
Mae’r Ŵyl Ymchwil wedi partneru gyda FfotoAber, sy’n cynnal marathon ffotograffiaeth yn y dre bob blwyddyn, er mwyn creu categori cystadlu newydd sbon ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal arlein ddydd Sadwrn 23 Hydref a’r dasg fydd tynnu 6 llun ar 6 thema gwahanol naill ai gyda chamera ffôn neu gamera digidol.
Caiff y themau eu rhyddhau ar y diwrnod ar sianeli Facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber, gyda thair thema’n cael eu datgelu am 10:00 a thair am 13:00.
- Instagram @ffotoaber
- facebook.com/FfotoAber
- Twitter @FfotoAber
Bydd gofyn i gystadleuwyr uwchlwytho eu chwe llun i blatfform arbennig fydd ar agor o 15:00 tan 21:00 ar 23 Hydref.
Bydd gwobrau’n cael eu rhoi ar gyfer y casgliad gorau o luniau ymhob categori a’r llun gorau ymhob thema – ac ymhlith y gwobrau bydd talebau gwerth £40-£50 i’w gwario mewn siopau a busnesau lleol fel Ultracomida, Medina, Siop Aber Ffoto neu Ganolfan y Celfyddydau. Pedwar categori sydd eleni sef:
- Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
- Oed cynradd (11 ac iau)
- Oed uwchradd (12-18 oed)
- Oed 19 a hŷn
Caiff holl luniau’r gystadleuaeth eu harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar lwyfannau digidol y Brifysgol.
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd felly dylai myfyrwyr gofrestru mor fuan â phosib drwy ebostio ffotomarathon@gmail.com o’u cyfrif Prifysgol aber.ac.uk, gan nodi eu henw, eu manylion cyswllt ac ymha gategori maen nhw’n cystadlu.
Rydyn ni fel Prifysgol yn noddi’r digwyddiad eleni fel rhan o raglen ein Gwyl Ymchwil gan obeithio y bydd yn gyfle i fyfyrwyr y glas a’r rhai sy’n dychwelyd gymryd golwg agosach ar eu hamgylchfyd lleol drwy lens camera.
Rheolau ac Amodau Ffotomarathon FfotoAber Hydref 2021
- Mae Ffotomarathon FfotoAber Hydref 2021 yn ddigwyddiad digidol. Gellir cymryd rhan gyda chamera digidol neu ffôn symudol.
- Bydd rhaid tynnu 6 llun ar 6 thema, yn y drefn mae’r themau yn cael eu rhyddhau, hynny ydi, thema 1 fydd y llun cyntaf.
- Bydd pedwar categori cystadlu – oed cynradd (11 ac iau), oed uwchradd (12-18), agored (19 oed a hýn) a chategori ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
- Rhaid tynnu pob llun yn ystod Ffotomarathon FfotoAber a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 23 Hydref 2021
- Caiff themau eu rhyddhau fel a ganlyn – tair thema am 10 y bore Sadwrn a tair thema am 1 bnawn Sadwrn a byddant yn cael eu rhyddhau ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol FfotoAber
- Dylid uwchlwytho eich chwe llun (a chwe llun yn unig, ac yn nhrefn y themau) rhwng 3 bnawn Sadwrn a 9 nos Sadwrn. Ni fydd yn bosib uwchlwytho lluniau cyn 3 o’r gloch bnawn Sadwrn na chwaith ar ôl naw o’r gloch nos Sadwrn.
- Er mwyn uwchlwytho byddwn yn anfon y wybodaeth briodol ar gyfer pob cystadleuydd, wedi iddyn nhw gofrestru
- Y ffotograffydd fydd berchen ar hawlfraint y lluniau a dynnwyd, fodd bynnag fe fydd gan FfotoAber yr hawl i arddangos a chyhoeddi’r lluniau fel rhan o’r gystadleuaeth ac er budd hybu’r Ffotomarathon a Gwyl FfotoAber heb unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a hynny ar unrhyw blatfform – gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen.
- Y mae pawb sy’n cystadlu yn gwneud hynny ar ei risg ei hunain.
- Cynigir gwobr am y llun unigol gorau ymhob thema ac am y set o chwe llun gorau ymhob categori.
- Diolch i Gyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth ac i gwmniau Gelert, Unigryw, Four Cymru am eu cefnogaeth.