Gall DA fod yn adnodd gwerthfawr i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn y llyfrgell. Trwy ddefnyddio arddull sgyrsiol adnoddau megis ChatGPT, gallwch gydweithio â’r DA i fireinio chwiliadau, cael argymhellion personol, a darganfod adnoddau perthnasol sy’n diwallu eich anghenion academaidd penodol yn gyflym.
Er mwyn cael y canlyniadau gorau gan DA, mae’n bwysig gofyn y cwestiynau cywir, ac mae hyn yn sgìl ynddo’i hun.
Mae’r sgìl hwn, a elwir yn adeiladu anogwr neu beirianneg anogwr, yn cynnwys strwythuro’ch ymholiadau mewn ffordd sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ddefnyddioldeb ymatebion yr adnodd DA. Gall meistroli’r dechneg hon wella’ch canlyniadau o adnodd DA yn sylweddol. (Am fwy o wybodaeth am bwysigrwydd adeiladu anogwyr effeithiol, gweler ein canllaw DA a’r Llyfrgell yma).
Beth yw anogwr effeithiol?
Mae anogwr DA effeithiol yn gryno, yn strwythuredig, ac yn benodol. Meddyliwch am y peth fel fformiwla, lle mae pob elfen yn chwarae rhan i sicrhau bod yr anogwr yn glir, wedi’i dargedu, ac yn canolbwyntio ar y canlyniad a ddymunir.
Efallai y bydd elfennau’r fformiwla yn edrych rhywbeth fel hyn:
Gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae’r elfennau hyn yn ei olygu a sut y gallem eu cymhwyso i sefyllfa llyfrgell.
Mae’r elfen Tasg o’r fformiwla yn nodi beth yr hoffech i’r adnodd ei wneud. Dyma rai enghreifftiau posibl: Darganfod; Crynhoi; Esbonio; Disgrifio; Cymharu.
Mae’r Pwnc yn diffinio’r pwnc neu’r senario yr ydym ei eisiau i’r Dasg ei ystyried. Dyma rai enghreifftiau posibl: Gwreiddiau’r Ail Ryfel Byd; Rhamantiaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg; Amcanion Seicoleg Gadarnhaol.
Mae’r Strwythur yn nodi’r fformat y dylid cyflwyno’r ymateb. Gallwch ofyn am atebion mewn: Un frawddeg; 200 o eiriau; Rhestr o bwyntiau bwled; Tabl; Graffig neu Siart.
Mae’r Arddull yn nodi sut y dylai’r cynnwys gael ei ysgrifennu. Dyma rai arddulliau posibl: Ffurfiol; Anffurfiol; Academaidd; Ffraeth.
Mae Lefel y manylion yn dangos dyfnder a chwmpas yr wybodaeth sydd ei hangen. Gallai’r lefel hon o fanylder fod yn Drosolwg Sylfaenol neu’n Ddadansoddiad Manwl (neu’n unrhyw beth yn y canol!)
Dyma enghraifft y gallwch ei defnyddio yn y llyfrgell. Rydych chi eisiau dod o hyd i rai adnoddau yn y llyfrgell a fydd yn eich helpu i ateb y cwestiwn canlynol: “Dadansoddwch themâu a nodweddion Rhamantiaeth Saesneg ym marddoniaeth William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge.”
- Tasg: Darganfod
- Pwnc: Llyfrau sy’n trafod Rhamantiaeth Saesneg a barddoniaeth William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge.
- Strwythur: Rhestr o bwyntiau bwled
- Arddull: Academaidd
- Lefel: Trosolwg rhagarweiniol.
Byddai’r anogwr llawn yn edrych yn debyg i hyn:
Dewch o hyd i rai llyfrau academaidd sy’n rhoi trosolwg rhagarweiniol o Ramantiaeth Saesneg a barddoniaeth William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge a’u dangos mewn rhestr o bwyntiau bwled.
Dyma’r allbwn a ddarparwyd gan y adnodd DA* (Yn yr enghraifft hon, rydym yn defnyddio perplexity.ai, adnodd y byddwn yn ei adolygu yn ein blogbost DA nesaf. Nodyn: Mi wnaethom chwilio yn Saesneg yn yr enghraifft hon, ond mae modd chwilio yn Gymraeg a chael ymateb yn Gymraeg hefyd):
*Rydym bob amser yn argymell gwirio unrhyw allbynnau DA am gywirdeb.
Trwy fynd i’r afael â’r grefft o adeiladu anogwyr, gallwch gyfleu’ch anghenion i’r anodd DA yn fwy effeithiol. Mae hyn yn sicrhau bod yr ymatebion yn berthnasol yn academaidd a’u bod yn diwallu eich anghenion dysgu penodol – gan arbed amser i chi wrth chwilio. Yna gallwch ymweld â Primo, catalog y llyfrgell i weld a oes gan y llyfrgell y teitlau awgrymedig ar gael i chi.
Fel y dangosir yn ein henghraifft, gall anogwr wedi’i strwythuro’n dda eich helpu i ddatgelu adnoddau academaidd gwerthfawr a all eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o bynciau yn gyflym.