Gallai cynhesu cyflym yn yr Arctig ledaenu gwastraff niwclear, feirysau heb eu darganfod a chemegau peryglus, yn ôl adroddiad newydd

Rhew parhaol yn yr Arctig

Mae gan rew parhaol yr Arctig sy’n dadmer yn gyflym, y potensial i ryddhau gwastraff ymbelydrol o longau tanfor ac adweithyddion niwclear rhyfel oer, bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau a feirysau a allai fod heb eu darganfod, yn ôl  ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth a’i waith ar y cyd â thîm o’r Unol Daleithiau. 

Wrth ysgrifennu yn Nature Climate Change, cyd-ysgrifennodd Dr Arwyn Edwards, o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), bapur ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi gydag academyddion o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau a’r Jet Propulsion Laboratory yn Ne California, sy’n rhan o NASA.

Manylion pellach…