Ffuglen wedi’i Chyfieithu

Mae llenyddiaeth wedi’i chyfieithu yn ffordd wych o gael cipolwg ar ddiwylliannau eraill. Yn gyffredinol, mae gweithiau wedi’u cyfieithu yn cael eu rhoi ar y silffoedd gyda gweithiau yn yr iaith wreiddiol, felly os ydych chi’n awyddus i ehangu eich gorwelion darllen, peidiwch â bod ofn edrych ar adrannau mewn ieithoedd nad ydych chi’n eu siarad (eto!).

Mae nofelau Cymraeg cyfoes hefyd yn dod o hyd i gynulleidfa ryngwladol. Yn ddiweddar, mae nofel Manon Steffan Ros, Llyfr Glas Nebo wedi’i chyfieithu i Bwyleg, Catalaneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Arabeg, Fietnameg, Tyrceg a Chorëeg gyda chyfieithiadau i ddwsin o ieithoedd eraill yn cael eu paratoi. Gallwch ddod o hyd i gyfieithiad Saesneg yr awdur ei hun o Llyfr Glas Nebo (The Blue Book of Nebo) ar y silffoedd gyda’r gwreiddiol yn y Casgliad Celtaidd.

Mae’r Casgliad Celtaidd yn gynhenid ryngwladol ei natur, ac mae’n cynnwys deunyddiau ynglŷn ag ieithoedd Cymru, Iwerddon, yr Alban, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw a deunyddiau yn yr ieithoedd hynny. Agwedd arbennig o ddiddorol am y casgliad yw cyfieithiadau o weithiau mewn ieithoedd eraill i’r Gymraeg. Yn y casgliad gallwch ddod o hyd i weithiau gan Albert Camus (Y Dieithryn = L’Étranger), Jean-Paul Sartre (Caeëdig ddôr = Huis clos) Franz Kafka (Metamorffosis) ymhlith llawer mwy. Hefyd, yn Llyfrgell Hugh Owen, mae Asterix y Gâl yn siarad Cymraeg a Gwyddeleg a Tintin yn siarad Llydaweg.

Mae llyfrgell prifysgol bob amser yn ddrych o’r hyn sy’n cael ei addysgu a’i ymchwilio yn y sefydliad hwnnw. Yn ogystal â’r wyth iaith sy’n cael eu haddysgu rhwng yr adrannau Ieithoedd Modern a’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, fe welwch hefyd gyfieithiadau o lenyddiaeth o lawer o ieithoedd eraill yr ymchwilir iddynt ar hyn o bryd neu yr ymchwiliwyd iddynt o’r blaen yn y brifysgol.

Dyma ddetholiad o’n ffefrynnau:

Galwch heibio i Lyfrgell Hugh Owen i weld ein harddangosfa o lenyddiaeth wedi’i chyfieithu ar Lefel F y mis hwn.

A chwiliwch Primo, catalog y llyfrgell, i archwilio casgliadau’r llyfrgell