Diolch, Elizabeth

Wrth i Elizabeth Kensler baratoi i adael Gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth, rydym am gymryd eiliad i ddathlu ei chyfraniad a’r effaith barhaol y mae’n gadael ar ei hôl.

Mae gan Elizabeth allu rhyfeddol i gysylltu â phobl, cydweithwyr, defnyddwyr y llyfrgell, ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac i greu amgylchedd sy’n teimlo’n wirioneddol groesawgar a chefnogol. Yn union beth ddylai llyfrgell fod. Trwy ei gwaith a’i phresenoldeb mae hi wedi helpu i lunio gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar bobl, nid prosesau yn unig (er y bydd unrhyw un sydd wedi gweithio gyda hi yn gwybod bod ganddi werthfawrogiad arbennig o’r rheini hefyd!).

Nia ac Elizabeth, 2008

Ers 2008 mae Elizabeth wedi bod yn gweithio ar sail rhannu swydd gyda Nia Ellis, gan gychwyn fel Rheolwyr Gwasanethau Cwsmeriaid.

Pan gychwynom ni, y dasg gyntaf gawsom oedd uno staff desg y llyfrgell a staff y ddesg cyngor cyfrifiadurol. Roedd hyn yn golygu dod â dau dîm dra gwahanol at ei gilydd a hefyd ail-ddylunio’r ddesg ar Lefel D.

Cwblhawyd y gwaith adeiladu ar Lefel D yn haf 2011.

Ac eto yn 2017, Elizabeth fu’n arwain ar y gwaith atgyweirio ar Lyfrgell Thomas Parry, gan gyflawni gwyrthiau i gael y llyfrgell yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2017. Fe weithiodd yn ddiflino gan ysbrydoli staff o’i hamgylch i wneud ymdrech arbennig i gwblhau’r gwaith.

Un gwahaniaeth mawr yn y blynyddoedd cynnar hynny oedd gweithio ar draws y Gwasanaethau Gwybodaeth a gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i wella profiad Wythnos y Glas i fyfyrwyr. Trwy gydweithio’n fwy effeithiol, llwyddwyd i gwtogi’r ciwiau hirfaith a ystyriwyd yn hollol normal ar y pryd. Bu’n cadeirio’r grŵp cynefino am flynyddoedd, gan gydlynu’r gwaith a chwilio am gyfleoedd i wella ein harferion a’n prosesau. Roedd y parodrwydd yma i ddatblygu rhwydweithiau yn agwedd bwysig iawn ar ei gwaith, gan ei gwneud hi’n gymaint haws wedyn i gydweithio. Doedd hyn ddim yn rhywbeth strategol, ond yn rhywbeth annatod a oedd yn perthyn iddi – yn gyfathrebwr heb ei hail. Roedd ei harfer o flaenoriaethu rhannu gwybodaeth glir yn gyson yn enghraifft o sut iddi ddylanwadu ar arfer yr adran gyfan wrth i gydweithwyr ddod i ddeall a gweld gwerth a phwysigrwydd ein gwaith.

Mae’r ffocws ar brofiad y myfyriwr wedi bod yn bwysig iddi erioed, a dyna pam bod dysgu am dechnegau UX (User Experience) wedi cael dylanwad mor fawr. Roedd gallu gwneud ein hymchwil ein hunain i arferion ac anghenion myfyrwyr mewn ffordd cymaint cyfoethocach a dyfnach nac arolygon yn drobwynt i ni. Roedd cael tystiolaeth ar gyfer datblygiadau a gwelliannau yn rhywbeth hollol resymegol. A thrwy ei brwdfrydedd a’i hegni, fe lwyddwyd i ledaenu’r arfer o ymgynghori â myfyrwyr neu ymchwilio i’w harferion. Mae Elizabeth wedi cyflwyno papur ar y pwnc yma (New approaches to improving  the student experience at Aberystwyth University libraries: from Library Surveys to cognitive mapping) yng nghynhadledd LibPMC 2023.

Nia Ellis, Rheolwr Profiad y Myfyriwr a’r Defnyddiwr

Bydd colled fawr ar ôl Elizabeth ar draws Gwasanaethau’r Llyfrgell ac Addysg Ddigidol a thu hwnt. Mae hi wedi cydbwyso meddwl strategol ac arloesedd gyda gofal am y bobl o’i chwmpas, ac mae ei dylanwad i’w weld nid yn unig yn y gwasanaethau y mae hi wedi’u llunio, ond yn y ffyrdd y mae cydweithwyr yn gweithio gyda’i gilydd bob dydd.

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i fod wedi gweithio gydag Elizabeth ers blynyddoedd lawer, ac rwyf bob amser wedi ei hedmygu fel model rôl; mae ganddi wybodaeth ac arbenigedd rhagorol fel llyfrgellydd ac mae’n eiriolwr cryf dros wasanaeth y llyfrgell yn y Brifysgol. Dim ond pan ddaeth hi’n rheolwr llinell i mi y sylweddolais pa mor eithriadol yw hi fel person, a pha mor ffodus oeddwn i.

Yn ogystal â’i phroffesiynoldeb cadarn a’i chred ddofn yng ngwerth llyfrgelloedd i addysg uwch ac i gymdeithas, roedd ffynhonnell ddi-ben-draw o garedigrwydd a hiwmor ganddi. Beth bynnag oedd yr her – ailstrwythuro, COVID, salwch – roedd Elizabeth yno dro ar ôl tro, yn rhoi ei hamser a’i haelioni, ac yn meddu ar y gallu arbennig hwnnw i ysbrydoli a gwneud i chi deimlo’n well am bethau, rhywbeth na ellir ei brisio.

Joy Cadwallader, Llyfrgellydd ac Arweinydd Cyswllt Academaidd a Sgiliau Myfyrwyr 

Rydym yn hynod ddiolchgar am ei hegni, ei dirnadaeth a’i harweinyddiaeth feddylgar, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y bennod nesaf.