Diweddariad Rhestr Ddarllen ar gyfer Staff Addysgu

Creu / diweddaru rhestrau darllen eich modiwlau ar gyfer 2024-2025

Cyngor ar ychwanegu adnoddau’r llyfrgell at restr Aspire newydd a diweddaru rhestr sy’n bodoli eisoes

Mae rhestrau darllen gwag yn cael eu creu yn Aspire ar gyfer modiwlau newydd a’r rhai sy’n dychwelyd sydd angen rhestrau. Pan fyddwch wedi ychwanegu rhywfaint o gynnwys at eich rhestr ddarllen, caiff ei chysylltu â’r modiwl Blackboard priodol gan staff y Llyfrgell.

Cofiwch y gallwch hefyd ychwanegu dolenni at adrannau yn eich rhestrau darllen.

Wrth ddiweddaru cynnwys eich rhestr ddarllen Aspire ar gyfer y flwyddyn i ddod, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru rhifyn 2024-2025 o’ch rhestr ddarllen. Os byddwch yn ychwanegu llyfrau at restrau darllen 2023-2024 ni fyddant yn cael eu prynu. Er gwybodaeth, bydd rhestrau darllen Aspire 2023-2024 yn parhau i fod ar gael ym modiwlau Blackboard 2023-2024 tan ddiwedd mis Awst ac yna byddant yn cael eu harchifo.

Cyswllt

Cysylltwch â llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu eich llyfrgellydd pwnc os

  • nad oes rhestr ddarllen yn Aspire ar gyfer eich modiwl
  • hoffech apwyntiad rhestr ddarllen gyda’ch llyfrgellydd pwnc
  • oes gennych chi unrhyw gwestiynau

Canllawiau Llyfrgell

Mae’r Canllawiau Llyfrgell wedi cael eu diweddaru i sicrhau bod yr holl ddolenni’n gweithio a bod yr holl lyfrau a restrir yn cynnwys y rhifyn diweddaraf, sy’n golygu eu bod yn well nag erioed! Mae pob Canllaw Llyfrgell wedi’i theilwra i bwnc penodol, sy’n golygu bod yr wybodaeth yn arbenigol i’r hyn yr ydych chi’n chwilio amdano. Dyma lle gallwch gael eich cyfeirio at, ac archebu cyfarfod â’ch llyfrgellydd pwnc, darganfod pa lyfrau y dylech eu darllen, cael cymorth i gyfeirnodi, a llawer mwy! Os ydych chi’n cael trafferth gyda chyfeirio, aseiniadau, neu eich traethawd hir, dyma’r lle i fynd. Mae’r Canllawiau Llyfrgell yn hawdd iawn i’w defnyddio, gyda chyfeiriadau a gwybodaeth wedi’u gosod yn glir.