Gallai criciaid a chwilod gael eu gweini ar ein platiau yn amlach, diolch i ymchwil academaidd newydd.
Mae pryfed yn rhan gyffredin o ddeietau bob dydd pobl mewn gwledydd ar draws y byd, megis Mecsico, Tsiena a Ghana.
Mae bwydydd o bryfed yn cynnig ffynhonnell protein fwy amgycheddol-gyfeillgar na llawer o fwydydd eraill, a gallent gynorthwyo bwydo poblogaeth gynyddol y byd.
Ar ran Cymru, mae Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at brosiect rhyngwladol, ‘ValuSect’, sy’n anelu at wella cynhyrchu a thechnegau prosesu pryfed yn gynaliadwy.