Pan ddechreuais ysgrifennu am foeseg defnyddio DA cynhyrchiol, roeddwn i’n meddwl mai dim ond un blogbost fyddwn i’n ei ysgrifennu. Ond po ddyfnaf yr oeddwn yn ei gloddio, y mwyaf oedd i’w ystyried. Felly, yn hytrach nag un neges, mae’r pwnc hwn wedi troi’n gyfres ynddi’i hun (meddyliwch House of the Dragon i Game of Thrones!).
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi ystyried sut mae offer DA cynhyrchiol fel ChatGPT a Perplexity yn trawsnewid sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio ag adnoddau llyfrgell. Ond gyda’r datblygiadau hyn daw ystyriaethau moesegol pwysig.
Y cam cyntaf, a’r pwysicaf o bosibl, wrth ddefnyddio DA cynhyrchiol yn gyfrifol yw deall polisïau DA eich prifysgol. Mae ymgyfarwyddo â’r canllawiau yn sicrhau eich bod yn aros yn academaidd onest ac yn eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am ddefnydd o DA.
Dyma rai pethau i’w cofio:
Canllawiau ledled y Brifysgol
Edrychwch ar bolisïau swyddogol y brifysgol ar ddefnyddio DA mewn gwaith academaidd.
Gwiriwch am reolau penodol ynghylch DA mewn aseiniadau, arholiadau neu brosiectau ymchwil.
Cyngor Adrannol
Edrychwch am unrhyw ganllawiau sy’n gysylltiedig â DA a ddarperir gan eich adran academaidd.
Rhowch sylw i gyfarwyddiadau neu ddiweddariadau gan eich tiwtoriaid modiwl am ddefnyddio DA.
Rheolau modiwl-benodol
Efallai y bydd gan rai modiwlau reolau unigryw ynghylch defnyddio offer DA.
Edrychwch ar lawlyfr eich modiwl neu gofynnwch i gydlynydd eich modiwl os nad ydych yn siŵr beth a ganiateir.
Canlyniadau Camddefnyddio
Gallai camddefnyddio DA neu fethu â chydnabod ei rôl gael ei ystyried yn gamymddwyn academaidd.
Byddwch yn ymwybodol o’r canlyniadau posibl, fel:
Methu aseiniadau.
Camau disgyblu.
Niwed i’ch enw da academaidd.
Trwy ddeall y polisïau hyn, gallwch ddefnyddio DA yn gyfrifol a chwrdd â disgwyliadau’r brifysgol tra’n cynnal uniondeb academaidd.
Yma yn y llyfrgell, rydym yn gefnogwyr mawr o Primo, catalog y llyfrgell. Gyda Primo, mae modd dod o hyd i’r llyfrau ar ein silffoedd, ond hefyd gallwch gael mynediad at filiynau o adnoddau digidol, pob un yn barod ar flaenau eich bysedd.
Ond gyda chymaint o adnoddau ar gael i chi, weithiau gall chwilio catalog y llyfrgell deimlo’n rhwystredig. Os ydych chi’n defnyddio chwiliad rhy eang (e.e. “hanes”) yna cewch eich llethu gan ganlyniadau. Term chwilio rhy benodol (“pensaernïaeth neo-Gothig yng nghefn gwlad Chile”) a chewch chi ddim byd!
Felly, beth allwch chi ei wneud? Ein cyngor fel llyfrgellwyr pwnc yw dechrau drwy adeiladu geirfa o allweddeiriau. Bydd cael cyfres glir o eiriau allweddol yn targedu eich chwiliadau, gan eich helpu i ganolbwyntio ar yr adnoddau mwyaf perthnasol a defnyddiol. Mae’n gam syml a all wneud gwahaniaeth enfawr yn eich taith ymchwil!
Sut y gall DA eich helpu i adeiladu geirfa chwilio?
Gall offer DA fel ChatGPT awgrymu allweddeiriau craffach, cyfystyron, a chysyniadau cysylltiedig i wneud eich chwiliadau yn fwy effeithiol. Edrychwn ar rai enghreifftiau
Dewisiadau amgen mwy deallus i dermau eang.
