Datglowch bŵer Gwybodaeth Gofal Iechyd gyda Chronfeydd Data’r Llyfrgell!

Gall ceisio dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y byd gofal iechyd deimlo’n hynod llethol. Mae’r teimlad nad oes gennych ddigon o amser wrth i chi gydbwyso ymrwymiadau personol, darlithoedd, a lleoliadau clinigol yn gallu bod yn heriol dros ben. Felly, wrth ymchwilio ar gyfer aseiniadau neu i ddeall cyflyrau cymhleth, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau.

Yn hytrach na threulio amser yn gwneud chwiliadau diddiwedd ar-lein a all eich arwain at wefannau o ansawdd amheus a gwybodaeth nad yw’n gyfredol mwyach, mae eich llyfrgell yn buddsoddi mewn cronfeydd data gofal iechyd safonol fel CINAHL, MEDLINE, Cronfa Ddata Nyrsio Prydain (a llawer mwy!) am reswm – maent yn drysorfa o ymchwil credadwy, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd fel chi.

Mae ein tudalen ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ yn rhan o brif adnodd chwilio’r llyfrgell a gellir ei gweld ar frig Primo, felly nid oes angen ichi gofio unrhyw gyfeiriadau gwe ar wahân.

Mae’r adnodd i Chwilio am Gronfeydd Data wedi’i rannu’n bynciau gwahanol felly gallwch bori drwy’r adnoddau sy’n berthnasol i’ch cwrs chi. Neu gallwch chwilio yn ôl termau allweddol a chywain canlyniadau o’r casgliad cyfan.

Ymgyfarwyddwch â’r cronfeydd data hyn i gael:

  • Tystiolaeth ddibynadwy a chyfredol: Mae’r cronfeydd data hyn yn curadu gwybodaeth o gyfnodolion cydnabyddedig.
  • Gwybodaeth wedi’i Thargedu: Defnyddiwch allweddeiriau a hidlwyr penodol i ganfod erthyglau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’ch pwnc, boed trin clwyfau, nyrsio iechyd meddwl, neu diabetes.
  • Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ar Flaenau eich Bysedd: Mae’r cronfeydd data hyn yn helpu i ddarparu’r sylfaen ar gyfer deall y “pam” y tu ôl i’r arfer, gan helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl ar sail ymchwil gadarn.
  • Llwyddiant Academaidd: Bydd defnyddio ffynonellau credadwy o’r cronfeydd data hyn yn cryfhau eich dadleuon, yn dangos meddwl beirniadol, ac yn arwain at farciau gwell yn y pen draw.
  • Ehangu eich Gwybodaeth: Ehangwch eich dealltwriaeth o bynciau gofal iechyd i fod yn barod am yrfa yn y maes.

Dim syniad ble i ddechrau? 

  1. Mewngofnodwch i Primo – catalog y llyfrgell.
  2. Defnyddiwch ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ i ddod o hyd i’ch cronfa ddata – dilynwch unrhyw nodiadau oddi ar y campws os oes angen.
  3. Am ragor o wybodaeth a chymorth, gweler eich LibGuide neu cysylltwch â’ch llyfrgellydd.

Pob hwyl wrth ymchwilio!

Ffuglen wedi’i Chyfieithu

Mae llenyddiaeth wedi’i chyfieithu yn ffordd wych o gael cipolwg ar ddiwylliannau eraill. Yn gyffredinol, mae gweithiau wedi’u cyfieithu yn cael eu rhoi ar y silffoedd gyda gweithiau yn yr iaith wreiddiol, felly os ydych chi’n awyddus i ehangu eich gorwelion darllen, peidiwch â bod ofn edrych ar adrannau mewn ieithoedd nad ydych chi’n eu siarad (eto!).

Mae nofelau Cymraeg cyfoes hefyd yn dod o hyd i gynulleidfa ryngwladol. Yn ddiweddar, mae nofel Manon Steffan Ros, Llyfr Glas Nebo wedi’i chyfieithu i Bwyleg, Catalaneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Arabeg, Fietnameg, Tyrceg a Chorëeg gyda chyfieithiadau i ddwsin o ieithoedd eraill yn cael eu paratoi. Gallwch ddod o hyd i gyfieithiad Saesneg yr awdur ei hun o Llyfr Glas Nebo (The Blue Book of Nebo) ar y silffoedd gyda’r gwreiddiol yn y Casgliad Celtaidd.

