Diweddariad ar y gwaith adeiladu yn ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen, mis Mehefin 2019

Mae’r gwaith o adnewyddu ystafell Iris de Freitas ar Lefel E Llyfrgell Hugh Owen dros yr haf yn mynd rhagddo’n dda:

• mae’r ystafell wedi cael ei chlirio yn barod ar gyfer tair ystafell astudio newydd i grwpiau, y bydd modd eu harchebu
• mae byrddau distewi acwstig yn cael eu gosod ar y nenfwd er mwyn lleihau sŵn yn yr ardal yma
• bwriedir gosod goleuadau newydd LED sy’n effeithlon o ran ynni
• bydd yr adeiladwyr yn tynnu’r holl ffenestri allan yn yr wythnosau nesaf ac yna’n gosod rhai newydd

Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019
Ystafell Iris de Freitas room
Lluniau o’r gwaith adnewyddu wedi’r cam dymchwel – 26 Mehefin 2019

Llyfrgell Hugh Owen, ailwampio ystafell Iris de Freitas: cynlluniau 3D y pensaer

Mae’n gyffrous gweld sut mae’r cynlluniau ar gyfer ailwampio ystafell Iris de Freitas ar Lawr E, Llyfrgell Hugh Owen, yn datblygu. Mae’r pensaer wedi rhoi cynllun 3-D o’r gwaith ailwampio hyd yma: https://youtu.be/-Uosb6VwfJA (drwy ganiatâd caredig George a Tomos, penseiri). Dewch i’r llyfrgell i weld arddangosfa o’r cynlluniau yn fanylach.

Adnewyddu ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen: ardal ar gau o 29 Mai 2019

Er mwyn paratoi am waith adnewyddu ar ystafelloedd Iris de Freitas a Hermann Ethe ar Lawr E Llyfrgell Hugh Owen yn ystod yr haf/hydref 2019, bydd yr ardal hon yn cael ei chau i ddefnyddwyr o 13:00 ddydd Mercher 29 Mai ar ôl i’r arholiad olaf orffen. Disgwylir y byddwn yn ailagor y rhan hon ar 4 Tachwedd 2019. Mae rhagor o fanylion i’w cael: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/

Grŵp Ffocws ailwampio Iris De Freitas 12/02/2019

Cynhaliwyd grŵp ffocws i drafod y cynlluniau i ailwampio ystafell Iris De Freitas. Ymunodd chwech o gyfranogwyr â’r staff a’r penseiri sy’n gweithio ar y gwaith ailwampio i drafod y cynlluniau presennol. Roedd y sesiwn grŵp ffocws yn gymorth i gasglu adborth y myfyrwyr ynghyd ag arolygon a’r bwrdd nodiadau post-it yn ystafell Iris De Freitas sydd eisoes wedi’u casglu. Ceir rhagor o wybodaeth ar: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/

Diben y grŵp ffocws oedd casglu barn y myfyrwyr, gan ofyn iddynt am eu barn am y cam presennol yn y broses gynllunio.
Gwnaeth y penseiri egluro eu cynllun drwy ddangos cyflwyniad ar droed o’r cynlluniau presennol ar gyfer ailwampio. Gofynnodd yr aelodau o staff i’r cyfranogwyr wedyn am eu barn. Dyma rai o’r pynciau allweddol a drafodwyd
– Ystafelloedd astudio i grwpiau
– Ardaloedd Tawel
– Peiriannau bwyd a diod
– Byrddau gwyn
– Dodrefn
– Ardal astudio
Mae rhai o’r cynlluniau presennol yn cynnwys 3 ystafell astudio newydd i grwpiau, digon o ofod desg i weithio gyda gliniaduron. Bydd gan y desgiau hyn socedi plwg yn ogystal â phyrth USB. Bydd rhagor o fanylion am y cynlluniau ailwampio yn cael eu rhyddhau ganol mis Mawrth, ar ôl y tendr.

Os oes gennych chi unrhyw adborth am yr ailwampio, cysylltwch â ni drwy e-bostio – is-survey@aber.ac.uk

Rydym ar agor!

Helo bawb,

Yn sgil ein lansiad llwyddiannus, braf gweld bod yr adnewyddu newydd ar Lawr D yn Llyfrgell Hugh Owen wedi’u cwblhau yn llawn ac ar waith. Mae’r ystafelloedd astudio grŵp yn brysur ac mae’r llyfrgell yn llawn o fyfyrwyr yn adolygu’n ddiwyd ar gyfer eu harholiadau.

Agorwyd y llawr yn swyddogol gan ein his-ganghellor , yr Athro Elisabeth Treasure ar ddydd Llun 8fed o Ionawr. Gallwch ddarllen am y lansiad yma.

Mae gennym albwm o luniau o’r llawr ar ei newydd wedd ar Flickr.

Diolch i bawb a gyfrannodd eu syniadau tuag at ddyluniad yr ardal newydd. Credwn y gallwch weld bod eich adborth a’ch syniadau wedi dylanwadu ar yr adnewyddu.

Ar ran staff y Gwasanaethau Gwybodaeth, hoffwn ddymuno pob lwc i’n holl fyfyrwyr a’u harholiadau.