Newyddion Ymchwil 2021

Dyma ddetholiad o straeon diweddar am ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd. Mae manylion pellach am ein gwaith i’w cael yn ein prif dudalennau Ymchwil.

  • Gŵyl ymchwil newid hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth i edrych at heriau COP26

    Bydd arbenigwyr ar newid hinsawdd yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth am wythnos o ddigwyddiadau er mwyn trin a thrafod heriau cyn uwch-gynhadledd COP26. Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford, Comisiynydd Amgylchedd yr Undeb Ewropeaidd Virginijus Sinkevičius, a’r Athro Julian Agyeman, sy’n arbenigwr mewn polisi amgylcheddol, ymhlith y prif siaradwyr yng Ngŵyl Ymchwil gyntaf y Brifysgol,… Parhau i ddarllen Gŵyl ymchwil newid hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth i edrych at heriau COP26

  • Darlith gyhoeddus i ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd

    Goblygiadau newid yn yr hinsawdd i wleidyddiaeth ryngwladol fydd pwnc Darlith Goffa Kenneth Waltz eleni, a gynhelir ddydd Iau, 14 Hydref. Trefnir Darlith Goffa Kenneth Waltz 2021 gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Bydd a bydd yn cael ei thraddodi gan yr Athro Jan Selby o Brifysgol Sheffield. Mae newid yn yr hinsawdd a heriau ecolegol wedi… Parhau i ddarllen Darlith gyhoeddus i ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd

  • Gallai cynhesu cyflym yn yr Arctig ledaenu gwastraff niwclear, feirysau heb eu darganfod a chemegau peryglus, yn ôl adroddiad newydd

    Mae gan rew parhaol yr Arctig sy’n dadmer yn gyflym, y potensial i ryddhau gwastraff ymbelydrol o longau tanfor ac adweithyddion niwclear rhyfel oer, bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau a feirysau a allai fod heb eu darganfod, yn ôl  ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth a’i waith ar y cyd â thîm o’r Unol Daleithiau.  Wrth ysgrifennu yn Nature Climate… Parhau i ddarllen Gallai cynhesu cyflym yn yr Arctig ledaenu gwastraff niwclear, feirysau heb eu darganfod a chemegau peryglus, yn ôl adroddiad newydd

  • Cyflymu bridio Miscanthus er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd

    Bydd gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i fabwysiadu techneg i gyflymu bridio Miscanthus mewn ymdrech i gwrdd â thargedau newid hinsawdd fel rhan o becyn gwerth £4 miliwn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i hybu cynhyrchu biomas.  Diolch i fuddsoddiad gan Raglen Arloesi Porthiant Biomas Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, bydd ymchwilwyr yn paratoi’r achos dros integreiddio… Parhau i ddarllen Cyflymu bridio Miscanthus er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd

  • Gallai microbau sy’n cronni ar yr Ynys Las arwain at golli rhagor o iâ medd ymchwil

    Fe allai Llen Iâ’r Ynys Las fod dan fygythiad oherwydd bod microbau sydd ar ei arwyneb yn lluosogi’n gynt nag y cant eu golchi i ffwrdd mewn hinsawdd sy’n cynhesu, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Aberystwyth. Llen Iâ’r Ynys Las yw’r darn mwyaf o iâ yn hemisffer y gogledd. Mae’n ymestyn dros ardal o… Parhau i ddarllen Gallai microbau sy’n cronni ar yr Ynys Las arwain at golli rhagor o iâ medd ymchwil

  • Ymchwil iechyd newydd i gynorthwyo achub pengwiniaid Affrica rhag difodiant

    Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i sut mae afiechydon a llygredd yn cyfrannu at y cwymp ym mhoblogaeth pengwiniaid Affrica, rhywogaeth sy’n wynebu difodiant o fewn y tri deg i wyth deg mlynedd nesaf. Mae’r prosiect rhyngwladol yn edrych ar y rhesymau iechyd y tu ôl i’r dirywiad parhaus yn nifer yr adar… Parhau i ddarllen Ymchwil iechyd newydd i gynorthwyo achub pengwiniaid Affrica rhag difodiant

  • Defnyddio ffeibr optig i fesur tymheredd Llen Iâ’r Ynys Las

    Mae gwyddonwyr wedi defnyddio offer synhwyro ffeibr optig i gofnodi’r mesuriadau mwyaf manwl erioed o nodweddion rhew ar Len Iâ’r Ynys Las. Caiff eu canfyddiadau eu defnyddio i wneud modelau mwy cywir o sut mae ail len iâ fwyaf y byd yn symud yn y dyfodol, wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd barhau i… Parhau i ddarllen Defnyddio ffeibr optig i fesur tymheredd Llen Iâ’r Ynys Las