Defnyddioldeb generaduron cyfeirnodi… a gair o rybudd

Mae generaduron cyfeirnodi fel MyBib a Scribbr wedi dod yn offerynnau poblogaidd i fyfyrwyr sy’n ceisio dod i ben â chymhlethdodau ysgrifennu academaidd. Mae’r offerynnau’n symleiddio’r broses o fformatio dyfyniadau a llyfryddiaeth, sy’n golygu bod modd arbed rhywfaint o amser gwerthfawr! Fodd bynnag, er eu bod yn bwynt cychwyn da i gynhyrchu cyfeirnod yn gyflym, mae’n bwysig eich bod yn eu defnyddio’n gyfrifol ac yn ofalus.

Cryfderau MyBib a Scribbr

  1. Hawdd i’w Defnyddio: Mae MyBib a Scribbr yn hawdd i’w defnyddio, ac yn cynnig rhyngwynebau greddfol sy’n gadael i chi roi manylion yr adnoddau i mewn yn gyflym a chynhyrchu dyfyniadau mewn arddulliau cyfeirnodi fel APA, MLA, Harvard a llawer mwy.
  2. Nodweddion allweddol:
    • Creu cyfeirnodau ar gyfer amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys llyfrau, e-lyfrau, erthyglau cyfnodolion, gwefannau a mwy!
    • Mae MyBib yn integreiddio’n esmwyth â phlatfformau fel Word, gan sicrhau llif gwaith llyfn wrth ddrafftio dogfennau.
    • Mae Scribbr yn cynnig nodweddion fel cadw copïau wrth gefn yn ddiogel ac anodiadau i wella trefnusrwydd a diogelu eich gwaith.
  3. Ar gael am ddim: Mae’r ddau offeryn ar gael i’w defnyddio yn rhad ac am ddim, sy’n golygu eu bod ar gael i fyfyrwyr ar draws gwahanol lefelau academaidd. Gallwch eu defnyddio heb gyfrif neu gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif am ddim i ddatgloi mwy o nodweddion.

Cyfyngiadau i’w hystyried

Er bod yr offerynnau’n ddefnyddiol, nid ydynt yn berffaith. Dylech fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau canlynol:

  1. Problemau Cywirdeb:
    • Gall generaduron dyfyniadau weithiau gamddehongli ffynonellau anghyffredin neu gymhleth, gan arwain at wallau fformatio.
    • Gall offer awtomataidd gael trafferth gyda chyfeirnodau ansafonol fel setiau data neu destunau iaith dramor.
    • Camgymeriadau cyffredin gan yr offer hwn yw priflythrennu, atalnodi, bylchau, fformatio a hyd yn oed gwybodaeth neu leoli anghywir.
  2. Risgiau Gor-ddibyniaeth:
    • Gall ymddiried yn yr offer yn ddall heb sicrhau bod yr allbwn yn gywir arwain at ddyfyniadau anghywir sy’n peryglu arfer academaidd da. Peidiwch â chopïo a gludo’r cyfeiriad yn uniongyrchol i’ch aseiniad o MyBib neu Scribbr heb wirio (a gwirio eto!) ei fod yn gywir.
    • Gall camgymeriadau mewn dyfyniadau arwain at raddau is a/neu hyd yn oed gyhuddiadau o lên-ladrad.

Arferion Gorau ar gyfer Defnydd Cyfrifol

Er mwyn defnyddio generaduron dyfyniadau yn effeithiol a lleihau peryglon, dylech ddilyn y canllawiau hyn:

