Dyma gyflwyno BrowZine

Mae BrowZine yn ffordd newydd o bori a chwilio miloedd o gyfnodolion electronig sydd ar gael i chi fel aelod o Brifysgol Aberystwyth.

Tudalen hafan BrowZine

Gan ddefnyddio BrowZine gallwch:

  • Pori neu chwilio yn ôl maes pwnc i ddod o hyd i e-gyfnodolion o ddiddordeb
  • Chwilio am deitl penodol
  • Creu eich silff lyfrau eich hun o’ch hoff e-gyfnodolion a’u trefnu sut y dymunwch
  • Dilyn eich hoff deitlau a derbyn hysbysiadau pan fydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi
  • Cadw erthyglau yn eich llyfrgell bersonol a fydd yn cysoni ar draws eich dyfeisiau

Gallwch ddefnyddio BrowZine ar eich cyfrifiadur, neu lawrlwythwch yr ap i’w ddefnyddio ar ddyfais Android neu Apple. Bydd BrowZine yn cysoni ar draws sawl dyfais fel y gallwch chi ddarllen eich e-gyfnodolion lle bynnag y byddwch.

Dewch o hyd iddo ar Primo, catalog y llyfrgell, drwy glicio ar y botwm Chwiliad e-gyfnodolion ar frig y dudalen neu lawrlwythwch yr ap o’ch siop apiau.

Sut i gyrraedd BrowZine o Primo, catalog y llyfrgell

Diwrnod Shwmae Su’mae – 15 Hydref

I ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae eleni, rydym yn rhannu blog gan ein blogiwr gwadd, Pencampwr Digidol Myfyrwyr, Laurie Stevenson, ac yn cael cip sydyn ar rai adnoddau llyfrgell i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad Cymraeg.

Laurie Stevenson

Dw i’n dysgu Cymraeg!

Ar y 15fed o Hydref bydd hi’n Ddiwrnod Shwmae Su’mae, sy’n ddiwrnod o ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg. Felly roedd arna i eisiau manteisio ar y cyfle hwn fel un o Bencampwyr Digidol y Myfyrwyr i ddefnyddio’r blog i rannu fy mhrofiadau fy hun fel dysgwr Cymraeg.

Pam y gwnes i benderfynu cael gwersi Cymraeg?

Fe wnes i syrthio mewn cariad â Chymru o fewn dim imi symud yma ac roeddwn i’n gwybod ers cychwyn cyntaf fy nghwrs gradd bod arna i eisiau dysgu mwy am ddiwylliant Cymru a dysgu’r iaith fel ffordd o barchu’r diwylliant a theimlo fy mod i’n perthyn yma. Rwy’n mwynhau heriau deallusol ond wnes i erioed weld diben dysgu ieithoedd fel Ffrangeg neu Sbaeneg os nad oeddwn i am allu eu defnyddio mewn bywyd go iawn. Trwy gydol fy nyddiau ysgol, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd teimlo unrhyw fath o frwdfrydedd tuag at ddysgu ieithoedd fel yna. Ond pan gefais gyfle i ddysgu Cymraeg roeddwn i’n hynod o awyddus. Rydw i wrth fy modd yn gallu cynnal sgyrsiau syml ar y bws neu mewn siop neu gaffi ac rydw i wir yn mwynhau’r wên sy’n dod i wynebau pobl pan maen nhw’n sylweddoli fy mod i’n dysgu’r iaith.

Sut y gwnes i fynd ati i ddysgu Cymraeg?

Fe wnes i ofyn am wersi Cymraeg yn fy mlwyddyn gyntaf ond oherwydd Covid doedden nhw ddim yn cael eu cynnal. Ond pan es i i Ffair y Glas yn fy ail flwyddyn siaradais gyda rhywun ar stondin UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – a rhoi fy enw i lawr. Mae’r gwersi’n cael eu darparu gan dysgucymraeg.cymru ac fe ddechreuais i gyda’u cwrs blasu, gyda sesiynau awr o hyd bob wythnos. Eleni rydw i wedi symud ymlaen i’r cwrs lefel mynediad, sydd yn cael ei achredu, ac mae hwnnw’n ddwyawr yr wythnos. Rydw i hefyd yn defnyddio Duolingo i gyd-fynd â’r gwersi ac mae hynny’n help er mwyn cofio gwybodaeth rhwng y gwersi.

Pa adnoddau defnyddiol ydw i wedi dod o hyd iddynt ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Drwy UMCA y gwnes i ddod o hyd i’r cyrsiau, ac maen nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau Cymraeg eu hiaith a digwyddiadau diwylliannol, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd ac ymarfer eu Cymraeg gyda siaradwyr Cymraeg. Mae dolenni i’r cyrsiau ar gael ar wefan y Brifysgol hefyd, a dolenni i adnoddau ar-lein i’ch helpu wrth ichi ddysgu. Mae gan y llyfrgell adnoddau gwych hefyd, gan gynnwys llyfrau, geiriaduron a llyfrau o ymadroddion er mwyn dysgu’r iaith.

Laurie Stevenson

Dysgwch ragor am Laurie a gwaith y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr ar y Blog Galluoedd Digidol

Adnoddau Llyfrgell

Os ydych wedi cychwyn ar eich taith i ddysgu Cymraeg, yn meddwl am fentro, neu os ydych yn siaradwr Cymraeg ac am roi sglein ar eich sgiliau, mae gan y llyfrgell ystod eang o adnoddau defnyddiol.

Ewch i’r Casgliad Celtaidd ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen ac mi ddewch o hyd i filoedd o lyfrau i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad – o nofelau gyda geirfa, i lyfrau gramadeg, i gyrsiau iaith cyflawn.

A chofiwch ddweud su’mae wrth staff y Llyfrgell!

Wythnos Llyfrgelloedd 2022 – Dysgu Gydol Oes

Thema Wythnos Llyfrgelloedd eleni yw’r rhan ganolog sydd gan lyfrgelloedd yn cefnogi dysgu gydol oes.

Heddiw, rydym yn canolbwyntio ar ein myfyrwyr Dysgu Gydol Oes a’n defnyddwyr allanol.

Dysgu Gydol Oes

Ein canllaw Dysgu Gydol Oes yw eich canllaw cyflawn i’r llyfrgell a’r adnoddau dysgu ar gyfer eich pynciau. Yma cewch fanylion am adnoddau allweddol a chanllawiau ar sut i ddefnyddio’r llyfrgell a chysylltiadau cymorth.

Hafan LibGuide Dysgu Gydol Oes

Casgliad Astudio Effeithiol Mae’r Casgliad Astudio Effeithiol wedi’i gynllunio i’ch helpu chi astudio. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau.

Os ydych yn dychwelyd i fyd addsyg ar ôl seibiant, mynnwch olwg.

Mannau astudio a chyfleusterau TG yn y llyfrgell Peidiwch anghofio y gall myfyrwyr Dysgu Gydol Oes ddefnyddio holl gyfleusterau’r llyfrgell megis mannau astudio tawel, cyfrifiaduron, Wi-Fi ardderchog, a’r argraffwyr / copïwyr. Porwch yr A i Y o Wasanaethau’r Llyfrgell yma.

Y Casgliad Celtaidd Mae’r Casgliad Celtaidd yn cynnwys tua 25,000 o lyfrau yn ymwneud â Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, Iwerddon, yr Alban a Chymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd ar bob pwnc sy’n ymwneud â’r gwledydd Celtaidd, ac mae’n adnodd bendigedig i ymchwilwyr a selogion.

Dysgu Cymraeg neu am wella eich sgiliau? Dewch chi o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ymarfer a datblygu’ch sgiliau darllen a siarad yn y casgliad hwn – o nofelau graddedig gyda geirfa i wers-lyfrau.

Dewch o hyd i’r casgliad ar Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen:

Rhai o adnoddau dysgu Cymraeg yn y Casgliad Celtaidd

Digimap Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu data mapiau Arolwg Ordnans llawn a chynhwysfawr a mapiau hanesyddol yn ogystal â data daearegol. Mae Digimap yn adnodd hudol ac yn ddefnyddiol tu hwnt i ymchwilwyr hanes lleol a Gwyddorau Daear fel ei gilydd. Yr unig beth sydd angen arnoch yw cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth i gofrestru i’w weld.

Linkedin Learning Caiff holl fyfyrwyr ddefnyddio’r cyfoeth o gyrsiau gan arbenigwyr sydd ar gael ar-lein am ddim ac yn ddiderfyn 24/7 trwy Linkedin Learning.

Dyma ddetholiad o gyrsiau ddewiswyd gan ein Pencampwr Digidol Myfyrwyr, Urvashi Verma, a allai fod o ddefnydd i fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes

Casgliad Dysgu Gydol Oes Casgliad o gyrsiau a fideos byrion i’ch helpu chi ddatbygu’ch sgiliau astudio a rheoli’ch amser yn well.

Urvashi Verma

Defnyddwyr Allanol

Mae ein llyfrgelloedd yn croesawu gwahanol gategorïau o ddefnyddwyr allanol, o gyn-fyfyrwyr ac aelodau o staff sydd wedi ymddeol ac sy’n awyddus i ddal i ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell, myfyrwyr o sefydliadau eraill sy’n ymweld ag Aber ac angen lle i astudio neu drigolion lleol.

Rhowch gip ar y categorïau a’r manylion cofrestru: Gwybodaeth ar gyfer Ymwelwyr a Defnyddwyr Allanol.

Casgliadau Arbennig Gall Ddefnyddwyr Allanol wneud cais i ddefnyddio cyfleusterau TG a mannau astudio’r llyfrgell ac hefyd drefnu i weld eitemau hardd yn ein Casgliadau Arbennig.

Casgliad Llên Plant

Colourful books from the Children's Literature Collection on a table on Level F of the Hugh Owen Library
Llyfrau lliwgar o’r Casgliad Llên Plant yn cael eu harddangos ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen

Os ewch chi lawr i Lyfrgell Hugh Owen heddiw…. …byddwch chi’n siŵr o ddod o hyd i’n harddangosfa ddiweddaraf o lyfrau o’r Casgliad Llên Plant!

Dewch felly i archwilio’r casgliad sydd yn cynnwys detholiad da a diddorol o ffuglen i blant yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r llyfrau yn amrywio o lyfrau lluniau a llenyddiaeth gyfoes i blant, i ffuglen i oedolion ifanc – o ddreigiau i dywysogesau, o fôr-ladron i estroniaid a phopeth sydd rhyngddynt!

Bydd y casgliad yn arbennig o ddefnyddiol ichi os ydych yn astudio TAR neu Astudiaethau Plentyndod/Addysg. Dewch o hyd i’r casgliad yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F yn nod dosbarth PZ neu borwch y casgliad ar Primo, catalog y llyfrgell yma.