Ffuglen wedi’i Chyfieithu

Mae llenyddiaeth wedi’i chyfieithu yn ffordd wych o gael cipolwg ar ddiwylliannau eraill. Yn gyffredinol, mae gweithiau wedi’u cyfieithu yn cael eu rhoi ar y silffoedd gyda gweithiau yn yr iaith wreiddiol, felly os ydych chi’n awyddus i ehangu eich gorwelion darllen, peidiwch â bod ofn edrych ar adrannau mewn ieithoedd nad ydych chi’n eu siarad (eto!).

Mae nofelau Cymraeg cyfoes hefyd yn dod o hyd i gynulleidfa ryngwladol. Yn ddiweddar, mae nofel Manon Steffan Ros, Llyfr Glas Nebo wedi’i chyfieithu i Bwyleg, Catalaneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Arabeg, Fietnameg, Tyrceg a Chorëeg gyda chyfieithiadau i ddwsin o ieithoedd eraill yn cael eu paratoi. Gallwch ddod o hyd i gyfieithiad Saesneg yr awdur ei hun o Llyfr Glas Nebo (The Blue Book of Nebo) ar y silffoedd gyda’r gwreiddiol yn y Casgliad Celtaidd.

Mae’r Casgliad Celtaidd yn gynhenid ryngwladol ei natur, ac mae’n cynnwys deunyddiau ynglŷn ag ieithoedd Cymru, Iwerddon, yr Alban, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw a deunyddiau yn yr ieithoedd hynny. Agwedd arbennig o ddiddorol am y casgliad yw cyfieithiadau o weithiau mewn ieithoedd eraill i’r Gymraeg. Yn y casgliad gallwch ddod o hyd i weithiau gan Albert Camus (Y Dieithryn = L’Étranger), Jean-Paul Sartre (Caeëdig ddôr = Huis clos) Franz Kafka (Metamorffosis) ymhlith llawer mwy. Hefyd, yn Llyfrgell Hugh Owen, mae Asterix y Gâl yn siarad Cymraeg a Gwyddeleg a Tintin yn siarad Llydaweg.

Mae llyfrgell prifysgol bob amser yn ddrych o’r hyn sy’n cael ei addysgu a’i ymchwilio yn y sefydliad hwnnw. Yn ogystal â’r wyth iaith sy’n cael eu haddysgu rhwng yr adrannau Ieithoedd Modern a’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, fe welwch hefyd gyfieithiadau o lenyddiaeth o lawer o ieithoedd eraill yr ymchwilir iddynt ar hyn o bryd neu yr ymchwiliwyd iddynt o’r blaen yn y brifysgol.

Dyma ddetholiad o’n ffefrynnau:

Galwch heibio i Lyfrgell Hugh Owen i weld ein harddangosfa o lenyddiaeth wedi’i chyfieithu ar Lefel F y mis hwn.

A chwiliwch Primo, catalog y llyfrgell, i archwilio casgliadau’r llyfrgell

Dydd Miwsig Cymru

Heddiw, 7 Chwefror, yw Dydd Miwsig Cymru – diwrnod sy’n dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg. P’un a ydych yn mwynhau cerddoriaeth indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae cerddoriaeth anhygoel yn cael ei chyfansoddi yn y Gymraeg i chi ei darganfod. Darganfyddwch fwy am y diwrnod hwn gyda dolenni i restrau chwarae Spotify

Mae ein llyfrgellwyr wedi curadu rhestr chwarae Box of Broadcasts o rai o’u hoff raglenni dogfen a pherfformiadau i’ch rhoi ar y trywydd iawn gyda cherddoriaeth Gymraeg.

https://learningonscreen.ac.uk/ondemand/playlists/194552

Cliciwch ar y llun neu’r ddolen uchod i weld y rhestr chwarae

DA a’r Llyfrgell Wythnos tri. Adeiladu anogwyr: Sut i ysgrifennu anogwyr effeithiol ar gyfer canlyniadau DA gwell

Gall DA fod yn adnodd gwerthfawr i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn y llyfrgell. Trwy ddefnyddio arddull sgyrsiol adnoddau megis ChatGPT, gallwch gydweithio â’r DA i fireinio chwiliadau, cael argymhellion personol, a darganfod adnoddau perthnasol sy’n diwallu eich anghenion academaidd penodol yn gyflym.

