Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol sy’n adlewyrchu ar hanesion a diwylliannau pobl dduon ledled y byd. Mae’r digwyddiad, a gychwynnodd yn America, wedi cael ei nodi bob mis Hydref yn y DU ers 1987.
Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon 2021, mae Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi rhestr ddarllen newydd sy’n cynnig cyfle i archwilio agweddau o Hanes Pobl Dduon sydd efallai yn llai adnabyddus:
Hanes Pobl Dduon Cymru
Archwiliwch Hanes Pobl Dduon yng Nghymru gan ddysgu am rôl Cymru mewn caethwasiaeth ac hefyd ei rôl ganolog wrth ei diddymu (Slave Wales gan Chris Evans); ewch ar daith bersonol o hunan-ddarganfyddiad a hunaniaeth hil-gymysg (Sugar and Slate gan Charlotte Williams) a darganfod y gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwyllianedd yng Nghymru mewn ffuglen (Y Gymru Ddu ar Ddalen Wen gan Lisa Sheppard). Cawn hefyd hanesion o’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth yng Nghymru’r 18fed ganrif yn Canu Caeth: y Cymry a’r Affro-Americaniaid gan Daniel G. Williams.
Hanes Pobl Dduon Prydain
Yn yr adran hon, awn i’r byd academaidd Prydeinig a dysgu am brofiadau menywod a myfyrwyr o liw (Inside the ivory tower a olygwyd gan Deborah Gabriel a Shirley Tate ac Insider-Outsider: The Role of Race in Shaping the Experiences of Black and Minority Ethnic Students by Sofia Akel). Cawn wybod sut y caiff effaith diwylliannol gwleidyddiaeth hil a gwrth-hiliol ei hadlewyrchu mewn llenyddiaeth Asiaidd Prydeinig a Du Prydeinig (Race and antiracism in Black British and British Asian literature gan Dave Gunning), cawn ddilyn naratif hanesyddol o leiafrifoedd hiliol Prydain (Staying Power: The History of Black People in Britain, Peter Fryer) a chael profi argyfwng hunaniaeth hynod Brydeinig (Afua Hirsch- Brit(ish): on race, identity and belonging).
Hanes Pobl Dduon mewn Barddoniaeth
Profwch Hanes Pobl Dduon mewn barddoniaeth drwy weithiau diweddar gan enillydd Gwobr Dylan Thomas Kayombo Chingonyi (Kumukanda) a chasgliad cyntaf Raymond Antrobus The Perseverance. Ymgollwch yng nghasgliad ar-lein syfrdanol Proquest One Literature African American Poetry sydd yn cynnwys bron i 3,000 o gerddi gan feirdd Americanaidd Affricanaidd o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Llyfrau Ffuglen a Ffeithiol
Mae gennym argymhellion ffuglen ar eich cyfer megis nofelau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, y nofel Gymraeg Safana gan Jerry Hunter a Queenie gan Candice Carty-Williams, nofelau arobryn cyfoes (An American Marriage gan Tayari Jones; Girl, Woman, Other gan Bernadine Evaristo), nofelau clasurol (To Kill a Mockingbird, Harper Lee; Beloved gan Toni Morrison ac Invisible Man, Ralph Ellison) a ffuglen Oedolion Ifanc poblogaidd (Children of Blood and Bone gan Tomi Adeyemi a The Hate U Give gan Angie Thomas )
Yn ein detholiad o lyfrau ffeithiol, dewch o hyd i hunangofiannau a bywgraffiadau pobl dduon ddylanwadol (Becoming gan Michelle Obama) ac ystod o gasgliadau o draethodau a sylwebaethau gwleidyddol a chymdeithasol heriol (I will not be erased, gal-dem; Slay in your lane: the Black girl bible, Yomi Adegoke; Natives, Akala; Don’t touch my hair, Emma Dabiri).
Adnoddau Ar-lein
Mae llawer o e-adnoddau gwych ar y rhestr, ond peidiwch â cholli Proquest One Literature Black Writing and World Literature Collection sy’n dwyn ynghyd y casgliad llenyddiaeth mwyaf a’r un mwyaf cynhwysol a guradwyd erioed. Rydym yn tynnu sylw at y prosiectau arbennig canlynol:
Mae’r casgliad ar-lein hwn yn cynnwys dros 250 o gyfrolau o ffuglen, barddoniaeth, drama a rhyddiaith gan awduron Affricanaidd.
Mae Black Women Writers yn cyflwyno 100,000 o dudalennau o lenyddiaeth a thraethodau ar faterion ffeministaidd – o ddarluniadau o gaethwasiaeth yn yr 18fed ganrif i waith awduron yn niwedd y 1950au a’r 1960au wedi i don o annibyniaeth ysgubo ar draws Affrica.
Daeth dros filiwn a hanner o Affricaniaid, ynghyd â phobl o India a De Asia, i’r Caribî rhwng y 15fed a’r 19eg ganrif. Heddiw, mae eu disgynyddion wrthi’n creu llenyddiaeth sydd â chysylltiadau cryf ac uniongyrchol â mynegiant Affricanaidd traddodiadol.
Black Short Fiction and Folklore
82,000 o dudalennau a mwy na 11,000 o weithiau o ffuglen fer mewn amrywiaeth o draddodiadau sydd yn Black Short Fiction and Folklore – o draddodiadau llafar Affricanaidd cynnar i hip-hop – mae’n cwmpasu chwedlau, damhegion, baledi, straeon gwerin, a straeon a nofelau byrion.
Ceir adnoddau o bob math ar y rhestr, rhai ffisegol a rhai ar-lein, felly p’un a ydych ar y campws neu oddi arno, mae rhywbeth i bawb. Porwch ein harddangosfa ddigidol neu os yw’n well gennych bori yn y cnawd, galwch heibio ein harddangosfa ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen a fydd yno drwy gydol mis Hydref.
A rhannwch eich barn ar y detholiad gan ddefnyddio’r hashnod #BHMAber21 neu @aberuni_is ar Twitter!