  1. Gwirio Pob Dyfyniad: Cofiwch bob amser bod rhaid gwirio’r cyfeirnodau a gynhyrchir yn erbyn canllawiau arddull swyddogol a’ch canllawiau adrannol i sicrhau cywirdeb ac i sicrhau na fyddwch chi’n colli marciau am eich cyfeirnodi.
    • Sicrhewch eich bod yn dilyn arddull cyfeirnodi eich adran – gweler llawlyfr yr adran a’r modiwl.
    • Gwiriwch y cyfeirnod a gynhyrchir yn erbyn yr enghreifftiau a roddir yn Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad LibGuide. Mae Tab 8 y LibGuide yn cynnwys enghreifftiau o ddulliau cyfeirnodi adrannol – dewch o hyd i’ch adran a gwnewch yn siŵr bod y cyfeirnod ar gyfer y ffynhonnell a ddefnyddir (e.e. llyfr, e-lyfr, erthygl, gwefan ac ati) wedi’i ysgrifennu yn y fformat a’r drefn gywir.
    • Gofynnwch am arweiniad gan eich  Llyfrgellydd Pwnc. Maent yn cynnig ymgynghoriadau unigol ac yn arbenigwyr yn yr arddulliau cyfeirnodi penodol a ddefnyddir yn eich meysydd astudio.
  2. Deall rheolau cyfeirnodi: Ymgyfarwyddwch ag egwyddorion cyfeirnodi academaidd er mwyn sylwi ar wallau a gwneud y cywiriadau angenrheidiol – mae’r generaduron cyfeirnodi yn ddefnyddiol, ond nid ydynt yn disodli sgiliau a phwysigrwydd gwybod sut i gyfeirnodi’n gywir.
  3. Defnyddio fel Man Cychwyn: Dylid edrych ar offer fel MyBib a Scribbr fel cymhorthion cychwynnol yn hytrach nag atebion cyflawn. Maent yn symleiddio’r broses ond nid ydynt yn disodli meddwl beirniadol na sylw i fanylion.
  4. Croeswirio Ffynonellau: Ar gyfer ffynonellau cymhleth neu anghyffredin, cyfeiriwch at adnoddau ychwanegol neu gofynnwch am arweiniad gan eich Llyfrgellydd Pwnc.
  5. Osgoi Gor-ddibyniaeth: Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gydbwysedd da rhwng awtomatiaeth yr offer yma a’ch ymdrech chi eich hun – mae’n bwysig bod eich gwaith academaidd dan eich rheolaeth chi a’ch bod yn dysgu’r sgil o gyfeirnodi eich hun.

Ydy, mae MyBib a Scribbr yn offerynnau gwerthfawr ar gyfer symleiddio rheoli dyfyniadau ar gyfer ysgrifennu academaidd. Mae’r ffaith eu bod yn rhwydd i’w defnyddio ac yn hygyrch yn eu gwneud yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer gweithio ar aseiniadau. Fodd bynnag, gair neu ddau o rybudd. Nid ydynt yn ddi-wall, yn ddi-feth nac yn gwbl ddibynadwy – mae’n hanfodol eich bod yn gwirio ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn sicr bod yr hyn sy’n cael ei gynhyrchu yn gywir. Ni ddylid defnyddio’r offer yma yn lle dealltwriaeth gynhwysfawr o reolau arddull dyfynnu a chyfeirnodi. Mae defnydd cyfrifol o’r offer yn sicrhau ein bod yn cynnal arferion academaidd da wrth elwa ar eu cyfleustra.

Datglowch bŵer Gwybodaeth Gofal Iechyd gyda Chronfeydd Data’r Llyfrgell!

Gall ceisio dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y byd gofal iechyd deimlo’n hynod llethol. Mae’r teimlad nad oes gennych ddigon o amser wrth i chi gydbwyso ymrwymiadau personol, darlithoedd, a lleoliadau clinigol yn gallu bod yn heriol dros ben. Felly, wrth ymchwilio ar gyfer aseiniadau neu i ddeall cyflyrau cymhleth, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau.

Yn hytrach na threulio amser yn gwneud chwiliadau diddiwedd ar-lein a all eich arwain at wefannau o ansawdd amheus a gwybodaeth nad yw’n gyfredol mwyach, mae eich llyfrgell yn buddsoddi mewn cronfeydd data gofal iechyd safonol fel CINAHL, MEDLINE, Cronfa Ddata Nyrsio Prydain (a llawer mwy!) am reswm – maent yn drysorfa o ymchwil credadwy, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd fel chi.

Mae ein tudalen ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ yn rhan o brif adnodd chwilio’r llyfrgell a gellir ei gweld ar frig Primo, felly nid oes angen ichi gofio unrhyw gyfeiriadau gwe ar wahân.

Mae’r adnodd i Chwilio am Gronfeydd Data wedi’i rannu’n bynciau gwahanol felly gallwch bori drwy’r adnoddau sy’n berthnasol i’ch cwrs chi. Neu gallwch chwilio yn ôl termau allweddol a chywain canlyniadau o’r casgliad cyfan.

