Sgan-tastig! Digideiddio sy’n cyflawni!

Gan fod y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, mae’n gyfle da i ystyried effaith ein gwasanaeth digideiddio – ac mae wedi bod yn flwyddyn i’w chofio!  Gan weithio’n agos gyda’r staff addysgu ac ymateb i’r galw parhaus ymhlith myfyrwyr, mae’r gwasanaeth wedi sicrhau bod deunyddiau darllen allweddol ar gael yn gyson ar draws adrannau.

Y Flwyddyn mewn niferoedd

Mae ein gwasanaeth digideiddio wedi cefnogi addysgu a dysgu ar raddfa fawr:

  • 379 o restrau darllen cyfunol wedi’u prosesu — mae’r rhain yn cynnwys rhestrau a rennir ar draws sawl cwrs (e.e. Cymraeg/Saesneg neu israddedig/uwchraddedig cyfatebol)—sy’n cynrychioli 503 o restrau darllen unigol i gyd.
  • 2,210 detholiad wedi’u rhyddhau i restrau darllen, sy’n cynnwys penodau llyfrau ac erthyglau o gyfnodolion
  • 40,813 tudalen wedi’u digideiddio
  • 12,134 o fyfyrwyr wedi’u cynorthwyo

Mae’r ffigurau hyn yn tynnu sylw at swmp y gwaith, ond hefyd ei gyrhaeddiad: degau o filoedd o dudalennau ar gael i dros ddeuddeg mil o fyfyrwyr, ac wedi’u cynnwys yn uniongyrchol yn rhestrau darllen y modiwlau.

Mae’r un mor galonogol gweld pa mor aml y defnyddir y cynnwys hwn:

  • 26,762 golwg
  • 2,678 o lawrlwythiadau
  • 596 o brintiau

Mae ymwneud ar y lefel hon yn dangos nid yn unig bod deunyddiau darllen wedi’u digideiddio ar gael – ond eu bod yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd ystyrlon i gefnogi astudio, adolygu ac ymchwil.

Gwasanaeth dibynadwy, ymatebol

Mae’r gwasanaeth digideiddio wedi parhau i fod yn ffordd ddibynadwy i fyfyrwyr gael gafael ar eu deunyddiau darllen craidd, gan helpu i wneud deunyddiau allweddol yn hygyrch i bawb.  Ar draws ystod eang o anghenion addysgu, mae’r tîm wedi cyflwyno darnau yn brydlon ac yn unol â gofynion hawlfraint.

Peidiwch â stopio nawr:  Mynediad dros yr haf

Er bod y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, mae’r gwasanaeth digideiddio yn dal i fod wrth law i gynorthwyo eich darllen a’ch ymchwil dros yr haf.  Os ydych chi’n parhau â’ch ymchwil, yn paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu’n dilyn eich chwilfrydedd academaidd, gallwch barhau i ofyn am:

  • Benodau mewn llyfrau
  • Erthyglau mewn cyfnodolion
  • Dyfyniadau traethodau ymchwil

Felly, p’un a ydych chi’n paratoi ymlaen llaw, dal i fyny, neu’n plymio i ganol rhywbeth newydd, rydyn ni yma i’ch helpu i gadw’ch ymennydd yn ystwyth dros fisoedd yr haf. 

Ewch i’n tudalen we i ddarganfod mwy – bydd y staff digideiddio yn ymdrin â’r gwiriadau hawlfraint ac yn cael y sgan i chi: https://www.aber.ac.uk/cy/library/help/digitisation/

Cyflwynwch eich cais a daliwch ati i ddarllen – lle bynnag yr ydych!

Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang

Heddiw (21 Mai) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang.

O fewn Taith y Myfyriwr, mae gennym Dîm Hygyrchedd a Lles sy’n gweithio gyda myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn. Mae’r Tîm yn cynnwys dros 50 o staff cynorthwyol anfeddygol sy’n darparu cymorth mentora neu sgiliau astudio 1:1 i fyfyrwyr ag anabledd neu wahaniaeth dysgu. 

Y llynedd fe wnaethant gefnogi dros 800 o’n myfyrwyr – mae nifer y myfyrwyr y maent yn eu cefnogi wedi cynyddu 34% yn y pum mlynedd diwethaf.

 

Dyma beth mae ein myfyrwyr wedi bod yn ei ddweud am y tîm eleni: 

… hynod o werthfawr, gan ganiatáu i mi… aros yn y brifysgol trwy gydol yr heriau niferus sydd wedi codi yn ystod fy nghwrs. 