Er mwyn cael y canlyniadau gorau gan DA, mae’n bwysig gofyn y cwestiynau cywir, ac mae hyn yn sgìl ynddo’i hun.

Pixabay

Mae’r sgìl hwn, a elwir yn adeiladu anogwr neu beirianneg anogwr, yn cynnwys strwythuro’ch ymholiadau mewn ffordd sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ddefnyddioldeb ymatebion yr adnodd DA. Gall meistroli’r dechneg hon wella’ch canlyniadau o adnodd DA yn sylweddol. (Am fwy o wybodaeth am bwysigrwydd adeiladu anogwyr effeithiol, gweler ein canllaw DA a’r Llyfrgell yma).

Beth yw anogwr effeithiol?

Mae anogwr DA effeithiol yn gryno, yn strwythuredig, ac yn benodol. Meddyliwch am y peth fel fformiwla, lle mae pob elfen yn chwarae rhan i sicrhau bod yr anogwr yn glir, wedi’i dargedu, ac yn canolbwyntio ar y canlyniad a ddymunir.

Efallai y bydd elfennau’r fformiwla yn edrych rhywbeth fel hyn:

Tasg + Pwnc + Strwythur + Arddull + Lefel

Gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae’r elfennau hyn yn ei olygu a sut y gallem eu cymhwyso i sefyllfa llyfrgell.

Mae’r elfen  Tasg  o’r fformiwla yn nodi beth yr hoffech i’r adnodd ei wneud. Dyma rai enghreifftiau posibl: Darganfod; Crynhoi; Esbonio; Disgrifio; Cymharu.

Mae’r Pwnc yn diffinio’r pwnc neu’r senario yr ydym ei eisiau i’r Dasg ei ystyried. Dyma rai enghreifftiau posibl: Gwreiddiau’r Ail Ryfel Byd; Rhamantiaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg; Amcanion Seicoleg Gadarnhaol.

Mae’r  Strwythur  yn nodi’r fformat y dylid cyflwyno’r ymateb. Gallwch ofyn am atebion mewn: Un frawddeg; 200 o eiriau; Rhestr o bwyntiau bwled; Tabl; Graffig neu Siart.

Mae’r  Arddull  yn nodi sut y dylai’r cynnwys gael ei ysgrifennu. Dyma rai arddulliau posibl: Ffurfiol; Anffurfiol; Academaidd; Ffraeth.

Mae Lefel y manylion yn dangos dyfnder a chwmpas yr wybodaeth sydd ei hangen. Gallai’r lefel hon o fanylder fod yn Drosolwg Sylfaenol neu’n Ddadansoddiad Manwl (neu’n unrhyw beth yn y canol!)

Dyma enghraifft y gallwch ei defnyddio yn y llyfrgell. Rydych chi eisiau dod o hyd i rai adnoddau yn y llyfrgell a fydd yn eich helpu i ateb y cwestiwn canlynol: “Dadansoddwch themâu a nodweddion Rhamantiaeth Saesneg ym marddoniaeth William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge.”

  • Tasg: Darganfod
  • Pwnc: Llyfrau sy’n trafod Rhamantiaeth Saesneg a barddoniaeth William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge.
  • Strwythur: Rhestr o bwyntiau bwled
  • Arddull: Academaidd
  • Lefel:     Trosolwg rhagarweiniol.

Byddai’r anogwr llawn yn edrych yn debyg i hyn:

Dewch o hyd i rai llyfrau academaidd sy’n rhoi trosolwg rhagarweiniol o Ramantiaeth Saesneg a barddoniaeth William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge a’u dangos mewn rhestr o bwyntiau bwled

Dyma’r allbwn a ddarparwyd gan y adnodd DA* (Yn yr enghraifft hon, rydym yn defnyddio perplexity.ai, adnodd y byddwn yn ei adolygu yn ein blogbost DA nesaf. Nodyn: Mi wnaethom chwilio yn Saesneg yn yr enghraifft hon, ond mae modd chwilio yn Gymraeg a chael ymateb yn Gymraeg hefyd):

*Rydym bob amser yn argymell gwirio unrhyw allbynnau DA am gywirdeb.

