Diwrnod Shwmae Su’mae – 15 Hydref

I ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae eleni, rydym yn rhannu blog gan ein blogiwr gwadd, Pencampwr Digidol Myfyrwyr, Laurie Stevenson, ac yn cael cip sydyn ar rai adnoddau llyfrgell i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad Cymraeg.

Laurie Stevenson

Dw i’n dysgu Cymraeg!

Ar y 15fed o Hydref bydd hi’n Ddiwrnod Shwmae Su’mae, sy’n ddiwrnod o ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg. Felly roedd arna i eisiau manteisio ar y cyfle hwn fel un o Bencampwyr Digidol y Myfyrwyr i ddefnyddio’r blog i rannu fy mhrofiadau fy hun fel dysgwr Cymraeg.

Pam y gwnes i benderfynu cael gwersi Cymraeg?

Fe wnes i syrthio mewn cariad â Chymru o fewn dim imi symud yma ac roeddwn i’n gwybod ers cychwyn cyntaf fy nghwrs gradd bod arna i eisiau dysgu mwy am ddiwylliant Cymru a dysgu’r iaith fel ffordd o barchu’r diwylliant a theimlo fy mod i’n perthyn yma. Rwy’n mwynhau heriau deallusol ond wnes i erioed weld diben dysgu ieithoedd fel Ffrangeg neu Sbaeneg os nad oeddwn i am allu eu defnyddio mewn bywyd go iawn. Trwy gydol fy nyddiau ysgol, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd teimlo unrhyw fath o frwdfrydedd tuag at ddysgu ieithoedd fel yna. Ond pan gefais gyfle i ddysgu Cymraeg roeddwn i’n hynod o awyddus. Rydw i wrth fy modd yn gallu cynnal sgyrsiau syml ar y bws neu mewn siop neu gaffi ac rydw i wir yn mwynhau’r wên sy’n dod i wynebau pobl pan maen nhw’n sylweddoli fy mod i’n dysgu’r iaith.

Sut y gwnes i fynd ati i ddysgu Cymraeg?

Fe wnes i ofyn am wersi Cymraeg yn fy mlwyddyn gyntaf ond oherwydd Covid doedden nhw ddim yn cael eu cynnal. Ond pan es i i Ffair y Glas yn fy ail flwyddyn siaradais gyda rhywun ar stondin UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – a rhoi fy enw i lawr. Mae’r gwersi’n cael eu darparu gan dysgucymraeg.cymru ac fe ddechreuais i gyda’u cwrs blasu, gyda sesiynau awr o hyd bob wythnos. Eleni rydw i wedi symud ymlaen i’r cwrs lefel mynediad, sydd yn cael ei achredu, ac mae hwnnw’n ddwyawr yr wythnos. Rydw i hefyd yn defnyddio Duolingo i gyd-fynd â’r gwersi ac mae hynny’n help er mwyn cofio gwybodaeth rhwng y gwersi.

Pa adnoddau defnyddiol ydw i wedi dod o hyd iddynt ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Drwy UMCA y gwnes i ddod o hyd i’r cyrsiau, ac maen nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau Cymraeg eu hiaith a digwyddiadau diwylliannol, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd ac ymarfer eu Cymraeg gyda siaradwyr Cymraeg. Mae dolenni i’r cyrsiau ar gael ar wefan y Brifysgol hefyd, a dolenni i adnoddau ar-lein i’ch helpu wrth ichi ddysgu. Mae gan y llyfrgell adnoddau gwych hefyd, gan gynnwys llyfrau, geiriaduron a llyfrau o ymadroddion er mwyn dysgu’r iaith.

Laurie Stevenson

Dysgwch ragor am Laurie a gwaith y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr ar y Blog Galluoedd Digidol

Adnoddau Llyfrgell

Os ydych wedi cychwyn ar eich taith i ddysgu Cymraeg, yn meddwl am fentro, neu os ydych yn siaradwr Cymraeg ac am roi sglein ar eich sgiliau, mae gan y llyfrgell ystod eang o adnoddau defnyddiol.

Ewch i’r Casgliad Celtaidd ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen ac mi ddewch o hyd i filoedd o lyfrau i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad – o nofelau gyda geirfa, i lyfrau gramadeg, i gyrsiau iaith cyflawn.

A chofiwch ddweud su’mae wrth staff y Llyfrgell!

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*