Bod yn dryloyw ynghylch eich defnydd o DA
Cyn i ni ddechrau arni’n iawn, gadewch imi ailadrodd ei bod hi’n rhaid i chi bob amser ddilyn unrhyw ganllawiau prifysgol ac adrannol ar ddefnyddio offer DA mewn gwaith a asesir.

Yn ein neges ddiwethaf ar foeseg defnyddio DA cynhyrchiol, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar bwysigrwydd deall y cyfrifoldebau sy’n dod gyda defnyddio’r offer hyn. Y neges allweddol yn y postiad hwnnw oedd yr angen i ymgyfarwyddo â chanllawiau Prifysgol Aberystwyth ar ddefnydd DA.
Yr wythnos hon, rydym yn trafod pwnc pwysig arall: bod yn dryloyw ynghylch eich defnydd o offer DA mewn gwaith a asesir.
Wrth i DA cynhyrchiol ddod ar gael yn ehangach, mae prifysgolion yn pwysleisio pwysigrwydd uniondeb academaidd a datgeliad clir wrth ddefnyddio’r technolegau hyn.
Gall defnyddio DA fod yn gymorth gwerthfawr wrth ymchwilio, trafod syniadau a drafftio, ond mae’n hanfodol bod yn dryloyw ynglŷn â sut a ble rydych chi wedi’i ddefnyddio.
Mae bod yn agored am eich defnydd o offer DA yn hanfodol ar gyfer cynnal uniondeb academaidd. Mae tryloywder yn dangos eich ymrwymiad i onestrwydd ac arferion astudio moesegol.
Pwyntiau allweddol: Pam mae tryloywder yn bwysig:
- Mae’n dangos eich gonestrwydd academaidd.
- Mae’n adlewyrchu eich ymrwymiad i arferion astudio moesegol.
- Mae’n tynnu sylw at eich sgiliau meddwl beirniadol.
- Mae’n atgyfnerthu eich atebolrwydd proffesiynol.
Sut i gydnabod defnydd o DA:
Gofynnwch i’ch adrannau academaidd a chydlynwyr y modiwlau am gyngor ynghylch sut y dylech gydnabod cynnyrch DA. Gallai’r rhain gynnwys:
- Datganiadau ar y defnydd o offer DA
- Cyngor ar arferion cyfeirio a chyfeirnodi cywir ar gyfer cynnyrch DA.
Gallwch ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth ychwanegol ar ddefnyddio DA yma: Deallusrwydd Artiffisial : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth