Pressreader
Canfod eich ffordd o gwmpas Llyfrgell Hugh Owen
22/05/2023
Dyma gyflwyno Map Llawr y Llyfrgell
Rydym wedi lansio map a chanllaw llyfrgell newydd i’ch helpu i lywio eich ffordd o gwmpas Llyfrgell Hugh Owen a dod o hyd i’ch llyfrau ac adnoddau eraill ar y silffoedd.
Porwch y map ar-lein yn libraryfloormap.aber.ac.uk i ddarganfod lle mae popeth, i gael rhagor o wybodaeth am adnoddau a mannau’r llyfrgell ac i ymgyfarwyddo â’r cynllun llawr – peidiwch byth â mynd ar goll eto!
Mae Map Llawr y Llyfrgell hefyd wedi’i integreiddio â Primo, catalog y llyfrgell. Pan fyddwch yn edrych ar eitem yn Primo, cliciwch ar ddolen Map Llawr y Llyfrgell i agor y map a bydd lleoliad eich eitem yn cael ei amlygu.
Mae angen eich adborth arnom
Adnodd newydd yw Map Llawr y Llyfrgell felly rydym am ichi ddweud wrthym sut y gallem ei wneud mor ddefnyddiol â phosibl. Rhowch wybod inni yma neu drwy e-bostio adborth-gg@aber.ac.uk
Croeso Megan!
Rwy’n cofio’n glir y balchder a deimlais pan gefais fy ngherdyn llyfrgell cyntaf yn blentyn, sawl degawd yn ddiweddarach ac mae llyfrgelloedd yn dal i fod yn rhan ganolog o fy mywyd. Mae gallu gweithio yn yr union lyfrgell wnaeth fy helpu i raddio yn dal i fod yn foment afreal! Heblaw darllen, rwyf hefyd yn mwynhau garddio, rhedeg a gwau.
Dyma gyflwyno: Adnodd Chwilio am Gronfeydd Data
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hadnodd newydd i Chwilio am Gronfeydd Data ar Primo – catalog y llyfrgell. Mae wedi cael ei gyflwyno yn lle’r dudalen A-Y o Adnoddau Electronig.
Mae ein tudalen newydd ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ yn rhan o brif adnodd chwilio’r llyfrgell a gellir ei gweld ar frig Primo, felly nid oes angen ichi gofio unrhyw gyfeiriadau gwe ar wahân.
Mae’r adnodd newydd i Chwilio am Gronfeydd Data wedi’i rannu’n bynciau gwahanol felly gallwch bori drwy’r adnoddau sy’n berthnasol i’ch cwrs chi. Neu gallwch chwilio yn ôl termau allweddol a chywain canlyniadau o’r casgliad cyfan.
Ceir disgrifiad byr o bob adnodd fel y gallwch archwilio sut y gallent fod o fudd i’ch astudiaethau.
Mae’r nodwedd chwilio newydd ar gael yma.
Pressreader
Pressreader
Pressreader
Diweddaru Rhestr Ddarllen ar gyfer Staff Addysgu
Creu dolenni i’ch rhestrau darllen yn eich modiwlau Blackboard
Mewn modiwl Blackboard Ultra nid oes dolen wedi’i chreu’n awtomatig i’r rhestr ddarllen Aspire ar gyfer y modiwl hwnnw.
Er mwyn eich galluogi i greu’r cysylltiadau hyn yn ddi-oed, crëwyd rhestrau darllen gwag yn Aspire ar gyfer modiwlau newydd a’r rhai sy’n dychwelyd sydd angen rhestr.
Cysylltwch eich holl restrau darllen 2023-2024 â’ch modiwlau Blackboard 2023-2024 cyn gynted â phosibl:
Gallwch hefyd ddewis ychwanegu dolenni at adrannau yn eich rhestrau darllen.
Er gwybodaeth, bydd rhestrau darllen Aspire 2022-2023 yn parhau i fod ar gael ym modiwlau Blackboard 2022-2023 a byddant yn cael eu harchifo ddiwedd mis Awst.
Diweddarwch rifyn 2023-2024 o’ch rhestr ddarllen.
Wrth ddiweddaru cynnwys eich rhestr ddarllen Aspire ar gyfer y flwyddyn i ddod, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru rhifyn 2023-2024 o’ch rhestr ddarllen.
Os byddwch yn ychwanegu llyfrau at restrau darllen 2022-2023 ni fyddant yn cael eu prynu.
Cyswllt
Cysylltwch â librarians@aber.ac.uk neu eich llyfrgellydd pwnc
- Os nad oes rhestr ddarllen yn Aspire ar gyfer eich modiwl
- Os hoffech apwyntiad rhestr ddarllen gyda’ch llyfrgellydd pwnc
- Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal sesiynau hyfforddiant canolog ac adrannol i gefnogi’r staff wrth ddefnyddio Ultra. Am wybodaeth bellach, gweler ein tudalenau gwe Ultra.