Cystadleuaeth FfotoAber

Logo FfotoAber

Mae’r Ŵyl Ymchwil wedi partneru gyda FfotoAber, sy’n cynnal marathon ffotograffiaeth yn y dre bob blwyddyn, er mwyn creu categori cystadlu newydd sbon ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal arlein ddydd Sadwrn 23 Hydref a’r dasg fydd tynnu 6 llun ar 6 thema gwahanol naill ai gyda chamera ffôn neu gamera digidol. 

Caiff y themau eu rhyddhau ar y diwrnod ar sianeli Facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber, gyda thair thema’n cael eu datgelu am 10:00 a thair am 13:00. 

Bydd gofyn i gystadleuwyr uwchlwytho eu chwe llun i blatfform arbennig fydd ar agor o 15:00 tan 21:00 ar 23 Hydref.

Bydd gwobrau’n cael eu rhoi ar gyfer y casgliad gorau o luniau ymhob categori a’r llun gorau ymhob thema – ac ymhlith y gwobrau bydd talebau gwerth £40-£50 i’w gwario mewn siopau a busnesau lleol fel Ultracomida, Medina, Siop Aber Ffoto neu Ganolfan y Celfyddydau. Pedwar categori sydd eleni sef: 

  1. Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
  2. Oed cynradd (11 ac iau)
  3. Oed uwchradd (12-18 oed) 
  4. Oed 19 a hŷn

Caiff holl luniau’r gystadleuaeth eu harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar lwyfannau digidol y Brifysgol.

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd felly dylai myfyrwyr gofrestru mor fuan â phosib drwy ebostio ffotomarathon@gmail.com o’u cyfrif Prifysgol aber.ac.uk, gan nodi eu henw, eu manylion cyswllt ac ymha gategori maen nhw’n cystadlu. 

Rydyn ni fel Prifysgol yn noddi’r digwyddiad eleni fel rhan o raglen ein Gwyl Ymchwil gan obeithio y bydd yn gyfle i fyfyrwyr y glas a’r rhai sy’n dychwelyd gymryd golwg agosach ar eu hamgylchfyd lleol drwy lens camera.

 Rheolau ac Amodau Ffotomarathon FfotoAber Hydref 2021

  1. Mae Ffotomarathon FfotoAber Hydref 2021 yn ddigwyddiad digidol. Gellir cymryd rhan gyda chamera digidol neu ffôn symudol.  
  2. Bydd rhaid tynnu 6 llun ar 6 thema, yn y drefn mae’r themau yn cael eu rhyddhau, hynny ydi, thema 1 fydd y llun cyntaf.
  3. Bydd pedwar categori cystadlu – oed cynradd (11 ac iau), oed uwchradd (12-18), agored (19 oed a hýn) a chategori ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
  4. Rhaid tynnu pob llun yn ystod Ffotomarathon FfotoAber a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 23 Hydref 2021
  5. Caiff themau eu rhyddhau fel a ganlyn – tair thema am 10 y bore Sadwrn a tair thema am 1 bnawn Sadwrn a byddant yn cael eu rhyddhau ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol FfotoAber
  6. Dylid uwchlwytho eich chwe llun (a chwe llun yn unig, ac yn nhrefn y themau) rhwng 3 bnawn Sadwrn a 9 nos Sadwrn. Ni fydd yn bosib uwchlwytho lluniau cyn 3 o’r gloch bnawn Sadwrn na chwaith ar ôl naw o’r gloch nos Sadwrn.
  7. Er mwyn uwchlwytho byddwn yn anfon y wybodaeth briodol ar gyfer pob cystadleuydd, wedi iddyn nhw gofrestru
  8. Y ffotograffydd fydd berchen ar hawlfraint y lluniau a dynnwyd, fodd bynnag fe fydd gan FfotoAber yr hawl i arddangos a chyhoeddi’r lluniau fel rhan o’r gystadleuaeth ac er budd hybu’r Ffotomarathon a Gwyl FfotoAber heb unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a hynny ar unrhyw blatfform – gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen.
  9. Y mae pawb sy’n cystadlu yn gwneud hynny ar ei risg ei hunain.
  10. Cynigir gwobr am y llun unigol gorau ymhob thema ac am y set o chwe llun gorau ymhob categori.  
  11. Diolch i Gyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth ac i gwmniau Gelert, Unigryw, Four Cymru am eu cefnogaeth.