Wythnos Llyfrgelloedd 2022 – Myfyrwyr

Thema Wythnos Llyfrgelloedd eleni ydy’r rhan ganolog sydd gan lyfrgelloedd yn cefnogi dysgu gydol oes.

Heddiw, rydym yn canolbwyntio ar gyfleodd dysgu i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth y tu allan i’r ystafelloedd dysgu gydag adnoddau’r llyfrgell.

Teithiau llyfrgell Os ydych chi’n newydd i Brifysgol Aberystwyth, yn gyntaf, croeso! Yn ail, dewch ar daith o amgylch y llyfrgell! Mae staff cyfeillgar y llyfrgell yma i’ch tywys o gwmpas ac i ddangos y llyfrgell i chi. Does dim angen archebu lle ymlaen llaw ac mae croeso i bawb – amseroedd a manylion yma.

Mae taith rithiol Llyfrgell Hugh Owen ar gael i’w gweld isod a dyma restr ddefnyddiol A i Y o Wasanaethau Llyfrgell i’ch rhoi ar ben ffordd.

Meddalwedd a Gwasanaethau TG Cymerwch olwg ar ein tudalennau gwe i weld pa wasanaethau ac adnoddau TG sydd ar gael ichi. Os oes angen help neu gyngor arnoch, cysylltwch â thîm y Ddesg Wasanaeth ar-lein neu dros y ffôn.

Ffuglen a darllen er pleser Does dim prinder llyfrau yn ein llyfrgelloedd ac os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w ddarllen – sydd ddim yn werslyfr cwrs – mi allwn ni helpu! Porwch drwy Primo, catalog y llyfrgell ar-lein er mwyn dod o hyd i lyfrau ac e-lyfrau, rhowch gip ar ein casgliad o Ffuglen Gyfoes ger y Ddesg Ymholiadau ar Lefel F, porwch y silffoedd o farc dosbarth PN neu ddewch o hyd i filoedd o lyfrau Cymraeg yn y Casgliad Celtaidd. Mae yma nofelau graffig hefyd a llawer o lyfrau ffeithiol a barddoniaeth.

Ewch i Primo, catalog y llyfrgell i gael golwg.

Casgliad ffuglen gyfoes, Llyfrgell Hugh Owen

Linkedin Learning Mae miloedd o gyrsiau ar-lein dan arweiniad arbenigwyr ar gael i holl fyfyrwyr PA gyda Linkedin Learning.

Dyma ddetholiad bach o gyrsiau a allai’ch helpu i ddatblygu sgiliau newydd a mynd ar drywydd diddordebau a hobïau newydd gan Laurie Stevenson, Pencampwr Digidol Myfyrwyr:

Casgliad Gweithgareddau Allgyrsiol i Fyfyrwyr Dyma gasgliad o gyrsiau ag amrywiaeth o sgiliau a gweithgareddau creadigol y gallech fod â diddordeb yn eu dysgu ar y cyd â’ch astudiaethau, i gael saib o’ch aseiniadau neu i lenwi ennyd o ddiflastod! 

Laurie Stevenson

Dysgu Cymraeg Awydd dysgu neu loywi eich Cymraeg yn ystod eich cyfnod yn Aber? Does dim angen chwilio ymhellach na’r Casgliad Celtaidd! Mae’r casgliad yn cynnwys cannoedd o lyfrau i’ch helpu i ddysgu a datblygu eich Cymraeg, o gyrsiau iaith cyflawn a llyfrau gramadeg i ffuglen gyda geirfa ddefnyddiol.

Dewch o hyd i’r casgliad ar Lefel F.

Adnoddau dysgu Cymraeg yn y Casgliad Celtaidd

Canllawiau’r Llyfrgell Ymgyfarwyddwch â dewis y llyfrgell o LibGuides. Cewch yma eich canllaw pwnc a fydd yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich pwnc, yn ogystal ag amrywiaeth o ganllawiau i’ch cynorthwyo i wneud y mwyaf o’r llyfrgell, datblygu eich sgiliau llythrennedd gwybodaeth a gwella eich cyflogadwyedd.

Eich llyfrgellwyr pwnc sydd yn gyfrifol am y LibGuides ac maen nhw yma i’ch helpu gydag adnoddau academaidd ac arbenigol ar gyfer eich astudiaethau. Gallant eich helpu i ganfod a gwerthuso’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch a’ch helpu i’w chyfeirnodi’n gywir. Chwiliwch am fanylion cyswllt eich llyfrgellydd ar dudalen ein Llyfrgellwyr Pwnc.

