Yma yn y llyfrgell, rydym yn gefnogwyr mawr o Primo, catalog y llyfrgell. Gyda Primo, mae modd dod o hyd i’r llyfrau ar ein silffoedd, ond hefyd gallwch gael mynediad at filiynau o adnoddau digidol, pob un yn barod ar flaenau eich bysedd.

Ond gyda chymaint o adnoddau ar gael i chi, weithiau gall chwilio catalog y llyfrgell deimlo’n rhwystredig. Os ydych chi’n defnyddio chwiliad rhy eang (e.e. “hanes”) yna cewch eich llethu gan ganlyniadau. Term chwilio rhy benodol (“pensaernïaeth neo-Gothig yng nghefn gwlad Chile”) a chewch chi ddim byd!
Felly, beth allwch chi ei wneud? Ein cyngor fel llyfrgellwyr pwnc yw dechrau drwy adeiladu geirfa o allweddeiriau. Bydd cael cyfres glir o eiriau allweddol yn targedu eich chwiliadau, gan eich helpu i ganolbwyntio ar yr adnoddau mwyaf perthnasol a defnyddiol. Mae’n gam syml a all wneud gwahaniaeth enfawr yn eich taith ymchwil!
Sut y gall DA eich helpu i adeiladu geirfa chwilio?
Gall offer DA fel ChatGPT awgrymu allweddeiriau craffach, cyfystyron, a chysyniadau cysylltiedig i wneud eich chwiliadau yn fwy effeithiol. Edrychwn ar rai enghreifftiau
- Dewisiadau amgen mwy deallus i dermau eang.
 
[Anogwr] Awgrymwch rai allweddeiriau amgen ar gyfer “Newid yn yr Hinsawdd”
Efallai y bydd y DA yn ymateb gyda:
- Cynhesu byd-eang.
 - Argyfwng yr hinsawdd.
 - Effaith tÅ· gwydr.
 
- Ymchwilio i Achosion
 
Eisiau ymchwilio i’r hyn sy’n gyrru newid hinsawdd? Rhowch gynnig ar:
[Anogwr] Rhowch restr o eiriau allweddol i mi ar gyfer rhai o brif achosion newid yn yr hinsawdd.
Yr ymateb:
- Allyriadau carbon deuocsid.
 - Tanwydd ffosil.
 - Llygredd diwydiannol.
 - Datgoedwigo.
 - Allyriadau methan.
 
- Ymchwilio i Effeithiau
 
Ydych chi eisiau canolbwyntio ar sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y blaned? Defnyddiwch:
[Anogwr] Awgrymwch rai allweddeiriau ar gyfer prif effeithiau Newid yn yr Hinsawdd.
Ymateb:
- Cynnydd yn lefel y môr.
 - Capiau iâ pegynol yn toddi.
 - Digwyddiadau tywydd eithafol.
 - Colli Bioamrywiaeth.
 - Asideiddio’r cefnforoedd.
 
4. Chwilio am Ddatrysiadau
Ar gyfer strategaethau lliniaru, rhowch gynnig ar:
[Anogwr] Awgrymwch rai allweddeiriau ar gyfer sut y gellir lliniaru Newid yn yr Hinsawdd.
Ymateb
- Ynni Adnewyddadwy.
 - Dal a storio carbon.
 - Polisïau Newid Hinsawdd.
 - Technoleg werdd.
 - Datblygu cynaliadwy’.
 
Dod â’r Cwbl Ynghyd
Yn olaf, cyfunwch y syniadau hyn ar gyfer chwiliad mwy cymhleth. Er enghraifft:
{Anogwr] Awgrymwch gyfres o chwiliadau allweddair i ddod o hyd i adnoddau ar effeithiau allyriadau methan ar golli bioamrywiaeth a’r hyn y gellir ei wneud i liniaru’r effeithiau hynny.
Efallai y bydd y DA yn eich helpu i greu chwiliad sy’n edrych fel hyn:
- Allyriadau methan a bioamrywiaeth.
 - Effaith methan ar ecosystemau’r Arctig.
 - Technolegau lliniaru methan mewn rhanbarthau rhew parhaol.
 
Trwy ddefnyddio DA i adeiladu geirfa o allweddeiriau wedi’i thargedu, byddwch yn treulio llai o amser yn chwilio a mwy o amser yn darganfod yr adnoddau sydd eu hangen arnoch.
[Crëwyd yr ymatebion a restrir uchod gyda ChatGPT].