… wir wedi gwerthfawrogi … [cael]… cefnogaeth barhaus trwy gydol ein gradd gyfan gan yr un bobl (yn hytrach na staff gwahanol bob blwyddyn). Rwy’n awtistig ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i mi.

[Y gweithiwr cymorth] oedd yr unigolyn pwysicaf yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol… heb y gwasanaethau byddwn yn cael llai o drefn a diddordeb gan eraill, sef y ddwy elfen fwyaf hanfodol yn fy llwyddiant yn y brifysgol.

 

Credwn fod y myfyriwr hwn yn crynhoi’r gwasanaeth yn berffaith: “Anhygoel… Hollol wych… Ffantastig… Rhyfeddol… Amhrisiadwy… o’r radd flaenaf”

Ond nid y staff hyn yn unig sy’n gwneud yn siŵr bod yr hyn a wnawn mor hygyrch â phosibl. Dyma rai o’r pethau y mae ein timau eraill yn eu gwneud.

 

Cynnwys Blackboard

 

Mae Blackboard Ally ar gael i bob myfyriwr a staff yn y brifysgol. Eleni mae 59,541 o ddogfennau wedi’u lawrlwytho mewn fformat amgen gan 3,894 o ddefnyddwyr. Y fformat mwyaf cyffredin yw’r PDF wedi’i dagio.

Mae staff wedi gwneud 3,417 o atgyweiriadau i’r cynnwys – dyna 3,417 o newidiadau sy’n gwneud deunyddiau addysgu yn fwy hygyrch i’w defnyddio.

Sgôr cwrs cyfartalog Ally ar gyfer cyrsiau 2025-26 yn Blackboard yw 72%.

Ym mis Tachwedd 2025, cymerodd PA ran yn Niwrnod Trwsio’ch Cynnwys Blackboard a daethant yn 3ydd yn y DU am nifer yr atgyweiriadau i gynnwys Blackboard a wnaed.

 

Delwedd arddull siart cylch sy'n dangos sgôr Hygyrchedd Cyffredinol Ally fel 72% - cynnydd o 2% ers y flwyddyn flaenorol

 

Llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion

 

Mae’r holl sganiau o benodau o lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion y mae ein gwasanaeth digido yn eu paratoi ar gyfer rhestrau darllen mewn fformat hygyrch. Maent yn defnyddio sganio OCR (Adnabod Nodau Gweledol), sy’n golygu bod sganiau wedi’u huwchlwytho o benodau o lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion mewn rhestrau darllen yn gwbl ddarllenadwy, chwiliadwy a hygyrch. Yn ogystal â chydymffurfio â deddfwriaeth, mae’r sganiau hyn yn hygyrch i bob dysgwr. Mae dogfennau OCR wedi’u sganio yn gydnaws â thechnolegau cynorthwyol megis darllenwyr sgrin, ac mae ganddynt gyfleusterau llywio testun hefyd.

Yn ogystal â sganio eitemau ar gyfer rhestrau darllen, gall y tîm hefyd greu copïau hygyrch ar gyfer llyfrau i fyfyrwyr sydd wedi datgan anabledd i’r brifysgol. Mae gennym drwydded sy’n galluogi i ni wneud neu ddod o hyd i gopïau hygyrch o lyfrau os nad oes fersiwn hygyrch addas ar gael i’w brynu. Os nad yw testun wedi’i gynnwys gan y drwydded ond ein bod yn berchen ar gopi gwreiddiol, efallai y byddwn yn dal i gynhyrchu copi hygyrch ar gyfer astudiaeth bersonol neu ymchwil. 

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr cymwys a gellir ei ddefnyddio drwy e-bostio digideiddio@aber.ac.uk.

 

Eitemau synhwyraidd ar gyfer sesiynau lles

 

Cyflwynodd y staff yn ein Gwasanaeth Lles focsys o eitemau synhwyraidd y gellir eu cynnig i fyfyrwyr mewn sesiynau Lles i’w helpu i reoli’r angen am hunan-ysgogi (stimio). Dyma enghraifft o’r eitemau sydd ar gael:

 

Detholiad o eitemau synhwyraidd mewn lliwiau cynradd.