[Anogwr] Awgrymwch rai allweddeiriau amgen ar gyfer “Newid yn yr Hinsawdd”
Efallai y bydd y DA yn ymateb gyda:
Cynhesu byd-eang.
Argyfwng yr hinsawdd.
Effaith tŷ gwydr.
Ymchwilio i Achosion
Eisiau ymchwilio i’r hyn sy’n gyrru newid hinsawdd? Rhowch gynnig ar:
[Anogwr] Rhowch restr o eiriau allweddol i mi ar gyfer rhai o brif achosion newid yn yr hinsawdd.
Yr ymateb:
Allyriadau carbon deuocsid.
Tanwydd ffosil.
Llygredd diwydiannol.
Datgoedwigo.
Allyriadau methan.
Ymchwilio i Effeithiau
Ydych chi eisiau canolbwyntio ar sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y blaned? Defnyddiwch:
[Anogwr] Awgrymwch rai allweddeiriau ar gyfer prif effeithiau Newid yn yr Hinsawdd.
Ymateb:
Cynnydd yn lefel y môr.
Capiau iâ pegynol yn toddi.
Digwyddiadau tywydd eithafol.
Colli Bioamrywiaeth.
Asideiddio’r cefnforoedd.
4. Chwilio am Ddatrysiadau
Ar gyfer strategaethau lliniaru, rhowch gynnig ar:
[Anogwr] Awgrymwch rai allweddeiriau ar gyfer sut y gellir lliniaru Newid yn yr Hinsawdd.
Ymateb
Ynni Adnewyddadwy.
Dal a storio carbon.
Polisïau Newid Hinsawdd.
Technoleg werdd.
Datblygu cynaliadwy’.
Dod â’r Cwbl Ynghyd
Yn olaf, cyfunwch y syniadau hyn ar gyfer chwiliad mwy cymhleth. Er enghraifft:
{Anogwr] Awgrymwch gyfres o chwiliadau allweddair i ddod o hyd i adnoddau ar effeithiau allyriadau methan ar golli bioamrywiaeth a’r hyn y gellir ei wneud i liniaru’r effeithiau hynny.
Efallai y bydd y DA yn eich helpu i greu chwiliad sy’n edrych fel hyn:
Allyriadau methan a bioamrywiaeth.
Effaith methan ar ecosystemau’r Arctig.
Technolegau lliniaru methan mewn rhanbarthau rhew parhaol.
Trwy ddefnyddio DA i adeiladu geirfa o allweddeiriau wedi’i thargedu, byddwch yn treulio llai o amser yn chwilio a mwy o amser yn darganfod yr adnoddau sydd eu hangen arnoch.
[Crëwyd yr ymatebion a restrir uchod gyda ChatGPT].
Does dim angen inni eich atgoffa chi mae’n siŵr—mae yna lawer o adnoddau Deallusrwydd Artiffisial (DA) mas yna. Er taw ChatGPT sydd wedi bachu’r penawdau yn gynnar, mae Perplexity AI yn prysur ddatblygu’n un o’n ffefrynnau ni yma yn y llyfrgell.
Mae Perplexity AI yn ennill ei blwyf ym myd adfer gwybodaeth, ac am reswm da. Yn wahanol i’w gymar mwy sgyrsiol, ChatGPT, sy’n aml yn mwynhau deialogau hir, mae Perplexity yn mabwysiadu dull uniongyrchol ac effeithlon o ateb ymholiadau. Mae hyn yn ei wneud yn offeryn delfrydol ar gyfer y rhai sydd angen ffeithiau cyflym, ymchwil trylwyr, neu wybodaeth am bynciau penodol. Ar ben hynny, mae’n darparu dyfyniadau ar gyfer ei holl ymatebion.
Pam dewis Perplexity?
