Yn Cyflwyno: LibKey Nomad
Estyniad porwr gwe i’w lawrlwytho yw LibKey Nomad. Mae’n darparu dolenni at erthyglau o gyfnodolion y mae eich llyfrgell yn tanysgrifio iddynt yn awtomatig. Bydd mynediad un-clic LibKey Nomad at erthyglau sy’n cael eu cyfeirnodi ar wefannau ysgolheigaidd a pheiriannau chwilio yn gwneud eich ymchwil a dod o hyd i ffynonellau yn gyflymach ac yn haws o lawer.

Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio. Ewch i’r dudalen lawrlwytho ac ychwanegwch yr estyniad at eich porwr o ddewis. Ar ôl ei osod, bydd gofyn ichi ddewis eich sefydliad. Dewiswch Prifysgol Aberystwyth a bydd LibKey Nomad yn rhoi gwybod ichi am erthyglau sydd ar gael trwy’r llyfrgell lle bynnag y byddwch chi’n crwydro ar-lein.
Bydd LibKey Nomad hefyd yn cyfoethogi eich profiad ar safleoedd poblogaidd fel PubMed, Wikipedia, Scopus, Web of Science a mwy.
Cymhariaeth
Dyma enghraifft o restr gyfeirnodau ar Wikipedia cyn i LibKey Nomad gael ei osod ac ar ôl ei osod (sgroliwch ar draws i gymharu):


Gallwch weld bod LibKey Nomad yn ychwanegu dolen at yr erthygl os oes mynediad gan y llyfrgell. Mae clicio ar y ddolen yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r ffynhonnell.
Dysgwch ragor am LibKey Nomad yn y fideo isod:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am LibKey Nomad, anfonwch e-bost atom ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Fel bob amser, os oes angen help arnoch i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich astudiaethau, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc.
Dymunwn wyliau Nadolig pleserus i chi!
Mae’r tymor hwn wedi bod yn brysur ac wedi mynd heibio’n gyflym iawn! Mae wedi bod yn gymysgedd gwych gyda sesiynau addysgu ar-lein yn ogystal ag wyneb yn wyneb a darparu cefnogaeth. Rydym wedi mwynhau bod yn ôl ar ddesg ymholiadau Llawr F Hugh Owen, gan helpu gyda llawer o gwestiynau ac ymholiadau amrywiol.
Rydym yma tan ddydd Iau 22 Rhagfyr, os bydd arnoch angen unrhyw gymorth cysylltwch â ni ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Ar ôl y gwyliau byddwn ni nôl ddydd Mawrth 3 Ionawr.
Mae Ystafell Iris de Freitas ar agor 24/7 o 22 Rhagfyr – 3 Ionawr 2023.
Ydych chi’n aros ar y Campws neu yn Aberystwyth yn ystod gwyliau’r Nadolig?
Hoffem ddymuno gwyliau hyfryd i bawb ac edrychwn ymlaen at eich helpu a’ch cefnogi yn 2023!
Porfeydd newydd i Connie
Rydym yn drist iawn ein bod wedi ffarwelio ag aelod gwerthfawr o’r Tîm Ymgysylltu Academaidd, Connie Davage. Ymunodd Connie â’n tîm nôl yn 2018 gan ddod â’i chyfoeth o brofiad o Dîm Desg Gwasanaeth y Llyfrgell i gyfuno’r rôl hon â chefnogi’r tîm lle bynnag y bo angen. Roedd Connie hefyd yn cefnogi’r Adran Dysgu Gydol Oes a bydd holl staff yr Adran yn gweld ei heisiau’n fawr.
Mae nifer o gydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi cael cymorth Connie dros y blynyddoedd, o gefnogaeth ar gyfer Rhestr Ddarllen Aspire, i geisiadau digideiddio a chymorth llyfrgell gwerthfawr.
Hoffem ddymuno’r gorau i Connie yn ei rôl newydd fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a diolch iddi am fod yn gydweithiwr gwych, yn bobydd o fri ac yn ffrind i bawb yn y tîm.