Datglowch bŵer Gwybodaeth Gofal Iechyd gyda Chronfeydd Data’r Llyfrgell!

Gall ceisio dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y byd gofal iechyd deimlo’n hynod llethol. Mae’r teimlad nad oes gennych ddigon o amser wrth i chi gydbwyso ymrwymiadau personol, darlithoedd, a lleoliadau clinigol yn gallu bod yn heriol dros ben. Felly, wrth ymchwilio ar gyfer aseiniadau neu i ddeall cyflyrau cymhleth, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau.

Yn hytrach na threulio amser yn gwneud chwiliadau diddiwedd ar-lein a all eich arwain at wefannau o ansawdd amheus a gwybodaeth nad yw’n gyfredol mwyach, mae eich llyfrgell yn buddsoddi mewn cronfeydd data gofal iechyd safonol fel CINAHL, MEDLINE, Cronfa Ddata Nyrsio Prydain (a llawer mwy!) am reswm – maent yn drysorfa o ymchwil credadwy, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd fel chi.

Mae ein tudalen ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ yn rhan o brif adnodd chwilio’r llyfrgell a gellir ei gweld ar frig Primo, felly nid oes angen ichi gofio unrhyw gyfeiriadau gwe ar wahân.

Mae’r adnodd i Chwilio am Gronfeydd Data wedi’i rannu’n bynciau gwahanol felly gallwch bori drwy’r adnoddau sy’n berthnasol i’ch cwrs chi. Neu gallwch chwilio yn ôl termau allweddol a chywain canlyniadau o’r casgliad cyfan.

Ymgyfarwyddwch â’r cronfeydd data hyn i gael:

  • Tystiolaeth ddibynadwy a chyfredol: Mae’r cronfeydd data hyn yn curadu gwybodaeth o gyfnodolion cydnabyddedig.
  • Gwybodaeth wedi’i Thargedu: Defnyddiwch allweddeiriau a hidlwyr penodol i ganfod erthyglau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’ch pwnc, boed trin clwyfau, nyrsio iechyd meddwl, neu diabetes.
  • Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ar Flaenau eich Bysedd: Mae’r cronfeydd data hyn yn helpu i ddarparu’r sylfaen ar gyfer deall y “pam” y tu ôl i’r arfer, gan helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl ar sail ymchwil gadarn.
  • Llwyddiant Academaidd: Bydd defnyddio ffynonellau credadwy o’r cronfeydd data hyn yn cryfhau eich dadleuon, yn dangos meddwl beirniadol, ac yn arwain at farciau gwell yn y pen draw.
  • Ehangu eich Gwybodaeth: Ehangwch eich dealltwriaeth o bynciau gofal iechyd i fod yn barod am yrfa yn y maes.

Dim syniad ble i ddechrau? 

  1. Mewngofnodwch i Primo – catalog y llyfrgell.
  2. Defnyddiwch ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ i ddod o hyd i’ch cronfa ddata – dilynwch unrhyw nodiadau oddi ar y campws os oes angen.
  3. Am ragor o wybodaeth a chymorth, gweler eich LibGuide neu cysylltwch â’ch llyfrgellydd.

Pob hwyl wrth ymchwilio!

Mae Jisc Historical Texts wedi dod i ben  

Nid yw Jisc bellach yn darparu Jisc Historical Texts. I wneud yn iawn am golli’r gwasanaeth hwn:

Mae Early Modern Books yn cwmpasu deunydd o Ynysoedd Prydain ac Ewrop am y cyfnod 1450-1700. Mae chwiliad integredig ar draws Llyfrau Saesneg Cynnar Ar-lein a Llyfrau Ewropeaidd Cynnar yn caniatáu i ysgolheigion weld deunyddiau o dros 225 o lyfrgelloedd ffynhonnell ledled y byd. Mae cynnwys EEBO yn defnyddio catalogau teitl byr awdurdodol y cyfnod ac yn cynnwys llawer o drawsgrifiadau testun a grëwyd yn arbennig ar gyfer y cynnyrch. Mae cynnwys o Ewrop yn cwmpasu’r Casgliadau Llyfrau Ewropeaidd Cynnar wedi’u curadu o 4 llyfrgell genedlaethol a Llyfrgell Wellcome Llundain.

Mae Eighteenth Century Collections Online (ECCO) yn llyfrgell helaeth o’r ddeunawfed ganrif ar eich bwrdd gwaith—casgliad testun-chwiliadwy llawn o lyfrau, pamffledi ac argrafflenni ym mhob pwnc a argraffwyd rhwng 1701 a 1800. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys dros 180,000 o deitlau sy’n dod i gyfanswm o dros 32 miliwn o dudalennau y gellir eu chwilio’n llawn.

Gellir cael gafael ar deitlau sydd yn yr archif Jisc Journal Archive trwy ddarparwyr eraill yn Primo, catalog y Llyfrgell.

Cofiwch gysylltu â llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu eich llyfrgellydd pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau.