Byd Gwell) i Ecostructure, prosiect sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, gan y canwr Sting yng Ngwobrau Gwe .eu 2020, a gynhaliwyd ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020.

Manylion pellach…