Dyma’r nodweddion amlwg sy’n gwneud Perplexity yn ddewis da:
Gwybodaeth amser real: Mae Perplexity yn tynnu data newydd yn uniongyrchol o’r we, gan sicrhau eich bod bob amser yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Crynodebau clir: Yn hytrach na’ch boddi mewn dolenni diddiwedd, mae’n darparu atebion cryno, uniongyrchol er mwyn arbed amser i chi.
[A dyma’r enillydd clir i ni] Gwirio ffeithiau: Daw pob ymateb gyda dyfyniadau, fel y gallwch wirio hygrededd yr wybodaeth yn hawdd ac archwilio ymhellach os oes angen.
Sut gall Perplexity eich helpu chi?
Darganfod adnoddau. Gall awgrymu geiriau allweddol neu ymadroddion effeithiol i fireinio’ch gwaith chwilio yng nghatalog y llyfrgell neu gronfeydd data ar-lein eraill. (Cadwch lygad ar ein blogbost nesaf am sut i fod yn glyfar wrth chwilio am eiriau allweddol)
Cymorth astudio: Gall egluro pynciau’n gyflym, darparu esboniadau cryno, neu archwilio pynciau ymhellach er mwyn i chi eu deall yn well, a gall pob un o’r pethau hyn arbed amser yn ystod sesiynau astudio.
Gwirio ffeithiau: Gall Perplexity wirio hawliadau neu ystadegau ar gyfer traethodau neu gyflwyniadau – a hynny’n gyflym, gan sicrhau bod eich gwaith yn gywir ac yn gredadwy.
Ambell i beth i’w gofio am Perplexity
Prinder dyfnder sgwrsio Dyw Perplexity ddim mor dda â ChatGPT wrth gynnal dilyniant cyd-destunol neu sgwrs estynedig.
Dibyniaeth ar ffynonellau allanol: Er bod dyfyniadau yn elfen gref, mae cywirdeb yr offeryn yn dibynnu ar ansawdd y ffynonellau mae’n cyfeirio atyn nhw. Cofiwch wirio gwybodaeth hanfodol bob amser lle bo hynny’n bosibl.
Dim allbynnau creadigol neu agored: Dyw Perplexity ddim wedi’i gynllunio ar gyfer tasgau fel ysgrifennu creadigol, taflu syniadau, neu drafodaethau archwiliadol—mae ChatGPT yn llawer mwy addas i’r tasgau hyn.
I gloi
Mae Perplexity AI yn offeryn pwerus i fyfyrwyr ac ymchwilwyr, gan gynnig mynediad cyflym at wybodaeth gyfredol a dyfyniadau defnyddiol ar gyfer gwirio ffeithiau ac astudio ymhellach.
Yn wahanol i ChatGPT, sy’n rhagori ar sgyrsiau, mae Perplexity yn darparu atebion cryno, sy’n golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer gwaith academaidd. Mae hefyd yn eich helpu i ddarganfod rhagor o adnoddau drwy awgrymu geiriau allweddol ar gyfer chwilio effeithiol. Fodd bynnag, does dim cymaint o ddyfnder sgwrsio ganddo â ChatGPT, ac mae ei gywirdeb yn dibynnu ar ansawdd y ffynonellau y mae’n eu dyfynnu. Drwy gyfuno’r ddau offeryn, gallwch wneud y gorau o’ch amser astudio a rhoi mwy o ganolbwynt effeithiol i’c
Gall DA fod yn adnodd gwerthfawr i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn y llyfrgell. Trwy ddefnyddio arddull sgyrsiol adnoddau megis ChatGPT, gallwch gydweithio â’r DA i fireinio chwiliadau, cael argymhellion personol, a darganfod adnoddau perthnasol sy’n diwallu eich anghenion academaidd penodol yn gyflym.
Er mwyn cael y canlyniadau gorau gan DA, mae’n bwysig gofyn y cwestiynau cywir, ac mae hyn yn sgìl ynddo’i hun.