Mae’r Casgliad Celtaidd yn gynhenid ryngwladol ei natur, ac mae’n cynnwys deunyddiau ynglŷn ag ieithoedd Cymru, Iwerddon, yr Alban, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw a deunyddiau yn yr ieithoedd hynny. Agwedd arbennig o ddiddorol am y casgliad yw cyfieithiadau o weithiau mewn ieithoedd eraill i’r Gymraeg. Yn y casgliad gallwch ddod o hyd i weithiau gan Albert Camus (Y Dieithryn = L’Étranger), Jean-Paul Sartre (Caeëdig ddôr = Huis clos) Franz Kafka (Metamorffosis) ymhlith llawer mwy. Hefyd, yn Llyfrgell Hugh Owen, mae Asterix y Gâl yn siarad Cymraeg a Gwyddeleg a Tintin yn siarad Llydaweg.

Mae llyfrgell prifysgol bob amser yn ddrych o’r hyn sy’n cael ei addysgu a’i ymchwilio yn y sefydliad hwnnw. Yn ogystal â’r wyth iaith sy’n cael eu haddysgu rhwng yr adrannau Ieithoedd Modern a’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, fe welwch hefyd gyfieithiadau o lenyddiaeth o lawer o ieithoedd eraill yr ymchwilir iddynt ar hyn o bryd neu yr ymchwiliwyd iddynt o’r blaen yn y brifysgol.

Dyma ddetholiad o’n ffefrynnau:

Galwch heibio i Lyfrgell Hugh Owen i weld ein harddangosfa o lenyddiaeth wedi’i chyfieithu ar Lefel F y mis hwn.

A chwiliwch Primo, catalog y llyfrgell, i archwilio casgliadau’r llyfrgell

DA a’r Llyfrgell. Wythnos 7: Moeseg Defnyddio DA Cynhyrchiol (Rhan Dau)

Bod yn dryloyw ynghylch eich defnydd o DA

Cyn i ni ddechrau arni’n iawn, gadewch imi ailadrodd ei bod hi’n rhaid i chi bob amser ddilyn unrhyw ganllawiau prifysgol ac adrannol ar ddefnyddio offer DA mewn gwaith a asesir.

Yn ein neges ddiwethaf ar foeseg defnyddio DA cynhyrchiol, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar bwysigrwydd deall y cyfrifoldebau sy’n dod gyda defnyddio’r offer hyn. Y neges allweddol yn y postiad hwnnw oedd yr angen i ymgyfarwyddo â chanllawiau Prifysgol Aberystwyth ar ddefnydd DA.

Yr wythnos hon, rydym yn trafod pwnc pwysig arall: bod yn dryloyw ynghylch eich defnydd o offer DA mewn gwaith a asesir.

Wrth i DA cynhyrchiol ddod ar gael yn ehangach, mae prifysgolion yn pwysleisio pwysigrwydd uniondeb academaidd a datgeliad clir wrth ddefnyddio’r technolegau hyn.

Gall defnyddio DA fod yn gymorth gwerthfawr wrth ymchwilio, trafod syniadau a drafftio, ond mae’n hanfodol bod yn dryloyw ynglŷn â sut a ble rydych chi wedi’i ddefnyddio.

Mae bod yn agored am eich defnydd o offer DA yn hanfodol ar gyfer cynnal uniondeb academaidd. Mae tryloywder yn dangos eich ymrwymiad i onestrwydd ac arferion astudio moesegol.

Pwyntiau allweddol: Pam mae tryloywder yn bwysig:

  • Mae’n dangos eich gonestrwydd academaidd.
  • Mae’n adlewyrchu eich ymrwymiad i arferion astudio moesegol.
  • Mae’n tynnu sylw at eich sgiliau meddwl beirniadol.
  • Mae’n atgyfnerthu eich atebolrwydd proffesiynol.

Sut i gydnabod defnydd o DA:

Gofynnwch i’ch adrannau academaidd a chydlynwyr y modiwlau am gyngor ynghylch sut y dylech gydnabod cynnyrch DA. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Datganiadau ar y defnydd o offer DA 
  • Cyngor ar arferion cyfeirio a chyfeirnodi cywir ar gyfer cynnyrch DA.

Gallwch ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth ychwanegol ar ddefnyddio DA yma: Deallusrwydd Artiffisial  : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth

Dydd Miwsig Cymru

Heddiw, 7 Chwefror, yw Dydd Miwsig Cymru – diwrnod sy’n dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg. P’un a ydych yn mwynhau cerddoriaeth indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae cerddoriaeth anhygoel yn cael ei chyfansoddi yn y Gymraeg i chi ei darganfod. Darganfyddwch fwy am y diwrnod hwn gyda dolenni i restrau chwarae Spotify

Mae ein llyfrgellwyr wedi curadu rhestr chwarae Box of Broadcasts o rai o’u hoff raglenni dogfen a pherfformiadau i’ch rhoi ar y trywydd iawn gyda cherddoriaeth Gymraeg.

https://learningonscreen.ac.uk/ondemand/playlists/194552

Cliciwch ar y llun neu’r ddolen uchod i weld y rhestr chwarae