Trwy fynd i’r afael â’r grefft o adeiladu anogwyr, gallwch gyfleu’ch anghenion i’r anodd DA yn fwy effeithiol. Mae hyn yn sicrhau bod yr ymatebion yn berthnasol yn academaidd a’u bod yn diwallu eich anghenion dysgu penodol – gan arbed amser i chi wrth chwilio. Yna gallwch ymweld â Primo, catalog y llyfrgell i weld a oes gan y llyfrgell y teitlau awgrymedig ar gael i chi.

Fel y dangosir yn ein henghraifft, gall anogwr wedi’i strwythuro’n dda eich helpu i ddatgelu adnoddau academaidd gwerthfawr a all eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o bynciau yn gyflym.

Diwrnod Shwmae Su’mae

15 Hydref 2024

Heddiw ydy Diwrnod Shwmae Su’mae, sy’n ddiwrnod o ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg.

Cewch lawer o gyfleoedd i ddysgu ac i ddefnyddio’r iaith yma yn Aberystwyth, felly dyma gipolwg ar sut y gallwch chi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn.

Dysgu Cymraeg

Mae gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gael ar wefan y Brifysgol. Am fwy o wybodaeth am wersi Cymraeg, cysylltwch â learnwelsh@aber.ac.uk neu ewch i learnwelsh.cymru.

Cofiwch, gallwch hefyd lawrlwytho ap, megis Duolingo, i ymarfer eich sgiliau rhwng y gwersi.

Adnoddau Llyfrgell

Os ydych wedi cychwyn ar eich taith i ddysgu Cymraeg, yn meddwl am fentro, neu os ydych yn siaradwr Cymraeg ac am roi sglein ar eich sgiliau, mae gan y llyfrgell ystod eang o adnoddau defnyddiol a diddorol.

Ewch i’r Casgliad Celtaidd ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen ac mi ddewch o hyd i filoedd o lyfrau i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad – o nofelau gyda geirfa, i lyfrau gramadeg, i gyrsiau iaith cyflawn.

A chofiwch ddweud su’mae a mwy wrth staff y Llyfrgell! Cewch adnabod y rhai sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg yn ôl eu laniardiau a’u bathodynnau ‘Siarad Cymraeg’

Astudio a Gweithio trwy Gyfrwng y Gymraeg

Mae’r cyfoeth o adnoddau datblygu sgiliau SgiliauAber ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r llyfrgellwyr yn cynnig gweithdai yn y ddwy iaith hefyd – cynhelir gweithdai yn iaith eu teitl ar y dudalen restru: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/skills-workshops/

Piciwch draw i’n Blog Sgiliau Digidol i gael rhai awgrymiadau ar gyfer gwneud gweithio yn Gymraeg ar eich cyfrifiadur yn llawer mwy hwylus.: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/cy/2024/03/01/gweithio-ar-eich-cyfrifiadur-yn-gymraeg/

Ac a wyddoch chi? Gallwch ddefnyddio’r rhan fwyaf o systemau a gwasanaethau GG gan gynnwys Primo, Libguides a Rhestrau Darllen Aspire yn Gymraeg neu yn Saesneg. Cliciwch ar yr iaith ar ochr dde uchaf y dudalen we neu ar eicon y byd i newid rhwng ieithoedd.

UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth

Mae UMCA yn darparu llais a cymuned i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr a’r chwilfrydig! Maen nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau Cymraeg eu hiaith a digwyddiadau diwylliannol, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd ac ymarfer eu Cymraeg gyda siaradwyr Cymraeg. Dilynwch UMCA ar y cyfryngau cymdeithasol i ddysgu rhagor.