Mae’r sgìl hwn, a elwir yn adeiladu anogwr neu beirianneg anogwr, yn cynnwys strwythuro’ch ymholiadau mewn ffordd sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ddefnyddioldeb ymatebion yr adnodd DA. Gall meistroli’r dechneg hon wella’ch canlyniadau o adnodd DA yn sylweddol. (Am fwy o wybodaeth am bwysigrwydd adeiladu anogwyr effeithiol, gweler ein canllaw DA a’r Llyfrgell yma).
Beth yw anogwr effeithiol?
Mae anogwr DA effeithiol yn gryno, yn strwythuredig, ac yn benodol. Meddyliwch am y peth fel fformiwla, lle mae pob elfen yn chwarae rhan i sicrhau bod yr anogwr yn glir, wedi’i dargedu, ac yn canolbwyntio ar y canlyniad a ddymunir.
Efallai y bydd elfennau’r fformiwla yn edrych rhywbeth fel hyn:
Tasg + Pwnc + Strwythur + Arddull + Lefel
Gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae’r elfennau hyn yn ei olygu a sut y gallem eu cymhwyso i sefyllfa llyfrgell.
Mae’r elfen Tasg o’r fformiwla yn nodi beth yr hoffech i’r adnodd ei wneud. Dyma rai enghreifftiau posibl: Darganfod; Crynhoi; Esbonio; Disgrifio; Cymharu.
Mae’r Pwnc yn diffinio’r pwnc neu’r senario yr ydym ei eisiau i’r Dasg ei ystyried. Dyma rai enghreifftiau posibl: Gwreiddiau’r Ail Ryfel Byd; Rhamantiaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg; Amcanion Seicoleg Gadarnhaol.
Mae’r Strwythur yn nodi’r fformat y dylid cyflwyno’r ymateb. Gallwch ofyn am atebion mewn: Un frawddeg; 200 o eiriau; Rhestr o bwyntiau bwled; Tabl; Graffig neu Siart.
Mae’r Arddull yn nodi sut y dylai’r cynnwys gael ei ysgrifennu. Dyma rai arddulliau posibl: Ffurfiol; Anffurfiol; Academaidd; Ffraeth.
Mae Lefel y manylion yn dangos dyfnder a chwmpas yr wybodaeth sydd ei hangen. Gallai’r lefel hon o fanylder fod yn Drosolwg Sylfaenol neu’n Ddadansoddiad Manwl (neu’n unrhyw beth yn y canol!)
Dyma enghraifft y gallwch ei defnyddio yn y llyfrgell. Rydych chi eisiau dod o hyd i rai adnoddau yn y llyfrgell a fydd yn eich helpu i ateb y cwestiwn canlynol: “Dadansoddwch themâu a nodweddion Rhamantiaeth Saesneg ym marddoniaeth William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge.”
Tasg: Darganfod
Pwnc: Llyfrau sy’n trafod Rhamantiaeth Saesneg a barddoniaeth William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge.
Strwythur: Rhestr o bwyntiau bwled
Arddull: Academaidd
Lefel: Trosolwg rhagarweiniol.
Byddai’r anogwr llawn yn edrych yn debyg i hyn:
Dewch o hyd i rai llyfrau academaidd sy’n rhoi trosolwg rhagarweiniol o Ramantiaeth Saesneg a barddoniaeth William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge a’u dangos mewn rhestr o bwyntiau bwled.
Dyma’r allbwn a ddarparwyd gan y adnodd DA* (Yn yr enghraifft hon, rydym yn defnyddio perplexity.ai, adnodd y byddwn yn ei adolygu yn ein blogbost DA nesaf. Nodyn: Mi wnaethom chwilio yn Saesneg yn yr enghraifft hon, ond mae modd chwilio yn Gymraeg a chael ymateb yn Gymraeg hefyd):
*Rydym bob amser yn argymell gwirio unrhyw allbynnau DA am gywirdeb.
