Byrgyrs chwilod neu fyrbrydau criced? Bwyd o bryfed ar y fwydlen ymchwil yn Aberystwyth

Byrbrydiau Hop

Gallai criciaid a chwilod gael eu gweini ar ein platiau yn amlach, diolch i ymchwil academaidd newydd.

Mae pryfed yn rhan gyffredin o ddeietau bob dydd pobl mewn gwledydd ar draws y byd, megis Mecsico, Tsiena a Ghana.

Mae bwydydd o bryfed yn cynnig ffynhonnell protein fwy amgycheddol-gyfeillgar na llawer o fwydydd eraill, a gallent gynorthwyo bwydo poblogaeth gynyddol y byd.

Ar ran Cymru, mae Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at brosiect rhyngwladol, ‘ValuSect’, sy’n anelu at wella cynhyrchu a thechnegau prosesu pryfed yn gynaliadwy.

Manylion pellach…