 

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial

 

Mae ein llyfrgell ysgogiadau DA newydd sydd ar gael i bawb yn cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio DA i ddefnyddwyr sydd â gofynion hygyrchedd. Gallwch weld rhai enghreifftiau o hyn mewn rhai enghreifftiau o’r llyfrgell ysgogiadau

  • Ailysgrifennu mewn Iaith Eglur

“Ailysgrifennwch y testun canlynol mewn iaith eglur, hawdd ei deall gan gadw’r ystyr gwreiddiol. Torrwch frawddegau cymhleth yn gamau byrrach a thynnwch unrhyw jargon diangen. Tynnwch sylw at unrhyw dermau a allai fod angen esboniad o hyd.”

  • Canllaw Cam wrth Gam Niwroamrywiaeth-Gyfeillgar

“Trowch y dasg hon yn ganllaw cam wrth gam sy’n addas ar gyfer dysgwyr niwrowahanol. Cofiwch gynnwys camau byr, clir, delweddau neu drosiadau dewisol, a chrynodeb o bwyntiau allweddol. Osgowch fanylder llethol iawn. Peidiwch ag ychwanegu cynnwys nad yw’n gysylltiedig â’r dasg.”

 

Dod o hyd i’ch ffordd o amgylch y llyfrgell.

 

Mae AccessAble yn adnodd gwych sy’n helpu i hwyluso’r broses o gynllunio ar gyfer, a llywio’r Campws yma yn Aberystwyth. Mae’n darparu gwybodaeth i bobl am bethau megis lle parcio hygyrch, mynediad ramp, ble mae’r dolenni clyw a ble y gallant ddod o hyd i doiledau hygyrch. Gall hyn fod yn wirioneddol galonogol i bobl wrth iddynt gynllunio i fynychu rhywle sy’n newydd a/neu’n anghyfarwydd.

 

Mae hi’n Ddiwrnod Shwmae Su’mae!

Cael hwyl wrth siarad Cymraeg yw prif thema Diwrnod Shwmae Su’mae eleni.

Tra rydych chi yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, beth am fanteisio ar y nifer o gyfleoedd ac adnoddau arbennig sydd ar gael ar gyfer dysgu neu loywi eich Cymraeg?

Mae cyrsiau Cymraeg a ddarperir gan Dysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://www.aber.ac.uk/cy/learn-welsh/

I gefnogi eich dysgu, mae gan y llyfrgell filoedd lawer o adnoddau Cymraeg ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn ein Casgliad Celtaidd. Dyma ychydig o’r hyn sydd ar gael ar silffoedd y llyfrgell.

O ffuglen gyfoes a chlasurol, barddoniaeth, i adnoddau am iaith, diwylliant a hanes Cymru – dewch o hyd i’r Casgliad Celtaidd cyfan ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen. A chwiliwch Primo, catalog y llyfrgell i ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch.

Mae gennym hefyd lawer o staff sy’n siarad Cymraeg neu sy’n dysgu. Gallwch eu hadnabod gan eu laniardiau oren. Felly rhowch gynnig ar eich Cymraeg heddiw!

Dathlwyd y Diwrnod Shwmae Su’mae cyntaf ar 15 Hydref, 2013 i hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg! Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr a’r rhai sy’n swil eu Cymraeg.

Edrych yn ôl a symud ymlaen: Adolygu Blwyddyn Gwasanaethau Llyfrgell

Gan gyflwyno ein Cynllun Gweithredu’r Llyfrgell 2024 – 2025

Wrth i flwyddyn academaidd arall ddod i ben, rydym yn gyffrous i rannu rhai o gyflawniadau a datblygiadau allweddol eich Gwasanaethau Llyfrgell yn 2024–25.

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i’r llyfrgell wrth i’n defnyddwyr barhau i fenthyg miloedd o lyfrau ac e-lyfrau, cyrchu miloedd o erthyglau cyfnodolion, a defnyddio ein hystod ehangach o adnoddau digidol a mannau llyfrgell. Mae rhestrau darllen yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’ch gwaith academaidd ac mae ein staff yn gweithio i wneud yn siŵr bod y llyfrau, yr erthyglau a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch fwyaf ar flaenau eich bysedd bob amser. Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor arbenigol i’r holl staff a myfyrwyr ac mae ein tîm Darganfod Adnoddau yn helpu i hwyluso a lledaenu ymchwil o’r radd flaenaf y Brifysgol.

Porwch ein Cynlluniau Gweithredu’r Llyfrgell i ddarganfod sut mae Gwasanaethau Llyfrgell wedi cefnogi eich addysgu, eich dysgu a’ch ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth dros y flwyddyn ddiwethaf.