Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc wedi cyhoeddi nid dim ond un ond dau Ganllaw Llyfrgell newydd i’ch helpu gyda’ch astudiaethau a’r hyn sy’n dod ar eu hôl.
Canllaw Traethawd Hir
P’un a ydych yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer eich traethawd hir neu’n hanner ffordd drwy’r broses ac yn difaru pob penderfyniad hyd yn hyn, gall y canllaw hwn eich helpu!
Yn y canllaw, mi ddewch o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ddeall a rheoli’r broses o ysgrifennu traethawd hir – o ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth a datblygu eich technegau chwilio i werthuso a chyfeirnodi’r ffynonellau hynny.
Am help a chyngor pob cam o’r ffordd, o gysyniad i gloi, cymrwch bip ar ein Canllaw Traethawd Hir: https://libguides.aber.ac.uk/traethawdhir
Canllaw Newyddion a’r Cyfryngau
Mae ein canllaw Newyddion a Chyfryngau yn adnodd cynhwysfawr a chlir i’ch helpu llywio’r newyddion a chyfryngau drwy gydol eich amser yn y Brifysgol a thu hwnt.
- Diogelu eich delwedd ar-lein
- Diffinio cysyniadau allweddol megis rhyddid mynegiant, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, a sensoriaeth
- Dysgwch sut mae algorithmau’n cael eu defnyddio i dargedu pobl ar y cyfryngau cymdeithasol
- Deall cysyniadau dethol a thuedd
- Eglurwch beth yw newyddion ffug a dysgu sut i’w adnabod
Mae ein Canllaw Newyddion a’r Cyfryngau yma i’ch helpu chi i helpu’ch hun i gadw’n saff ac yn graff: https://libguides.aber.ac.uk/newyddion