Ymgyfarwyddwch â’r cronfeydd data hyn i gael:

  • Tystiolaeth ddibynadwy a chyfredol: Mae’r cronfeydd data hyn yn curadu gwybodaeth o gyfnodolion cydnabyddedig.
  • Gwybodaeth wedi’i Thargedu: Defnyddiwch allweddeiriau a hidlwyr penodol i ganfod erthyglau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’ch pwnc, boed trin clwyfau, nyrsio iechyd meddwl, neu diabetes.
  • Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ar Flaenau eich Bysedd: Mae’r cronfeydd data hyn yn helpu i ddarparu’r sylfaen ar gyfer deall y “pam” y tu ôl i’r arfer, gan helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl ar sail ymchwil gadarn.
  • Llwyddiant Academaidd: Bydd defnyddio ffynonellau credadwy o’r cronfeydd data hyn yn cryfhau eich dadleuon, yn dangos meddwl beirniadol, ac yn arwain at farciau gwell yn y pen draw.
  • Ehangu eich Gwybodaeth: Ehangwch eich dealltwriaeth o bynciau gofal iechyd i fod yn barod am yrfa yn y maes.

Dim syniad ble i ddechrau? 

  1. Mewngofnodwch i Primo – catalog y llyfrgell.
  2. Defnyddiwch ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ i ddod o hyd i’ch cronfa ddata – dilynwch unrhyw nodiadau oddi ar y campws os oes angen.
  3. Am ragor o wybodaeth a chymorth, gweler eich LibGuide neu cysylltwch â’ch llyfrgellydd.

Pob hwyl wrth ymchwilio!

Ffuglen wedi’i Chyfieithu

Mae llenyddiaeth wedi’i chyfieithu yn ffordd wych o gael cipolwg ar ddiwylliannau eraill. Yn gyffredinol, mae gweithiau wedi’u cyfieithu yn cael eu rhoi ar y silffoedd gyda gweithiau yn yr iaith wreiddiol, felly os ydych chi’n awyddus i ehangu eich gorwelion darllen, peidiwch â bod ofn edrych ar adrannau mewn ieithoedd nad ydych chi’n eu siarad (eto!).

Mae nofelau Cymraeg cyfoes hefyd yn dod o hyd i gynulleidfa ryngwladol. Yn ddiweddar, mae nofel Manon Steffan Ros, Llyfr Glas Nebo wedi’i chyfieithu i Bwyleg, Catalaneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Arabeg, Fietnameg, Tyrceg a Chorëeg gyda chyfieithiadau i ddwsin o ieithoedd eraill yn cael eu paratoi. Gallwch ddod o hyd i gyfieithiad Saesneg yr awdur ei hun o Llyfr Glas Nebo (The Blue Book of Nebo) ar y silffoedd gyda’r gwreiddiol yn y Casgliad Celtaidd.

Mae’r Casgliad Celtaidd yn gynhenid ryngwladol ei natur, ac mae’n cynnwys deunyddiau ynglŷn ag ieithoedd Cymru, Iwerddon, yr Alban, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw a deunyddiau yn yr ieithoedd hynny. Agwedd arbennig o ddiddorol am y casgliad yw cyfieithiadau o weithiau mewn ieithoedd eraill i’r Gymraeg. Yn y casgliad gallwch ddod o hyd i weithiau gan Albert Camus (Y Dieithryn = L’Étranger), Jean-Paul Sartre (Caeëdig ddôr = Huis clos) Franz Kafka (Metamorffosis) ymhlith llawer mwy. Hefyd, yn Llyfrgell Hugh Owen, mae Asterix y Gâl yn siarad Cymraeg a Gwyddeleg a Tintin yn siarad Llydaweg.

Mae llyfrgell prifysgol bob amser yn ddrych o’r hyn sy’n cael ei addysgu a’i ymchwilio yn y sefydliad hwnnw. Yn ogystal â’r wyth iaith sy’n cael eu haddysgu rhwng yr adrannau Ieithoedd Modern a’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, fe welwch hefyd gyfieithiadau o lenyddiaeth o lawer o ieithoedd eraill yr ymchwilir iddynt ar hyn o bryd neu yr ymchwiliwyd iddynt o’r blaen yn y brifysgol.

Dyma ddetholiad o’n ffefrynnau:

Galwch heibio i Lyfrgell Hugh Owen i weld ein harddangosfa o lenyddiaeth wedi’i chyfieithu ar Lefel F y mis hwn.

A chwiliwch Primo, catalog y llyfrgell, i archwilio casgliadau’r llyfrgell