Benthyg DFDs Cewch fenthyg DFDau am ddim o’r casgliad DFD mawr ar Lefel F. Edrychwch drwy’r hyn sydd ar gael yn Primo, catalog y llyfrgell.

Y casgliad o DFDau

Darllen yn Well – Casgliad Lles Mae Casgliad Lles y llyfrgell yma i’ch cynorthwyo i ddeall a rheoli llawer o gyflyrau iechyd meddwl cyffredin neu deimladau a phrofiadau anodd. Mae’r teitlau sydd wedi eu cynnwys yn y casgliad ar y rhestr Darllen yn Well, yn llyfrau ac e-lyfrau ac maent wedi’i threfnu yn ôl meysydd pwnc er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch.

Gwyliwch y fideo fer hon i ddysgu rhagor:

Casgliad Llên Plant

Colourful books from the Children's Literature Collection on a table on Level F of the Hugh Owen Library
Llyfrau lliwgar o’r Casgliad Llên Plant yn cael eu harddangos ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen

Os ewch chi lawr i Lyfrgell Hugh Owen heddiw…. …byddwch chi’n siŵr o ddod o hyd i’n harddangosfa ddiweddaraf o lyfrau o’r Casgliad Llên Plant!

Dewch felly i archwilio’r casgliad sydd yn cynnwys detholiad da a diddorol o ffuglen i blant yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r llyfrau yn amrywio o lyfrau lluniau a llenyddiaeth gyfoes i blant, i ffuglen i oedolion ifanc – o ddreigiau i dywysogesau, o fôr-ladron i estroniaid a phopeth sydd rhyngddynt!

Bydd y casgliad yn arbennig o ddefnyddiol ichi os ydych yn astudio TAR neu Astudiaethau Plentyndod/Addysg. Dewch o hyd i’r casgliad yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F yn nod dosbarth PZ neu borwch y casgliad ar Primo, catalog y llyfrgell yma.

Aseiniadau: O Adnoddau i Gyfeirnodau

A book and notepadParatowyd y modiwl Aseiniadau: O Adnoddau i Gyfeirnodau gan y Llyfrgellwyr Pwnc yn y Brifysgol i ddatblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth allweddol sy’n hanfodol ar gyfer astudiaeth academaidd – o ddod o hyd i ddeunyddiau academaidd o safon uchel i ddyfynnu adnoddau’n gywir yn eich aseiniadau. Mae’r modiwl ar gael ar Blackboard i bob myfyriwr.

Ar hyn o bryd mae’r modiwl yn cynnwys tair adran:

Canllaw y Llyfrgell a TG
• Darparu popeth y mae angen i chi ei wybod am ddechrau arni gyda gwasanaethau a chasgliadau llyfrgell.
• Cwis i ymarfer defnyddio adnoddau’r llyfrgell.

Cyfeirnodi ac ymwybyddiaeth Llên-ladrad
• Eich helpu i ddeall pwysigrwydd cyfeirnodi cywir; sut i greu dyfyniadau a chyfeiriadau cywir; sut i reoli eich dyfyniadau gan ddefnyddio offer meddalwedd cyfeirnodi a sut i ddehongli eich Adroddiad Tebygrwydd Turnitin.
• Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cwis sy’n eich galluogi i ymarfer y sgiliau yr ydych wedi’u dysgu gan ddefnyddio’r dull cyfeirio penodol a bennwyd gan eich adran

Llythrennedd Newyddion a’r Cyfryngau
• Mae’r canllaw hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol wrth werthuso’r wybodaeth a ddefnyddiwn ar-lein. Byddwch yn dysgu sut i ddiffinio cysyniadau allweddol megis rhyddid i lefaru, camwybodaeth, twyllwybodaeth a sensoriaeth; deall cysyniadau dethol a rhagfarn yn y cyfryngau a sut i adnabod newyddion ffug.
• Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cwis sy’n eich galluogi i brofi’r wybodaeth yr ydych wedi’i chael.

Bydd canllawiau a chwisiau pellach yn cael eu hychwanegu at y modiwl yn y dyfodol.
Os oes angen arweiniad arnoch wrth ddefnyddio’r modiwl, os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio casgliadau a gwasanaethau’r llyfrgell neu os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch â: llyfrgellwyr@aber.ac.uk / 01970 621896