Manylion ailwampiad Iris de Freitas

Rydym newydd gael crynodeb o’r holl welliannau sy’n cael eu gwneud yn ystafell Iris de Freitas yn Llyfrgell Hugh Owen – gobeithio eich bod yn edrych ymlaen gymaint â ni i weld yr ystafell!

Bydd yno:
• 44 desg astudio, pob un gyda’i chyfrifiadur ei hun. Gellir addasu uchder dwy o’r desgiau hyn
• 140 o ardaloedd desg, a bydd modd addasu uchder dwy o’r rhain hefyd
• 21 o seddi i ymlacio, nifer gyda byrddau gliniadur gerllaw

• 3 o ystafelloedd astudio i grwpiau y gellir eu llogi, sy’n dal cyfanswm o 30 unigolyn, pob un gyda chyfrifiadur sgrin fawr, bwrdd mawr a bwrdd gwyn (GSR 6 yn eistedd 8, GSR 7 yn eistedd 8, a GSR 8 yn eistedd 12)
• 2 o guddyglau astudio y gellir eu llogi, gyda dau ofod yr un (pedwar i gyd), un cyfrifiadur a bwrdd gwyn ym mhob un, a desgiau y gellir addasu eu huchder
• Bydd gan yr ystafell Hermann Ethé bodiwm addysgu, seddi hyblyg, hysbysfwrdd a bwrdd gwyn mawr. Bydd yr ystafell yn dal 20 o seddi ar gyfer dysgu strwythuredig, ac ar sail y cyntaf i’r felin ar adegau eraill

• Byrddau gwyn gwydr symudol ar gyfer eu defnyddio ledled y gofod
• 2 argraffydd/copïwr
• Peiriannau bwyd a diod, gan gynnwys gorsaf ail-lenwi dŵr, peiriant byrbrydau a pheiriant diodydd poeth
• Mynediad i doiledau niwtral o ran y rhywiau

• Mwy o bwyntiau pŵer a signal Wi-Fi
• System wresogi newydd, ar gyfer nosweithiau cynhesach!
• Mae ffenestri newydd wedi cael eu gosod i gadw gwres a lleihau golau tanbaid. Mae’r ffenestri hyn hefyd yn ymgorffori system awyru osodedig, ble bydd yr awyrellau yn agor a chau’n awtomatig yn ôl yr amodau.
• Mae nenfwd newydd wedi cael ei adeiladu i helpu i atal colli gwres. Mae’r nenfwd hefyd yn cynnwys system oleuo LED sy’n addasu yn y prif ardaloedd i arbed ynni. Gellir addasu hwn â llaw yn yr ystafelloedd astudio.
• Llawr newydd ac wedi’i ailaddurno’n llawn
• Mae’r ardal bellach yn hygyrch, o ganlyniad i osod lifft newydd i’r llawr hwn.

Dyma rai lluniau o sut y bydd yr ardal yn edrych ar ôl cwblhau’r gwaith, a llun o’r ffenestri a osodwyd yn ddiweddar. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau!

y ffenestri newydd, ,Y ffenestri newydd disglair! Arlliwedig ac yn adlewyrchu gwres i arbed ynni a lleihau golau tanbaid
Y ffenestri newydd disglair! Arlliwedig ac yn adlewyrchu gwres i arbed ynni a lleihau golau tanbaid
Yr ardal ymlacio
Braslun o’r ardal ymlacio
Nodweddion dylunio
Rhai o’r nodweddion dylunio
Y seddi ymlacio
Y seddi ymlacio
Yr olygfa o’r gornel
Yr olygfa o’r gornel
Yr olygfa oddi uchod
Yr olygfa oddi uchod
Golygfa trem aderyn
Golygfa trem aderyn

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*