Trwy fynd i’r afael â’r grefft o adeiladu anogwyr, gallwch gyfleu’ch anghenion i’r anodd DA yn fwy effeithiol. Mae hyn yn sicrhau bod yr ymatebion yn berthnasol yn academaidd a’u bod yn diwallu eich anghenion dysgu penodol – gan arbed amser i chi wrth chwilio. Yna gallwch ymweld â Primo, catalog y llyfrgell i weld a oes gan y llyfrgell y teitlau awgrymedig ar gael i chi.
Fel y dangosir yn ein henghraifft, gall anogwr wedi’i strwythuro’n dda eich helpu i ddatgelu adnoddau academaidd gwerthfawr a all eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o bynciau yn gyflym.
Y dyddiau hyn mae’n teimlo fel na all munud basio heb i rywun sôn am Ddeallusrwydd Artiffisial. Mae fel pe bai wedi bod yn rhan o’n bywydau bob dydd erioed! Ond credwch neu beidio, dim ond ers tua 18 mis y mae ChatGPT OpenAI wedi ymddangos a chychwyn y chwyldro DA (neu’r holl chwiw DA, gan ddibynnu ar eich safbwynt!)
Pa bynnag derm sydd orau gennych, ni fydd DA yn diflannu yn fuan, felly yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn ystyried rhai o’r offer DA cynhyrchiol mwyaf poblogaidd. Byddwn yn adolygu rhai o’u nodweddion, yn trafod eu cyfyngiadau, ac yn darparu ychydig o awgrymiadau cyflym ar sut i’w defnyddio’n effeithiol.
Gan mai ChatGPT oedd yr offer DA cynhyrchiol cyntaf i ddal dychymyg pobl, beth am edrych yn agosach ar yr hyn y gall ei wneud, a sut y gallwch chi fanteisio i’r eithaf arno.
Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae ChatGPT (yn yr un modd â nifer o’r offer DA y byddwn yn edrych arnynt yn y gyfres hon) wedi’i gynllunio ar gyfer sgwrsio. Mae ei ryngwyneb syml yn galluogi defnyddwyr i ryngweithio ag offer DA sydd wedi’i hyfforddi ar lawer iawn o ddata. Mae’r hyfforddiant hwn yn caniatáu iddo gynhyrchu ymatebion tebyg i ymatebion pobl i ysgogiadau (gall ysgogiad fod yn gwestiwn, yn ddatganiad, neu’n orchymyn sy’n llywio’r DA i gynhyrchu ymateb.) Am fwy o wybodaeth, ewch i’n Canllaw DA.
Dyma edrych yn agosach ar yr hyn y gall ChatGPT (ac offer DA eraill) ei wneud:
Ateb cwestiynau: Gall ChatGPT ddarparu gwybodaeth ac esboniadau ar amrywiaeth o bynciau, gan ei wneud yn adnodd defnyddiol ar gyfer dysgu.
Cynhyrchu Cynnwys Ysgrifenedig: Mae ChatGPT yn wych ar gyfer goresgyn rhwystrau awdur (writer’s block) ac ar gyfer gwirio eich ysgrifennu o ran gramadeg, sillafu, eglurder, ac arddull.
Crynhoi Gwybodaeth: Gall gymryd testunau hir a’u cyddwyso i grynodebau byrrach, gan eich helpu i amgyffred y prif bwyntiau’n gyflym.
Cyfieithu Ieithoedd: Gall ChatGPT gyfieithu testun o un iaith i’r llall, gan ei gwneud hi’n haws i bobl gyfathrebu a deall ei gilydd.
Cymryd rhan mewn sgyrsiau: Gall yr offer efelychu sgyrsiau, gan ei gwneud hi’n ffordd hwyliog o ymarfer sgiliau iaith, paratoi ar gyfer cyfweliad swydd, neu gael sgwrs gyfeillgar.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall offer DA megis ChatGPT ei wneud, ewch i’n Canllaw DA.
Gall defnyddio ChatGPT fod yn ddefnyddiol (ac yn hwyl!) ond cofiwch fod yna anfanteision i’w ddefnyddio hefyd.
