Gall ceisio dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y byd gofal iechyd deimlo’n hynod llethol. Mae’r teimlad nad oes gennych ddigon o amser wrth i chi gydbwyso ymrwymiadau personol, darlithoedd, a lleoliadau clinigol yn gallu bod yn heriol dros ben. Felly, wrth ymchwilio ar gyfer aseiniadau neu i ddeall cyflyrau cymhleth, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau.
Yn hytrach na threulio amser yn gwneud chwiliadau diddiwedd ar-lein a all eich arwain at wefannau o ansawdd amheus a gwybodaeth nad yw’n gyfredol mwyach, mae eich llyfrgell yn buddsoddi mewn cronfeydd data gofal iechyd safonol fel CINAHL, MEDLINE, Cronfa Ddata Nyrsio Prydain (a llawer mwy!) am reswm – maent yn drysorfa o ymchwil credadwy, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd fel chi.
Mae ein tudalen ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ yn rhan o brif adnodd chwilio’r llyfrgell a gellir ei gweld ar frig Primo, felly nid oes angen ichi gofio unrhyw gyfeiriadau gwe ar wahân.
Mae’r adnodd i Chwilio am Gronfeydd Data wedi’i rannu’n bynciau gwahanol felly gallwch bori drwy’r adnoddau sy’n berthnasol i’ch cwrs chi. Neu gallwch chwilio yn ôl termau allweddol a chywain canlyniadau o’r casgliad cyfan.

Ymgyfarwyddwch â’r cronfeydd data hyn i gael:
- Tystiolaeth ddibynadwy a chyfredol: Mae’r cronfeydd data hyn yn curadu gwybodaeth o gyfnodolion cydnabyddedig.
- Gwybodaeth wedi’i Thargedu: Defnyddiwch allweddeiriau a hidlwyr penodol i ganfod erthyglau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’ch pwnc, boed trin clwyfau, nyrsio iechyd meddwl, neu diabetes.
- Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ar Flaenau eich Bysedd: Mae’r cronfeydd data hyn yn helpu i ddarparu’r sylfaen ar gyfer deall y “pam” y tu ôl i’r arfer, gan helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl ar sail ymchwil gadarn.
- Llwyddiant Academaidd: Bydd defnyddio ffynonellau credadwy o’r cronfeydd data hyn yn cryfhau eich dadleuon, yn dangos meddwl beirniadol, ac yn arwain at farciau gwell yn y pen draw.
- Ehangu eich Gwybodaeth: Ehangwch eich dealltwriaeth o bynciau gofal iechyd i fod yn barod am yrfa yn y maes.
Dim syniad ble i ddechrau?
- Mewngofnodwch i Primo – catalog y llyfrgell.
- Defnyddiwch ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ i ddod o hyd i’ch cronfa ddata – dilynwch unrhyw nodiadau oddi ar y campws os oes angen.
- Am ragor o wybodaeth a chymorth, gweler eich LibGuide neu cysylltwch â’ch llyfrgellydd.
Pob hwyl wrth ymchwilio!