Y llyfrgell: mae goroesi tymor yr arholiadau’n dechrau yma!

Daeth yr adeg unwaith eto!  Mae’r amser yn prysur nesáu, mae’r llyfrgell yn llenwi, ac yn sydyn mae pawb yn siarad am adolygu ac arholiadau. Rydyn ni gyd wedi bod yn yr sefyllfa, ac er nad oes unrhyw un yn hoffi arholiadau, dyma eich cyfle i ddangos popeth rydych chi wedi’i ddysgu eleni.

Cymerwch anadl. Ewch amdani – ac mae cefnogaeth ar gael yma yn y llyfrgell.

Adolygu, ond mewn ffordd sy’n gweithio i chi

Nid oes un ateb a fydd yn gweddu i bawb pan ddaw hi i adolygu. Mae rhai pobl yn credu’n gryf mewn nodiadau lliwgar a chardiau fflach, mae eraill angen cerddoriaeth gefndir, ac mae rhai eisiau distawrwydd llwyr a choffi cryf. Y newyddion da?  Mae yna lawer o gefnogaeth yn y llyfrgell i’ch helpu i ddarganfod beth sy’n gweithio orau i chi.

Marciau, Barod, Adolygwch gyda SgiliauAber

Edrychwch ar y safle SgiliauAber – mae ganddo adran gyfan ar Adolygu ac Arholiadau sy’n llawn:

  • Canllawiau ymarferol ar sut i adolygu’n effeithiol gan gynnwys ble i ddod o hyd i hen bapurau
  • Gwahanol ddulliau adolygu i roi cynnig arnynt (y tu hwnt i ail-ddarllen nodiadau yn unig)
  • Awgrymiadau a chyngor gan eich cyfoedion sydd eisoes wedi bod drwy’r profiad

P’un a ydych chi’n llenwi’ch pen â gwybodaeth funud olaf, yn cynllunio wythnosau ymlaen llaw, neu rywle rhwng y ddau, mae’n lle cadarn i ddechrau.

Yn ôl i’r rhestr ddarllen

Mae nawr yn amser da i ail-ymgyfarwyddo â rhestr ddarllen y modiwl. Does dim angen i chi ddarllen popeth o glawr i glawr – meddyliwch amdano fel gloywi yn hytrach nag ailgychwyn.

Gall ailymweld â thestunau allweddol eich helpu i:

  • Lenwi’r bylchau yn eich dealltwriaeth
  • Ailgysylltu pynciau darlithoedd â darlleniadau craidd
  • Cryfhau eich hyder wrth adolygu meysydd anodd

Defnyddiwch eich rhestr ddarllen i ganolbwyntio ar benodau hanfodol neu adrannau sy’n gysylltiedig â phynciau arholiadau, a phorwch drwy destunau a argymhellir am eglurhad neu enghreifftiau. Mae gan y llyfrgell gopïau ar gael fel y gallwch ailymweld â’r deunydd pan fydd yn cyd-fynd â’ch amserlen adolygu. Gallwch ddod o hyd i bopeth yn hawdd trwy restrau darllen Aspire a Primo, catalog y llyfrgell, i wirio argaeledd, eich hanes benthyca, gweld testunau ar-lein, neu ddod o hyd i eitemau ar y silffoedd.

Casgliad Astudio Effeithiol

Ddim yn siŵr sut i adolygu, heb sôn am beth i’w adolygu? Gall Casgliad Astudio Effeithiol y Llyfrgell eich helpu.

Mae’r casgliad print ac ar-lein hwn yn llawn llyfrau sgiliau adolygu ac astudio sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i astudio’n fwy craff. P’un a ydych chi’n chwilio am awgrymiadau cyflym neu i ailwampio eich strategaeth adolygu yn llwyr, mae’r llyfrau hyn yn berffaith ar gyfer pori drwyddynt pan fydd arnoch angen arweiniad ychwanegol. Yn ddelfrydol ar gyfer mireinio sgiliau, rhoi hwb i hyder, neu roi cynnig ar ddull newydd o astudio. Porwch y tro nesaf y byddwch chi yn y llyfrgell – fe welwch y casgliad ar Lawr F, gyferbyn â’r lifft yn Llyfrgell Hugh Owen, a gyferbyn â’r Ddesg Ymholiadau yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.

Dewch o hyd i’ch man astudio perffaith

Mae’n ymwneud â lleoliad, lleoliad, lleoliad! Os oes arnoch angen amser tawel i ganolbwyntio, mae gan Lyfrgell Hugh Owen, a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar y campws, yn ogystal â’r Weithfan yn y dref ddigon o fannau astudio tawel wedi’u cynllunio ar gyfer adolygu.

Tylluan y nos? Llenwi’ch pen â gwybodaeth ben bore? Rhywle yn y canol?
Nid yw adolygu yn cadw oriau swyddfa – ac nid yw’r llyfrgell chwaith. Yn ystod cyfnod yr arholiadau ac adolygu, mae holl loriau Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24/7 fel y gallwch bori trwy lyfr, gwirio cyfeirnod eto, neu wasgu rhywfaint o adolygu munud olaf pryd bynnag y byddwch yn teimlo’r cymhelliad. Ac os ydych chi’n astudio ar ôl oriau craidd ac yn awyddus i adolygu am 2yb, gwnewch yn siŵr bod gennych eich Cerdyn Aber i fynd i mewn ac allan o Lyfrgell Hugh Owen.

Mae arholiadau’n heriol – allwch chi ddim gwadu hynny – ond pan fyddwch chi’n camu’n ôl, cofiwch mai dim ond un rhan o’ch taith yn y brifysgol ydyn nhw. Byddwch yn garedig â chi’ch hun, cymerwch seibiannau, bwytewch brydau go iawn (nid byrbrydau yn unig), a sicrhewch eich bod yn cael rhywfaint o gwsg. Gall manteisio i’r eithaf ar y cymorth adolygu a’r mannau astudio sydd ar gael yn y llyfrgell eich helpu i aros ar y trywydd iawn.

Rydych chi wedi dysgu llawer – nawr yw’r amser i ddod â’r cyfan at ei gilydd.

Pob lwc!