Er enghraifft:
Gwybodaeth gamarweiniol: Gall ChatGPT weithiau ddarparu atebion anghywir, hen neu ragfarnllyd, a allai effeithio ar ansawdd eich gwaith neu eich dealltwriaeth.
Gor-ddibyniaeth ar dechnoleg: Gall dibynnu gormod ar ChatGPT lesteirio meddwl beirniadol a chreadigrwydd, gan y gallai defnyddwyr ddibynnu arno am atebion yn hytrach na datblygu eu syniadau eu hunain.
Risgiau Llên-ladrad: Gall myfyrwyr ddefnyddio DA i gynhyrchu cynnwys nad yw’n eiddo iddynt hwy, gan arwain at broblemau llên-ladrad.
I gael rhagor o wybodaeth am anfanteision defnyddio offer DA megis ChatGPT, ewch i’n Canllaw DA.
Byddwch yn glir ac yn benodol: Pan fyddwch chi’n gofyn cwestiwn i ChatGPT neu’n rhoi tasg iddo, byddwch mor glir a manwl â phosibl. Po fwyaf penodol ydych chi, gorau oll y gall y DA ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch a darparu ymateb perthnasol.
Dechreuwch yn syml: Dechreuwch gyda cheisiadau syml. Os oes gennych gwestiwn neu dasg gymhleth, torrwch hwy i lawr i rannau llai. Mae hyn yn helpu ChatGPT i ganolbwyntio ar un peth ar y tro, gan arwain at atebion gwell.
Defnyddiwch gwestiynau dilynol: Gall ChatGPT gynnal cyd-destun sgwrs felly peidiwch ag oedi cyn gofyn cwestiynau dilynol neu roi manylion ychwanegol ar ôl yr ymateb cychwynnol. Mae hyn yn eich galluogi i fireinio’r sgwrs a chael gwybodaeth fwy cywir neu wedi’i theilwra.
I gael rhagor o wybodaeth am y ddefnyddio ChatGPT yn effeithiol, ewch i’n Canllaw DA.
Ychydig o gafeatau:
Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cymeradwyo unrhyw un o’r offer DA hyn ar hyn o bryd.
Rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar ddefnyddio DA a gyhoeddir gan eich adran (lle bônt ar gael)
Yn ein blog nesaf: byddwn yn edrych ar beirianneg ysgogiadau, a byddwn yn rhannu rhai awgrymiadau gwerthfawr ar sut y gall dylunio ysgogiadau effeithiol wella cywirdeb a pherthnasedd allbynnau DA.
Mae’r tîm o Lyfrgellwyr Pwnc wedi bod yn gweithio’n galed dros yr “haf” (os gallwn ni ei alw’n haf gyda’r holl law!) i ddod â Chanllaw diweddaredig i chi sy’n amlinellu sut y gallwch ddefnyddio DA i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau’r llyfrgell.
Sgrinlun o’r Canllaw DA a’r Llyfrgell newydd
Mae’r Canllaw yn cynnig cyngor ar:
Sut y gallwch ddefnyddio DA.
Rhai o’r offer DA a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Manteision defnyddio DA dros beiriannau chwilio traddodiadol.
Defnydd priodol a moesegol o offer DA.
Adeiladu anogwyr yn effeithiol.
Rhai o’r risgiau posibl o ddefnyddio DA (gan gynnwys materion sy’n ymwneud â thorri hawlfraint, rhagfarn a diogelu data).
Fel cydymaith i’r Canllaw, rydym yn mynd i gynnig cyfres o bostiadau blog a fydd yn edrych ar y cyngor a roddir yn y canllaw yn fanylach ac yn cynnig rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer defnyddio DA.
Dyma gipolwg o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf:
Gwerthuso allbynnau DA trwy gymhwyso’r prawf CCAPP.
Risgiau defnyddio DA.
Gobeithiwn y bydd y Canllaw a’r gyfres o bostiadau blog yn ddefnyddiol. Mae’n bwysig pwysleisio serch hynny ei bod hi’n rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar ddefnyddio DA a gyhoeddir gan eich adran (lle bônt ar gael).