Dewch i edrych, mae’n hyfryd!
Awdur: WordPress User [hac15]
Manylion ailwampiad Iris de Freitas
Rydym newydd gael crynodeb o’r holl welliannau sy’n cael eu gwneud yn ystafell Iris de Freitas yn Llyfrgell Hugh Owen – gobeithio eich bod yn edrych ymlaen gymaint â ni i weld yr ystafell!
Bydd yno:
• 44 desg astudio, pob un gyda’i chyfrifiadur ei hun. Gellir addasu uchder dwy o’r desgiau hyn
• 140 o ardaloedd desg, a bydd modd addasu uchder dwy o’r rhain hefyd
• 21 o seddi i ymlacio, nifer gyda byrddau gliniadur gerllaw
• 3 o ystafelloedd astudio i grwpiau y gellir eu llogi, sy’n dal cyfanswm o 30 unigolyn, pob un gyda chyfrifiadur sgrin fawr, bwrdd mawr a bwrdd gwyn (GSR 6 yn eistedd 8, GSR 7 yn eistedd 8, a GSR 8 yn eistedd 12)
• 2 o guddyglau astudio y gellir eu llogi, gyda dau ofod yr un (pedwar i gyd), un cyfrifiadur a bwrdd gwyn ym mhob un, a desgiau y gellir addasu eu huchder
• Bydd gan yr ystafell Hermann Ethé bodiwm addysgu, seddi hyblyg, hysbysfwrdd a bwrdd gwyn mawr. Bydd yr ystafell yn dal 20 o seddi ar gyfer dysgu strwythuredig, ac ar sail y cyntaf i’r felin ar adegau eraill
• Byrddau gwyn gwydr symudol ar gyfer eu defnyddio ledled y gofod
• 2 argraffydd/copïwr
• Peiriannau bwyd a diod, gan gynnwys gorsaf ail-lenwi dŵr, peiriant byrbrydau a pheiriant diodydd poeth
• Mynediad i doiledau niwtral o ran y rhywiau
• Mwy o bwyntiau pŵer a signal Wi-Fi
• System wresogi newydd, ar gyfer nosweithiau cynhesach!
• Mae ffenestri newydd wedi cael eu gosod i gadw gwres a lleihau golau tanbaid. Mae’r ffenestri hyn hefyd yn ymgorffori system awyru osodedig, ble bydd yr awyrellau yn agor a chau’n awtomatig yn ôl yr amodau.
• Mae nenfwd newydd wedi cael ei adeiladu i helpu i atal colli gwres. Mae’r nenfwd hefyd yn cynnwys system oleuo LED sy’n addasu yn y prif ardaloedd i arbed ynni. Gellir addasu hwn â llaw yn yr ystafelloedd astudio.
• Llawr newydd ac wedi’i ailaddurno’n llawn
• Mae’r ardal bellach yn hygyrch, o ganlyniad i osod lifft newydd i’r llawr hwn.
Dyma rai lluniau o sut y bydd yr ardal yn edrych ar ôl cwblhau’r gwaith, a llun o’r ffenestri a osodwyd yn ddiweddar. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau!
Ailwampio Iris de Freitas, y diweddaraf ym mis Awst 2019
Mae ystafell Iris de Freitas yn dod yn ei blaen yn dda, gyda’r ffenestri newydd wedi’u gosod yn ddiweddar. Mae’r ffenestri sy’n wynebu’r Gorllewin (ar flaen yr adeilad) yn rhai arlliwiedig ac yn adlewyrchu gwres, a fydd yn gwneud yr ystafell yn un fwy cyfforddus i bawb. Y bwriad yw ailagor ym mis Tachwedd, ac rydym ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr i weld y newidiadau!