Gŵyl ymchwil newid hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth i edrych at heriau COP26

Bydd arbenigwyr ar newid hinsawdd yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth am wythnos o ddigwyddiadau er mwyn trin a thrafod heriau cyn uwch-gynhadledd COP26.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford, Comisiynydd Amgylchedd yr Undeb Ewropeaidd Virginijus Sinkevičius, a’r Athro Julian Agyeman, sy’n arbenigwr mewn polisi amgylcheddol, ymhlith y prif siaradwyr yng Ngŵyl Ymchwil gyntaf y Brifysgol, sy’n dechrau ar 18 Hydref 2021.

Yn y cyfnod yn arwain at Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) ym mis Tachwedd 2021, mi fydd yr ŵyl yn Aberystwyth yn canolbwyntio ar gwestiynau allweddol ac yn trafod atebion posibl i’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol byd-eang.

Bydd yn cynnwys ystod o brosiectau ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n gweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chyfrannu at dargedau di-garbon net.

Yn ogystal, fel rhan o’r wythnos, cynhelir symposium undydd ar y thema ‘HinsawddAber: Colled, Difrod, Adnewyddiad’.

Bydd siaradwyr o ddisgyblaethau gwahanol, gan gynnwys academyddion o Aberystwyth, yn eu plith yr Athro Sarah Davies, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a’r Athro Milja Kurki deiliad Cadair EH Carr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl a manylion am sut i gadw lle yn rhad ac am ddim, naill ai wyneb yn wyneb yn Aberystwyth neu’n rhithiol, ar gael drwy fynd i aber.ac.uk/gwylymchwil.

Manylion pellach…